Dim lle i oedi pellach cyn sicrhau’r newid sylweddol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng natur

English version available here

Croesawom y Papur Gwyn ar egwyddorion amgylcheddol, targedau llywodraethu a bioamrywiaeth a'r cadarnhad dilynol o'r Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn Natganiad Deddfwriaethol diweddar Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod (a’i helwir yn 'Bil Natur Positif' yn flaenorol). 

Bydd y Bil yn gwneud tair swydd hanfodol:  

  • dod ag egwyddorion amgylcheddol craidd, a arferai fod yn rhan o'n fframwaith cyfreithiol trwy aelodaeth y DU o'r UE, i mewn i gyfraith Cymru; 

  • Sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol newydd i oruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru; a 

  • Creu fframwaith adfer natur newydd gan gynnwys targedau adfer natur sydd wedi eu hymrwymo’n gyfreithiol.

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad drwy ein e-weithred neu fel arall; cyflwynwyd dros 1000 o ymatebion, sy'n rhoi arwydd clir i Lywodraeth Cymru bod y Bil hwn yn bwysig. 

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei hymateb polisi i ymgynghoriad y Papur Gwyn. Mae'n adlewyrchu cefnogaeth eang, o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad, ar gyfer pob agwedd o’r Bil. Yn bwysig, mae hefyd yn ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu meysydd allweddol ymhellach ac mae ‘na arwyddion da bod mewnbwn RSPB Cymru ac eraill ar sut i gryfhau'r ddeddfwriaeth newydd wedi cael ei ystyried.   

Fodd bynnag, mae gennym bryder mawr. Canmolwyd uchelgais y Papur Gwyn ar gyfer bioamrywiaeth, a oedd yn cynnwys prif darged 'natur positif': i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth trwy welliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a'u hadferiad clir erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn nodi y gallai fynd yn ôl a rei gair i  gynnwys y prif darged hwn yn y Bil, gan  awgrymu y gallai gael ei ddisodli gan ddatganiad pwrpas neu o genhadaeth.   

Bydd y Bil yn dal yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion sefydlu ac adrodd ar dargedau bioamrywiaeth sydd wedi eu hymrwymo’n gyfreithiol trwy is-ddeddfwriaeth, ond ofnwn os gollwn y prif darged, gyda'i ddyddiadau allweddol o 2030 a 2050, fydd na risg o danseilio cyflymder y cyflwyno. Gyda 2030 yn frawychus o agos, mae'n hanfodol bod camau brys yn cael eu cymryd i sicrhau newid ystyrlon a mesuradwy cadarnhaol erbyn hynny yn unol ag ymrwymiadau bioamrywiaeth fyd-eang Cymru. 

Mae'r ffaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei phasio ar ddiwedd y Senedd hon, a'i gyflenwad (gan gynnwys creu targedau mewn is-ddeddfwriaeth) am ddechrau’r tymor nesaf, yn ei gwneud yn bwysicach fyth bod y Bil yn cynnal uchelgais y Senedd bresennol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Rhaid iddo beidio â gadael lle i oedi pellach i sicrhau'r newid sylweddol mewn gweithredu sydd ei angen ar natur.   

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir ei bod yn dymuno gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu manylion y Bil yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rydym yn croesawu hyn. Bydd sicrhau'r rheidrwydd ar gyfer gweithredu brys i wrthdroi colli bioamrywiaeth yn brif flaenoriaeth i RSPB Cymru.