English version available here 

Hyd yma, mae swm anferth o 4,000 o bobl wedi ymateb i ymgyrchoedd RSPB Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru a Choed Cadw ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. I ddathlu'r gefnogaeth wych hon dros natur, cyfarfu cyfarwyddwyr Cyswllt Amgylchedd Cymru, RSPB Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, WWF Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, a'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC, ar risiau'r Senedd heddiw.

Cafodd lythyr agored ei roi iddynt yn crynhoi'r 4,000 o ymatebion ymgyrch yn galw am bolisi ffermio sy'n gwneud y gorau i ddarparu nwyddau cyhoeddus fel priddoedd iach, aer glân, dŵr a storio carbon. Fe wnaethon ni arddangos graffiti ysgubol a gynhyrchwyd gan yr artist Amelia Unity o Gaerdydd, sy'n pwysleisio dirywiad bywyd gwyllt y ffermdir yng Nghymru. Mae'r pum darn o graffiti a gomisiynwyd yn dangos colled rhywogaethau annwyl, gan gynnwys y gardwenynen fain, gylfinirod, llygod y dŵr a chornchwiglod.

#AngenNatur