English version available here
by Emily WilliamsUwch-swyddog Polisi Morol, RSPB Cymru
Mae Cymru’n bwysig yn fyd-eang ar gyfer adar môr. Mae dros hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw yn nythu o dan y ddaear mewn tyllau ar ynysoedd Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae’r drydedd nythfa huganod fwyaf yn y byd i’w chael oddi ar arfordir Sir Benfro ar Ynys Gwales.
Mae llursod a gwylogod yn nythu ar glogwyni uchel, ac mae nythfa môr-wenoliaid yr Arctig fwyaf y DU i’w chael ar ynysoedd is Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar Ynys Môn.
Mae’r adar môr hyn i gyd, a bywyd gwyllt arall, yn dibynnu ar foroedd iach.
Mae adar môr yn ddangosydd allweddol o iechyd cyffredinol ecosystemau morol, ond mae poblogaethau ledled y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gan gynnwys rhai yng Nghymru. Yn anffodus, mae bygythiadau i adar y môr yn cynyddu, sy’n cael eu sbarduno gan newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr.
Mae cyflawni camau cadwraeth ar gyfer adar y môr pan fyddan nhw ar y môr yn heriol – mae’n llawer gwell lleihau’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu. Felly, mae cynllunio gofalus o ran sut mae gweithgareddau pobl ar y môr yn digwydd, a ble maen nhw’n digwydd, yn hanfodol.
Nid yw systemau cynllunio yn yr amgylchedd morol wedi cyd-fynd ag esblygiad a graddfa’r datblygiad – yn enwedig gwynt ar y môr. Yn y Môr Celtaidd, mae Ystad y Goron yn gweithio tuag at 4GW o wynt sy’n arnofio ar y môr erbyn 2035 a gallai hyn ymestyn i 20GW erbyn 2045. Bydd hyn yn gofyn am rannau helaeth o’r amgylchedd morol yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Y Môr Celtaidd yw un o ardaloedd pwysicaf y DU ar gyfer adar y môr. Maen nhw’n bridio, yn gaeafu neu’n mudo, ac yn defnyddio’r ardal forol hon yn eu miliynau. Gall gwynt ar y môr effeithio ar adar y môr mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy wrthdaro uniongyrchol, effeithio ar y bwyd sydd ar gael, a gwneud i adar môr symud i foroedd eraill.
Nid oes modd gwadu rôl gwynt ar y môr wrth ddatgarboneiddio ein systemau ynni, ond mae angen i hyn ddigwydd mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio’n ofalus. Er mwyn sicrhau bod gwynt arnofiol yn dod yn rhan o’r ateb ac nid yn fwy o’r broblem, mae angen i ni sicrhau bod y technolegau cywir yn y lle iawn, gyda digon o le ar gyfer byd natur.
Wrth i foroedd Cymru fynd yn fwy prysur, rhaid inni sicrhau ein bod yn creu system gynllunio forol gadarn, strategol a gofodol sy’n gweithio i bawb. Mae angen cyflwyno cynllun datblygu morol sy’n:
Mae cynlluniau datblygu yn sail i’n system gynllunio ar dir ac yn sicrhau bod penderfyniadau strategol yn cael eu gwneud mewn modd blaengar, gofodol a chyfannol. Mae angen i’r system hon gael ei hadlewyrchu ar frys yn y byd morol.
Mae cynllun datblygu yn ddogfen statudol sy’n tywys datblygiad, o fewn ardal ddaearyddol benodol, drwy nodi cyd-destun cynllunio gofodol a chyfres o bolisïau cynllunio manwl y gall penderfynwyr eu defnyddio i benderfynu ar geisiadau unigol. Nid yw’r cynnwys polisi strategol gofodol a manwl hwn yn bodoli yn y cyd-destun morol. Wrth i ni weld y gweithgareddau yn y môr yn amrywio ac yn dwysáu, mae’r angen am gynllun datblygu o’r fath ar gyfer ein hardaloedd morol yn cael ei amlygu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i “ddarparu mwy o ragnodi gofodol ar gyfer diogelu ein moroedd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy”. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r cyfeiriad iawn ac rydym yn barod i weithio gyda’r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i helpu i fwrw ymlaen â hyn.
Gallwch chi hefyd weithredu dros adar y môr. Gyrrwch gerdyn post i Lywodraeth Cymru ac helpwch i ni #AchubEinHadarMôr!