Croeso cynnes Cymreig i Adar Drycin Manaw

English version available here

Efallai mai aderyn Drycin Manaw yw cyfrinach fwyaf Cymru. Er bod dros 50% o boblogaeth y byd yng Nghymru, ychydig iawn o bobl sydd wedi gweld yr aderyn môr anhygoel hwn erioed.

Mae miliynau o flynyddoedd o esblygiad wedi arwain at strategaeth bridio adar Drycin Manaw - sef mewn tyllau ar ynysoedd heb ysglyfaethwyr ar y ddaear, a dim ond dod i’r lan gyda’r nos i osgoi cael eu bwyta gan adar mwy. Mae adenydd hir ar gyfer teithiau mudo epig i arfordir yr Ariannin, ynghyd â choesau sydd wedi’u gosod yng nghefn y corff i helpu i nofio, yn creu aderyn sy’n cerdded yn drwsgl ar dir. Petaent yn dod i’r tir yn ystod y dydd felly, byddai ysglyfaethwyr yn eu dal yn hawdd.

Bob gwanwyn, mae adar Drycin Manaw yn cyflawni’r daith eithriadol o arfordiroedd yr Ariannin yn ne’r Iwerydd i ynysoedd Cymru. Fel arfer, erbyn y cyfnodau lleuad newydd ym mis Ebrill, mae’r awyr nos ar ynysoedd Cymru, fel safle’r RSPB ar Ynys Dewi yn llawn eu cri nodweddiadol wrth i’r adar anelu am yr union nyth a wnaethon nhw fagu ynddi y llynedd - ac o bosib dros y 30 i 40 o flynyddoedd cyn hynny!

O’r holl rywogaethau, mae Cymru’n fwyaf arwyddocaol yn rhyngwladol am y poblogaethau o adar Drycin Manaw y mae’n ei chynnal; gan roi cartref i 50% o’r adar môr hyn. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y niferoedd hyn yn cael eu cynnal.

Stori adar Drycin Manaw ar RSPB Ynys Dewi

Yn ôl yng nghanol y ddeunawfed ganrif, cafodd arfordir Ynys Dewi yn Sir Benfro ei lethu gan wyntoedd cryfion, gan ddod â thaith amryw o long nwyddau i ben yn gynnar ar greigiau miniog yr ynys. Cafodd y digwyddiad hwn effaith ar boblogaethau adar y môr tyrchol RSPB Ynys Dewi am y 150 mlynedd nesaf, wrth i lygod ffyrnig heidio at y lan, a chyn bo hir roeddent wedi difrodi poblogaethau adar Drycin Manaw, Pedrynnod Drycin a Phalod, a oedd wedi bod yn eu hanterth ar un adeg.

Ym 1999/2000 o dan arweiniad Wildlife Management International o Seland Newydd, ymgymerodd yr RSPB â rhaglen uchelgeisiol i ddileu llygod mawr, yr ynys fwyaf i fynd i’r afael â hi yn y DU ar y pryd. Roedd llwyddiant y prosiect hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhaglenni dileu mwy diweddar yr oedd yr RSPB yn ymwneud â nhw ar Ynys Wair ac Ynysoedd Scilly a’r Shiants

Yn 1998, y flwyddyn cyn dileu’r llygod, dim ond 897 pâr o adar Drycin Manaw oedd yn bridio ar Ynys Dewi, gydag ychydig iawn o gywion yn goroesi i fagu plu. Yn yr arolwg llawn cyntaf ar ôl i’r llygod mawr cael eu dileu yn 2007, roedd y nifer hwn wedi neidio i 2,387 pâr. Y llynedd, roedd ein cyfrifiad diweddaraf yn nodi bod 6,225 pâr yn bridio yno! Mae adar drycin yn ffynnu wedi cael gwared ar y llygod mawr rheibus !

Mae’n hollbwysig bod RSPB Ynys Dewi yn parhau i fod yn ardal heb lygod mawr. Mae gennym fesurau bioddiogelwch cadarn ar waith i geisio atal llygod mawr rhag ddod yn ôl i’r ynys, yn ogystal ag unrhyw ysglyfaethwyr goresgynnol estron eraill, fel llygod bach a draenogod. Fodd bynnag, er mwyn diogelu adar y môr fel adar Drycin Manaw, dim ond hanner y frwydr yw’r gwaith o adfer ar ynysoedd a’r gwaith parhaus i warchod safleoedd bridio. Mae ardaloedd lle mae adar drycin yn bwydo ac yn mudo yr un mor bwysig.

"Mae 50% o boblogaeth y byd o adar Drycin Manaw yn bridio yng Nghymru"

Gwarchod adar y môr

O ystyried natur eang aderyn Drycin Manaw, sy’n gallu teithio i ddyfroedd oddi ar Ynys Manaw ac yn ôl mewn diwrnod i fwydo, a threulio chwe mis y flwyddyn yn hemisffer y de, mae’n hanfodol i reoli gweithgareddau’n briodol ar y môr.  

Mae adar y môr yn ddangosydd allweddol o iechyd cyffredinol ecosystemau morol, ond mae poblogaethau ledled y DU wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, gan gynnwys rhai yng Nghymru. Yn anffodus, mae bygythiadau i adar y môr yn cynyddu, sy’n cael eu sbarduno gan newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr. Mae cyflawni camau cadwraeth ar gyfer adar y môr pan fyddan nhw ar y môr yn heriol – mae’n llawer gwell lleihau’r bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu. Felly, mae cynllunio gofalus o ran sut mae gweithgareddau pobl ar y môr yn digwydd, a ble maen nhw’n digwydd, yn hanfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr. Mae’n hanfodol bod hwn yn cael ei gyhoeddi eleni, gyda chyllid penodol ar gael i gyflawni’r camau gweithredu y mae’n eu nodi.


Gyrrwch gerdyn post i Lywodraeth Cymru, yn eu hanog i achub ein Adar y Mor!