To read this blog in English please click here.
Ydych chi awydd tipyn o hwyl i’r teulu yn eich parc lleol? A fyddech chi a’ch plant yn mwynhau darganfod yr adar godidog, y gwyfynod a’r bwystfilod bach sy’n byw a bod ar eich stepen drws? Os felly, efallai mai Ditectifs Bywyd Gwyllt Cymru ydi’r lle i chi...
Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yw’r clwb natur mwyaf cyffrous ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd, ac mae’n gyfle gwych i chi a’ch teulu ddynesu at natur ac archwilio natur wyllt rhyfeddol trwy gydol y flwyddyn. Mae’n rhaglen yn eich gwahodd chi a’ch plant i ddod i faeddu eich dwylo wrth fynd ar antur wyllt, o helfa trychfilod i drochi mewn pyllau – mae rhywbeth i bawb, sy’n siŵr o blannu hedyn diddordeb mewn byd natur.
Mwy amdanom ni
Caiff Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd ei redeg mewn partneriaeth a RSPB Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd drwy Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd – gyda’r nod o ddod â miloedd o blant a theuluoedd yng Nghaerdydd yn agosach at fyd natur.
Mae’r Wardeiniaid Cymunedol ac RSPB Cymru yn dîm o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n angerddol dros natur ac sy’n awyddus i rannu eu cariad at fywyd gwyllt gydag eraill.
Pryd ac ym Mhle
Mae'r ditectifs yn cyfarfod ar y trydydd dydd Sul o bob mis yn Fferm y Fforest yng Nghaerdydd. Bydd yna hefyd dripiau’n achlysurol i fannau gwyrdd eraill o amgylch Caerdydd a’r Fro i ddarganfod y creaduriaid a'r bwystfilod sy'n byw yno.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch RSPB Cymru ar cymru@rspb.org.uk neu ffoniwch 02920 353000 / 07525250385 a byddwn yn sicrhau eich bod yn barod i chwilota yn y gwyllt!
Faint mae’n gostio? Codir cost fechan i dalu am adnoddau ond mae dwy ffordd o dalu:
Aelodaeth 1 flwyddyn
£7.50 i bob plentyn (arbed £3.50 i bob plentyn)
Talu ar y diwrnod
£1 i bob plentyn
D.S. Caiff oedolion fwynhau’r hwyl am ddim!
A gaiff plant fwynhau’r hwyl ar eu pen eu hunain? Er bod gan ein harweinwyr archwiliadau gan y DBS (yn ddiogel i weithio gyda phlant) gofynnwn i rieni/gofalwyr aros trwy gydol y cyfarfod. Nid rhywbeth i blant yn unig yw’r awyr agored ac rydym am i chi fel oedolion fwynhau rhyfeddodau byd natur hefyd.
Rwy’n gorfod gweithio ambell ddydd Sul, a gaiff aelodau eraill o’r teulu ddod draw? Mae croeso i Fodrybedd, Ewythrod, Teidiau neu Neiniau fod yn rhan o Dditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd! Er hynny, gofynnwn ichi roi gwybod inni os oes rhywun arall yn dod gyda’ch plant fel ein bod yn gwybod i’w disgwyl ymlaen llaw.
Newid yn y rhaglen Os oes newid yn y rhaglen, byddwn wastad yn ceisio cysylltu â chi ymlaen llaw. Os digwydd inni orfod canslo byddwn wastad yn eich ffonio neu’ch tecstio ar fore’r cyfarfod.
A oes angen inni ddod â rhywbeth gyda ni? Yr oll sydd angen arnoch yw dillad addas i’r tywydd, plant (ac oedolion!) llawn cynnwrf a brwdfrydedd dros natur!
Rhaglen 2016/2017
15/05/16
Llwybr chwilota bywyd gwyllt – Parc Bute
Wildlife explorer trail – Bute Park
19/06/16
Pyllau glan môr a chelf tywod – Sili (debynnol ar y llanw)
Rockpools and sand art – Sully (tide dependant)
17/07/16
Dal gwyfod
Moth trapping
18/09/16
Rhwydo pyllau
Pond dipping
16/10/16
Llwybr / bingo ffyngau
Fungi trail / bingo
20/11/16
Gweithgaredd natur
Nature activity
18/12/16
Dyrannu baw a peledau / adnebyddiaeth + creu bwydwyr peli braster
Poo and pellet dissection/ID + fat ball feeder making
15/01/17
Gwylio adar – Gwlyptir Bae Caerdydd / Fferm y Fforest
Birdwatch – Cardiff Bay Wetlands / Forest Farm
19/02/17
19/03/17
Helfa sborion
Scavenger hunt
09/04/17 neu / or 23/04/17
Darlunio gardd eich hun
Design your own garden