I ddarllen y blog yma yn Saesneg cliciwch yma os gwelwch yn ddaEnillwch flwyddyn o atgofion teuluol llawn hwyl gyda Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd, clwb bywyd gwyllt mwyaf cyffrous y ddinas.
Yn gweithredu o’i bencadlys yn Forest Farm, Caerdydd, mae’r clwb yn rhoi’r cyfle i chi a’ch teulu faeddu eu dwylo drwy archwilio natur rhyfedd a rhyfeddol ar eich stepen drws.
Er mwyn ennill aelodaeth i’r teulu am flwyddyn yn rhad ac am ddim, i gyd sydd i chi a’ch teulu ei wneud yw profi eich bod chi’n gallu ymchwilio, drwy ddarganfod pum unigolyn arferol sy’n gweithredu yn #caerdyddgwyllt - cacynen, coeden dderwen, briallen, hwyaden wyllt a phryf genwair.
Darganfyddwch bump o’r pethau hyn ac yna ewch allan i’ch parc lleol neu i’ch gardd a thynnwch lun o’ch natur rhyfeddol, gydag o leiaf un ddelwedd yn cynnwys chi a’ch teulu yn y llun.
Yna, rhannwch eich lluniau ar Facebook gyda RSPB Cymru neu ar Trydar @RSPBCymru wrth ddefnyddio #caerdyddgwyllt a gallwch chi a’ch teulu ennill blwyddyn o atgofion hapus yn chwilio am fywyd gwyllt y ddinas gyda’ch gilydd.
Bydd pob cynnig cywir yn cael ei roi mewn loteri a bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap gan un o gymeriadau bywyd gwyllt mwyaf gwych Caerdydd, Bob y wiwer, ar ddydd Sul 17 Ebrill am 1pm.
Er mwyn darganfod mwy am Dditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd cliciwch yma neu dewch i harddangosfa Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn Sioe Flodau’r RHS Caerdydd o 15-17 Ebrill. Gallwch hefyd anfon e-bost at cymru@rspb.org.uk neu ffonio 02920 353000.
Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn bartneriaeth rhwng RSPB Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd fel rhan o brosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, sy’n anelu at gysylltu miloedd o bobl ifanc gyda natur yn eu hardal nhw.
Nodyn: Mae aelodaeth i’r teulu yn cynnwys 2 x oedolion a 2 x plant.