Sefyllfa Byd Natur yng Nghymru: ein hymateb

English version available here.

Mae Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton, yn amlinellu pam y dylai pob un ohonom godi ein llais ynglŷn â’r argyfwng sy’n wynebu byd natur, ond pam fod ganddi hefyd obaith ar gyfer y dyfodol.

Treuliais y penwythnos diwethaf yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, yn dangos i ymddiriedolwyr RSPB rywfaint o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i adfer gwlyptiroedd yn Ynys Môn, mawnogydd yn Llyn Efyrnwy, a gyda chydweithwyr o Barc Cenedlaethol Eryri, coetiroedd derw anhygoel Meirionnydd sy’n gyfoethog o gen: ein Fforestydd Glaw Celtaidd. Cefais fy ysbrydoli yn ystod yr ychydig ddiwrnodau hynny gan frwdfrydedd amlwg ein staff a’n gwirfoddolwyr tuag at fyd natur oedd yn cynnig gobaith a goleuni ar benwythnos o dywydd hydrefol.

Mae angen y gobaith hwnnw ar bob un ohonom, yn enwedig pan ydych yn clywed drosoch eich hun gan bobl sy’n cofnodi ac yn dyst i’r disbyddu ym myd natur yng Nghymru. Mae’r cyfoeth hwnnw o ddata, gan filoedd o bobl sy’n cofnodi ac adnabod – nifer ohonynt yn wirfoddolwyr arbenigol – wedi’i ddefnyddio i baratoi adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 Cymru.

 Felly, beth mae'n ei ddweud wrthym?

Y brif neges, yn anffodus, yw nad yw’r dirywiad ym myd natur yn gwella, na’r pwysau y mae'n ei wynebu. Nid yw Cymru’n wahanol i unrhyw wlad arall: rydym yn profi argyfwng ecolegol. Mae hyn yn bwysig. Rydym yn dibynnu ar natur, ar gyfer yr aer a anadlwn, y bwyd yr ydym yn ei fwyta, y dŵr a yfwn a’r llefydd yr ydym yn eu mwynhau. A gan fod gwerth cynhenid i natur, mae cyfrifoldeb arnom i gynnal yr amrywiaeth ryfeddol a gwych hwn o rywogaethau a chynefinoedd.

Capsiwn: Gwiwer goch (uchod) a gylfinbraff (isod), dwy rywogaeth sydd dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr yng Nghymru

Ydi Llywodraeth Cymru’n gwrando?

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ddatganiad fod yna argyfwng hinsoddol. Bythefnos yn ôl yn unig, roedd miloedd o bobl ifanc (a rhai hŷn hefyd) ar strydoedd Cymru’n codi eu llais i ofyn i lywodraeth weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng sy’n wynebu’r hinsawdd a byd natur. Mae’r gefnogaeth i’n hymgyrch Gad Natur Ganu yn dangos bod cefnogaeth gyhoeddus gref i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol law yn llaw ag argyfwng yr hinsawdd.

Cefnogir Sefyllfa Byd Natur 2019 gan nifer o gyrff y llywodraeth, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â dilysrwydd yr wyddoniaeth. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Llesiant Cymru 2018-19, ei adroddiad blynyddol ar y cynnydd y mae Cymru’n ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant. Mae’r Llywodraeth i’w ganmol am gasglu’r data hwn a pharatoi’r adroddiad; mae’n un o ychydig wledydd yn y byd sy’n gwneud hyn. Mae'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a gefnogwyd yn gryf gan aelodau’r RSPB wrth iddo fynd drwy’r Senedd.

Ydi Llywodraeth Cymru’n gweithredu?

Rydym wedi clywed y geiriau da, ac nid ydym yn amau’r ymroddiad, ond mae angen gweithredu heb oedi. Dyma’r pum peth y tynnir sylw atynt yn Sefyllfa Byd Natur 2019 Cymru sy’n galw am weithredu ar frys:

