Ffermio ar gyfer byd natur a phobl

English version available here.

Ar ddechrau'r haf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, sef ymgynghoriad ynghylch sut dylai polisi amaeth newydd i Gymru edrych a beth ddylai ei gyflawni, ar ôl Brexit. Dyma gyfle i bawb, o ffermwyr a thirfeddianwyr i elusennau amgylcheddol ac aelodau o'r cyhoedd, roi eu barn ar gynlluniau'r Llywodraeth.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Yn gryno, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig system newydd ar gyfer rheoli tir, sy’n defnyddio arian trethdalwyr i hybu cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac sy’n gwobrwyo ffermwyr am adfer byd natur a gofalu amdano er lles pawb yng Nghymru. 

Dyma newid mawr o bolisïau amaeth y gorffennol, sydd wedi siapio’r ffordd rydym yn ffermio’r tir. Mae’r cynlluniau hyn, fel y System Taliadau Sylfaenol sy’n talu ffermwyr am faint o dir maent yn berchen arno - wedi bod yn annigonol i gynnal amaeth. Mae’r ffaith ein bod wedi colli 830 o ffermydd ers 2013, a bod mwy o ffermwyr rhan amser na ffermwyr llawn amser ers y 2000au cynnar, er bod 80% o incwm ffermydd yn dod o gymorthdaliadau, yn dangos nad yw'r system bresennol yn gweithio yn economaidd.

 Mae’r amgylchedd hefyd wedi dioddef dan y cynlluniau hyn. Mae polisïau amaeth y gorffennol wedi ffafrio cynhyrchiant, heb roi fawr o feddwl i fyd natur a bywyd gwyllt. Mae Cymru nawr yn un o'r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, ac yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, mae un o bob chwech o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddifodiant. Mae llawer o rywogaethau ar dir amaethyddol mewn trafferth, ac mae rhywogaethau a oedd yn arfer bod yn eang a chyffredin, megis y bras melyn, y gornchwiglen a’r gylfinir, yn lleihau’n gyflym.

System sy’n addas i bawb?

Dyna pam mae’r cynigion yn Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn rhai mor addawol. Drwy newid i system lle mae ffermwyr yn cael eu helpu i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o safon uchel, ac yn cael eu gwobrwyo am ofalu am fyd natur a’r amgylchedd, bydd hynny’n gam enfawr ymlaen. Bydd yn hybu amaeth sy’n garedig tuag at fyd natur, er mwyn i ni allu bwydo poblogaeth gynyddol y byd ac i roi nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus i ni, megis aer a dŵr glan, atal llifogydd, mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a helpu byd natur i ffynnu.

Dyma ddechrau addawol, ond mae llawer i'w wneud o hyd, ac mae’n bwysig cymryd y camau cywir i sicrhau bod hyn yn gweithio i ffermwyr a’r amgylchedd. Mae’n hanfodol i'r cynllun newydd fod yn holl-gynhwysfawr, a bod pob ffermwr a thirfeddiannwr yn cael ei wahodd i fod yn rhan ohono. Dylai'r cynllun gael targedau clir i fynd i'r afael â cholli bywyd gwyllt, ac i adfer cynefinoedd gwerthfawr fel mawnogydd, coetiroedd a dolydd blodau gwyllt sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i ni. Bydd angen i ffermwyr gael y cymorth ariannol cywir gan y Llywodraeth. Rydym wedi cyfrifo y bydd angen i Gymru dalu o leiaf £273 miliwn y flwyddyn i ffermwyr i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau amgylcheddol, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â bioamrywiaeth. Mae’n swm tebyg i'r hyn maent yn ei gael drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewropeaidd.

I lawer, bydd yn dipyn o her i newid y ffordd rydym yn rheoli ein tir, ond fe fydd yn darparu cyfleoedd newydd. Mae’n gyfle i ffermwyr gael eu gwobrwyo'n deg am ofalu am ein hamgylchedd, a hynny er lles byd natur a’n cymdeithas. Mae’n bwysig nawr i ffermwyr, rheolwyr tir a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau weithio gyda’i gilydd a chytuno ar y ffordd orau ymlaen i fyd amaeth, yr amgylchedd a’n cymunedau gwledig.