To read this blog in English please click here

Mae pob bywyd ar y ddaear yn dibynnu ar ddŵr - planhigion, bywyd gwyllt, pobl – dyma’r un gynhaliaeth sylfaenol sy’n gyffredin i bob un ohonom. Rydym i gyd yn gwybod pa mor arbennig yw hi i gael cipolwg ar fywyd gwyllt yn ei elfen - dyfrgwn yn ymddiddan a chwarae yn yr afonydd, y gylfinir yn galw ar draws y rhostir, gweld pennau cyfarwydd y cotieir yn siglo wrth iddyn nhw arnofio ar wyneb pyllau – ac mae’r holl fywyd gwyllt hwn, yn union fel y ni, angen dŵr glân i fyw arno a’i fwynhau. Mae cwmnïau dŵr fel Dŵr Cymru a Dŵr Severn Trent hefyd yn dibynnu ar natur. Mae darparu dŵr glân a chael gwared ar wastraff yn dibynnu ar natur, ac yn cael effaith enfawr ar y bywyd gwyllt a’r tirweddau sy’n annwyl i ni. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr bod gofal priodol dros ein tirweddau hardd a’n bywyd gwyllt, mae angen i gwmnïau dŵr gymryd camau rhagweithiol ar eu rhan. Rydym yn gwybod bod rhywogaethau dŵr croyw yn y Deyrnas Unedig mewn trafferth. Nodwyd yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 bod 13% o rywogaethau dŵr croyw y Deyrnas Unedig mewn perygl o ddiflannu, ac mae gan bawb ohonom rôl i'w chwarae o ran sicrhau dyfodol i'r rhywogaethau hyn. Gallwch wneud eich rhan drwy ofyn i'ch cwmni dŵr wneud eu rhan hwythau – drwy ofyn iddyn nhw wneud #MwyDrosNatur gyda thrydariad.

Mae gan unigolion fel chi rôl enfawr i'w chwarae o ran annog cwmnïau dŵr i fuddsoddi mwy ym myd natur a'r amgylchedd. Bydd cwmnïau dŵr yn llunio eu cynlluniau busnes ar gyfer 2020-2025 yn y misoedd nesaf, a fydd yn amlinellu sut byddan nhw’n gwario arian eu cwsmeriaid. Disgwylir y bydd cyfanswm o £3 biliwn yn cael ei wario yng Nghymru ar ddŵr a rheolaeth amgylcheddol, sy'n golygu bod y cyfleoedd yn enfawr. Mae’r modd y mae'r arian yn cael ei wario yn dibynnu ar yr hyn rydych chi, y cwsmer, ei eisiau.

Drwy drydar hunlun yn gysylltiedig â dŵr a thagio eich cwmni dŵr ynghyd â’r hashnod #MwyDrosNatur, byddwch yn rhoi’r golau gwyrdd i gwmnïau dŵr wneud mwy dros natur.

Daw ymgyrch #MwyDrosNatur i ganlyn lansiad dogfen Glasbrint ar gyfer Adolygiad Prisiol PR19 yng Nghymru gyntaf erioed ar 18 Mai, lle galwodd partneriaeth o 28 o Sefydliadau Anllywodraethol ar gwmnïau dŵr yng Nghymru i fuddsoddi mwy mewn natur i helpu pobl, byd natur a'r amgylchedd.

Mae'r ymgyrch #MwyDrosNatur yn gyfle i chi i ymuno â ni gan sefyll fyny dros natur a wneud i newid ddigwydd. Y cyfan a ofynnwn yw i'r hunluniau fod yn gysylltiedig â dŵr. Gallai'r rhain fod yn lluniau ohonoch chi ger llyn neu afon, yn nofio yn yr awyr agored, neu hyd yn oed yn brwsio eich dannedd! Dyma rai enghreifftiau o'r math o drydariadau a hunluniau a fydd yn helpu cwmnïau dŵr i wneud #MwyDrosNatur:

  • Rydw i eisiau i @dwrcymru wneud #MwyDrosNatur yn ei gynllun busnes ar gyfer 2020-25 @ofwat.
  • Rydw i’n cefnogi galwad @RSPBCymru ar @stwater i wneud #MwyDrosNatur @ofwat.
  • Rydw i’n cefnogi Glasbrint ar gyfer PR19 yng Nghymru @waleslink. Rydw i eisiau i @stwater wneud #MwyDrosNatur @ofwat.

Os yw eich dŵr yn cael ei ddarparu gan Dŵr Cymru, trydarwch @dwrcymru, ac os ydych chi’n cael cyflenwad gan Ddŵr Dyffryn Dyfrdwy neu Ddŵr Severn Trent, trydarwch @stwater, gan fod Dŵr Severn Trent wrthi’n ymgymryd â Dŵr Dyffryn Dyfrdwy ar hyn o bryd. Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw eich cwmni dŵr, gall y map hwn eich helpu chi i wybod pwy yw eich darparwr - http://www.water.org.uk/consumers/find-your-supplier. Gallech hefyd dynnu sylw rheoleiddiwr eich cwmni dŵr drwy ychwanegu @ofwat at eich neges. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, gallwch ofyn i'ch cwmnïau dŵr wneud #MwyDrosNatur drwy gysylltu â'ch cyflenwr priodol drwy e-bost, dros y ffôn neu ar-lein.

Rydym yn dibynnu ar gwmnïau dŵr, maen nhw’n dibynnu ar natur, ac mae natur yn dibynnu arnom ni! Mae hi mor bwysig ein bod ni’n gwneud hyn er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau ein byd natur hyfryd mewn cyflwr hyd yn oed yn well nag y mae ynddo heddiw. Felly, ewch ati i gysylltu â'ch cwmnïau dŵr i wneud #MwyDrosNatur heddiw!

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg tan 1 Awst. Am ragor o ganllawiau ar sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch #MwyDrosNatur, dilynwch @RSPBCymru neu RSPB Cymru ar facebook.