English version available here
Yn ddiweddar, ymatebodd RSPB Cymru i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru gyda chynigion i wreiddio egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru, sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru, a chyflwyno targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol.
Rydym wedi bod yn galw am y ddeddfwriaeth hon ers nifer o flynyddoedd ac wedi rhoi ein teitl gwaith ein hunain iddi – 'y Bil Natur Bositif'. Diolch i bawb sydd wedi gweithredu, ac ychwanegu eu llais i gefnogi'r Bil i anfon neges gref at Lywodraeth Cymru - dros 850 ohonoch chi!
Pam fod y Bil Natur Bositif mor bwysig?
Mae gwreiddio'r egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru a chreu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol yn gamau hanfodol i sicrhau gwarchodaeth amgylcheddol gadarn - bydd hyn yn mynd i'r afael â bwlch a agorodd ar ôl i'r DU adael yr UE.
Fodd bynnag, nid yw cynnal safonau presennol yn ddigon - fel y mae adroddiad[1] Sefyllfa Byd Natur Cymru yn ei ddangos i ni, mae bioamrywiaeth yng Nghymru yn dirywio'n ddifrifol, ac mae Cymru bellach ymysg y gwledydd ar y Ddaear sydd wedi gweld ei natur yn dirywio fwyaf. Er mwyn i Gymru wireddu’r weledigaeth fyd-eang i wrthdroi colli natur erbyn 2030 a gweld natur yn cael ei hadfer ac yn ffynnu erbyn 2050, er budd pawb, mae angen targedau uchelgeisiol, rhwymol arnom i hybu camau gweithredu ar draws y llywodraeth a thraws-sector.
Crynodeb o'n hymateb i'r Papur Gwyn
Croesawom y cynnig y bydd y Bil yn nodi pum egwyddor graidd – integreiddio, yr egwyddor ragofalus, yr egwyddor atal, yr egwyddor mai’r sawl sy’n llygru sy’n talu a'r egwyddor y dylid unioni difrod amgylcheddol yn y ffynhonnell – y prif nod yw sicrhau lefel uchel o warchodaeth amgylcheddol a gwella'r amgylchedd naturiol.
Mae'r egwyddorion yn ffordd o sicrhau na fydd polisïau neu gamau gweithredu arfaethedig yn achosi difrod, ond yn hytrach byddant o fudd i'r amgylchedd; a phe bai’r sefyllfa waethaf yn codi a bod difrod yn digwydd, maent yn dweud sut y dylid unioni hynny.
Fodd bynnag, fe wnaethom alw am gryfhau'r defnydd arfaethedig o'r egwyddorion – dylid bod dyletswydd i gymhwyso, neu weithredu’n unol â'r egwyddorion yn hytrach na'r gofyniad gwannach i 'roi sylw dyledus' iddynt. Dylai'r ddyletswydd hefyd fod yn ehangach - dylai fod yn berthnasol nid yn unig i Weinidogion Cymru, ond hefyd i awdurdodau cyhoeddus eraill; ac yn ddyfnach - dylai nid yn unig fod yn berthnasol wrth wneud polisïau a deddfau, ond hefyd wrth eu gweithredu.
Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i gynnwys egwyddor o 'beidio â llithro’n ôl' - i sicrhau mai dim ond cryfhau gwarchodaeth amgylcheddol, ac nid ei gwanhau, fydd yn bosibl yn y dyfodol.
Rydym yn croesawu cynnig y Papur Gwyn i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol newydd i Gymru. Bydd y corff hwn yn goruchwylio’r dasg o weithredu cyfraith amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn gallu ystyried ac ymchwilio i faterion - ar ei liwt ei hun neu mewn ymateb i bryderon a godwyd gan ddinasyddion - am fethiannau posibl gan gyrff cyhoeddus i gydymffurfio â deddfau amgylcheddol. Bydd hefyd yn craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru yn erbyn targedau amgylcheddol. Mae cyrff cyfatebol eisoes wedi'u creu ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon (Swyddfa Gwarchodaeth Amgylcheddol) a'r Alban (Safonau Amgylcheddol yr Alban).
Yn ein hymateb fe wnaethom alw ar i'r Corff newydd gael pwrpas clir, sef gwarchod a gwella’r amgylchedd, a chael mynediad at gyfres eang o bwerau gorfodi, gan gynnwys yr opsiwn o gosbau ariannol.
Rhaid i'r ddeddfwriaeth gynnwys darpariaethau penodol i warantu annibyniaeth y corff oddi wrth y Llywodraeth a sicrhau ei fod yn cael digon o adnoddau.
Rydym yn falch iawn o weld bod y cynnig yn cynnwys prif darged 'natur bositif' ar ddechrau’r Bil, gyda thargedau ategol mewn is-ddeddfwriaeth. Rydym yn galw am i'r prif darged gynnwys camau a gofynion manwl i sicrhau bod statws bioamrywiaeth wedi gwella ar ddiwedd pob degawd o gymharu â dechrau'r degawd. Rhaid bod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y prif darged a'r targedau ategol yn cael eu cyflawni.
Bydd angen i'r Bil ddatgan yn glir y dylai Gweinidogion gael cyngor annibynnol, a'i ddefnyddio'n dryloyw, i osod targedau, a dylid gosod targedau ategol o fewn chwe mis i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Bydd adrodd ac atebolrwydd yn allweddol, ac rydym yn croesawu'r cynnig fod Gweinidogion yn adrodd i'r Senedd ynghylch a yw targedau wedi'u cyflawni. Os na fydd targed wedi'i gyflawni, rhaid cael proses glir - dylai Gweinidogion nodi'r camau y byddant yn eu cymryd i sicrhau bod y targed yn cael ei gyflawni, a dylai'r Corff Llywodraethu graffu ar y modd y cyflawnir y camau hyn. Cynigiodd y Papur Gwyn y bydd y Bil yn cyflwyno Strategaeth a Chynllun Gweithredu Adfer Natur statudol. Er mwyn rhoi'r hwb sydd ei angen i adfer natur yng Nghymru, bydd angen i'r rhain gael cefnogaeth holl Weinidogion Llywodraeth Cymru, adrannau ac Awdurdodau Cyhoeddus i fynd i'r afael â'r pwysau ar fioamrywiaeth a datblygu cyfleoedd i adfer ar raddfa eang. Bydd angen cysylltiadau cryf â pholisi ac ymarfer ym mhob maes gan gynnwys ffermio, coedwigaeth, ynni, cynllunio a newid yn yr hinsawdd os yw Cymru am lwyddo i adfywio ein bywyd gwyllt gwerthfawr.
Dim amser i'w golli
Pwynt allweddol sy'n berthnasol i bob un o dair rhan y Papur Gwyn yw'r angen i weithredu'n gyflym, bydd rhaid gweithio ar ddatblygu'r corff llywodraethu newydd, canllawiau ar gymhwyso'r egwyddorion, a manylion targedau adfer natur dros y flwyddyn i ddod, tra bod y Bil ei hun yn cael ei ddatblygu. Rydym yn disgwyl i'r Bil gyrraedd y Senedd yng Ngwanwyn 2025.
Edrychwn ymlaen yn awr at barhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni'r gwaith hwn.
[1] Sefyllfa Byda Natur Cymru