  1. Mae’r adroddiad yn tanlinellu bod gwariant y sector cyhoeddus ar fioamrywiaeth yn y DU, fel canran o CDG, wedi gostwng o 39% ers 2008/09. Mae pawb yn gwybod bod arian cyhoeddus wedi bod yn brin yn ystod y degawd diwethaf, ond mae'n ymddangos bod y fwyell wedi disgyn yn drwm ar fyd natur. Ym mis Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog y byddai adfer bioamrywiaeth yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb nesaf. Felly, beth am weld y geiriau hyn yn cael eu cefnogi drwy gyfeirio arian gwirioneddol i’r blaenoriaethau pwysicaf.
  2. Mae angen i adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i wyrdroi dirywiad byd natur; mae angen i bob sector gyfrannu gan ein bod yn gwybod bod natur yn cyfrannu at gynifer o agweddau o’n llesiant. Rydym am weld y llywodraeth yn adfer bioamrywiaeth trwy ei gynnwys ym mhob rhan o gyllideb nesaf Llywodraeth Cymru.
  3. Mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gael yr adnoddau i allu dynodi, monitro a rheoli’n well ein safleoedd gwarchodedig ar y tir a’r môr. Y rhain yw Gwir Drysorau byd natur Cymru ond mae nifer ohonynt mewn cyflwr gwael: yn ôl yr adolygiad diwethaf – yn 2013 – nid oedd 55% o rywogaethau ar safleoedd Natura 2000 (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig) yn cyrraedd eu statws targed. Ac mae diffyg adnoddau i gynnal yr asesiadau’n golygu na ŵyr unrhyw un os yw’r sefyllfa’n gwella neu’n gwaethygu (mi fentra i mai’r olaf sy’n gywir).
  4. Mae angen i’r safleoedd arbennig hyn gael eu diogelu’n well, eu rheoli, ehangu a’u cysylltu. Bydd hynny’n eu gwneud yn well i fyd natur ac yn fwy cadarn ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, yn cynnwys anrhefn yr hinsawdd. Mae gwella cyflwr cynefinoedd ar dir ac ar fôr yn gam hollbwysig i wyrdroi dirywiad byd natur, ond hefyd i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd – mae cynefinoedd iach yn storio mwy o garbon. Erbyn 2025 rydym eisiau gweld o leiaf 20% o dir yng Nghymru’n cael ei reoli’n dda ar gyfer byd natur. Mae hynny’n galw am feddwl a gweithredu mwy uchelgeisiol.
  5. Mae Sefyllfa Byd Natur 2019 Cymru yn cynnig bod amaethyddiaeth wedi bod yn ffactor allweddol i ysgogi dirywiad byd natur. Mae bywyd gwyllt ar dir fferm ymysg y rhai mwyaf bregus yng Nghymru; mae turturod a bras yr ŷd eisoes yn brin fel adar bridio yng Nghymru, ac mae angen cryn ymdrech i atal yr un dirywiad yn niferoedd y gylfinir a’r rugiar ddu yn y dyfodol. Mae gwaith presennol Llywodraeth Cymru i gynllunio system newydd o gefnogaeth i ffermydd yn gyfle unigryw i wyrdroi’r gostyngiad yma.

A dyna lle gallwch chi, ein cefnogwyr, helpu heddiw a rhoi hyd yn oed mwy o obaith. Credwn y bydd defnyddio arian trethdalwyr i dalu ffermwyr a rheolwyr tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus fel dŵr glân, aer glân, storio carbon a bywyd gwyllt, gan gefnogi system gynhyrchu bwyd gynaliadwy, yn hanfodol i wyrdroi’r dirywiad ym myd natur. Gall pob un ohonom helpu trwy alw am well dyfodol i fyd natur, i ffermio ac i bobl Cymru.

Mae Sefyllfa Byd Natur 2019 Cymru’n cynnig gobaith; mae prosiectau cadwraeth gwych yng Nghymru ac rwy’n hynod o falch o’r rôl arweiniol y mae RSPB Cymru’n ei chwarae yn rhai o’r rhain. Ond mae angen i'r prosiectau hyn fod yn rhai prif ffrwd, mae angen i arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw Brexit yn gadael yr amgylchedd mewn sefyllfa waeth: bod mesurau diogelu amgylcheddol yn cael eu gwella, bod corff gwarchod cadarn yn hyrwyddo a gorfodi cadwraeth, ac yn gwneud targedau adfer byd natur yn orfodol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn cymryd camau trawsnewidiol i wthio’r ymgyrch i adfer byd natur ymlaen.

Y tro nesaf y cyhoeddir Sefyllfa Byd Natur, fy ngobaith yw na fydd angen ysgrifennu hyn eto.

Images in the order they appear: Louise Greenhorn, Ben Andrew, Eleanor Bentall (all rspb-images.com)