To read this blog in English please click here.


Uchod: wythnos gwirfoddolwyr yn RSPB Cors Ddyga

Ar ddechrau Mehefin daeth grŵp o ddeg gwirfoddolwr i ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda ni yn RSPB Cors Ddyga (RSPB Malltraeth Marsh yn flaenorol). Cawsom amser gwych yn dysgu am waith gwirfoddolwyr eraill dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, dywedodd Warden Cynorthwyol RSPB Cors Ddyga, Ken Maurice, am y gwaith o reoli cynefinoedd y safle yn cynnwys ffensio, torri brwyn, clirio cyrsiau dŵr a diddymu rhywogaethau ymwthiol fel Jac y Neidiwr. Ac roedd hi’n arbennig o dda clywed am yr holl waith caled tra'n bwyta llond ein boliau o gacennau!

Cawsom gyfle i gerdded o amgylch y warchodfa a gweld rhai adar arbennig a thymhorol, er enghraifft, gwelsom wenoliaid, gwenoliaid duon, gwyddau Canada, bras y gors, telorion y gors, cornchwiglod gyda’u cywion bach, boda’r gwerni a chlywsom sïon fod aderyn y bwn yno hefyd.

O’r diwedd roedd hi’n amser i ni fwrw iddi ac adeiladu blychau nyth ar gyfer adar bach fel y titw tomos las a’r titw mawr ac mae gennym yn awr wyth cartref newydd yn barod i groesawu eu gwesteion arbennig.

Uchod: chwith, gwlio adar; dde, adeiladu cartrefi i fyd natur.

Os hoffech ymuno â’n teulu o wirfoddolwyr yn RSPB Cors Ddyga, ewch i www.rspb.org/Volunteering i ddarganfod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli gyda RSPB Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yng Ngogledd Cymru, cysylltwch â’n Swyddog Datblygu Cymunedol a Gwirfoddolwyr, Eva Vazquez ar eva.vazquezgarcia@rspb.org.uk / 01248 672850.

Ac yn olaf, diolch yn fawr i bawb am eu holl waith caled yn RSPB Cors Ddyga gan helpu i roi cartrefi gwerthfawr i fyd natur!


Uchod: cartrefi newydd yn barod ar gyfer eu gwesteion arbennig