Fferm organig gymysg ar lawr gwlad yw Slade Farm yn Saint-y-brid ym Mro Morgannwg ac mae’n cael ei rheoli gan Polly Davies a'i theulu. Mae Polly yn rheoli'r fferm mewn harmoni â'r cynefinoedd naturiol. Fel fferm organig, does dim defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr ac mae arbenigwyr hefyd yn cael eu cyflogi i ddatblygu cynefinoedd naturiol ar gyfer planhigion tir fferm a bywyd gwyllt cynhenid.
Mae'r fferm yn enghraifft wych o sut y gall ffermwyr a rheolwyr tir weithio ar y cyd â byd natur i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chadernid economaidd. Trwy ymweld â'r fferm, roeddem am ddangos i Aelodau'r Cynulliad sut y gellid defnyddio arian trethdalwyr i gyflawni hyn wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny ar ffurf Cynllun Nwyddau Cyhoeddus a Chadernid Economaidd wedi'u cyfuno.
Gan gymryd seibiant o Fae Caerdydd am ychydig oriau, ymunodd pump AC sy'n aelodau o bwyllgor NHAMG â ni ar y fferm, sef Mike Hedges, John Griffiths, Jenny Rathbone, Joyce Watson ac Andrew RT Davies. Mynychodd nifer o gynrychiolwyr o sefydliadau eraill y digwyddiad hefyd, gan gynnwys y Soil Association.
Bwriad yr ymweliad oedd cyfrannu at ymchwiliad bioamrywiaeth sydd ar fin cael ei gynnal gan NHAMG, ac i dynnu sylw at yr angen am bolisi yn y dyfodol i roi'r hyn sydd ei hangen ar ffermwyr er mwyn iddynt allu adfer byd natur. Wrth i ni gyrraedd y fferm roeddem ni mewn pryd i weld yr anifeiliaid yn cael eu brecwast, ac yna dechreuodd Polly drwy esbonio'r dulliau hynny o weithio sy'n cael eu defnyddio ar Slade Farm sydd o fudd i fyd natur, gan gynnwys aredig caeau i dyfu grawnfwydydd. Mae'r arfer hwn wedi prinhau yn sylweddol dros y degawdau diwethaf - mater sydd wedi cyfrannu at y dirywiad cyffredinol ym myd natur ar dir fferm.
Gyda'r haul yn gwenu, cafwyd cyfle i fynd am dro ar gefn trelar er mwyn i Polly gael dangos i ni sut yn union y mae'n rheoli ei fferm ecogyfeillgar, yn arbennig y gwahanol gynefinoedd a grëwyd a sut mae amrywiaeth o rywogaethau, fel yr ehedydd, yn elwa ohonynt. Wrth sôn am pam ei bod mor bwysig i weithio gyda byd natur, meddai Polly Davies:
"Mae'n rhaid i ni fel ffermwyr fod yn gyfrifol nid yn unig am ein gallu i wneud elw ond i'r amgylchedd hefyd. Os ydym yn cael ein talu am rywbeth, mae’n rhaid i ni allu esbonio paham yn glir i'r trethdalwr. Dwi 'mond yn stiward dros dro yma, yn gofalu am y tir am gyfnod byr tra bydd byd natur yma am gyfnod hir, felly mae gen i gyfrifoldeb i ofalu amdano."
Yn ogystal â gwrando ar syniadau Polly, un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd cael cyfle i weld y breision melyn sydd yn byw ar Slade Farm. Mae'r bras melyn ymysg y rhywogaethau sydd wedi prinhau fwyaf yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2018 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, felly roedd eu gweld yn brofiad braf i bawb. Fel adarwr brwd, roedd Joyce Watson AC yn arbennig o gyffrous gan mai dyma'r tro cyntaf iddi weld yr aderyn cynyddol brin hwn.
Hoffem ddiolch i Polly a phawb arall oedd yno ar gyfer ymweliad bendigedig ac rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach at ymholiad NHAMG yn y sesiwn dystiolaeth ar 7 Chwefror. Wrth i ein gwaith ar bolisi amaethyddol Cymru'r dyfodol ddwysáu dros y misoedd nesaf, bydd angen cymorth cymaint o'n cefnogwyr â phosibl arnom ni i sicrhau bod y polisïau sy'n cael eu creu yn deg i fyd natur. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gallwch gofrestru i fod yn un o'n ymgyrchwyr ni yma. Beth amdani!
Lluniau yn y drefn maen nhw'n ymddangos: Defaid Slade Farm ac Polly Davies yn siarad gyda ACau ac aelodau pwyllgor NHAMG.