Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda RSPB Cymru

English version available here.

Mewn pryd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae tair merch o RSPB Cymru yn ein diweddaru ar eu gwaith a’u projectau. Dyma hefyd gyfle i glywed eu barn ar amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector cadwraeth - gan mai thema’r diwrnod eleni yw #ChooseToChallenge.

Tove Hubbard, Pennaeth Ymgysylltu RSPB Cymru

Teitl fy swydd yw Pennaeth Ymgysylltu RSPB Cymru. Mae fy rôl yn canolbwyntio ar gysylltu â grymuso pobl i weithredu dros fyd natur yng Nghymru, p'un a yw hynny'n cysylltu plant a theuluoedd â byd natur fel rhan o'n rhaglenni addysg, gweithio ochr yn ochr â'n tîm gwych o 600 o wirfoddolwyr, neu feddwl am sut y gallwn weithio a chefnogi cymunedau yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, rwyf wrth fy modd yn gweithio ochr yn ochr ag ystod o sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu ein syniadau ar gyfer ‘Gwasanaeth Byd Natur Genedlaethol’. Yn gryno, rydym yn meddwl sut y gallem ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir sicrhau swyddi â thâl sy'n helpu i adfer byd natur yn ogystal ag adeiladu eu sgiliau a'u cyflogadwyedd yn y dyfodol. Byddai hyn yn helpu i gefnogi Adferiad Gwyrdd yng Nghymru, un sy'n ysgogi adferiad economaidd ond sydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng byd natur a hinsawdd.

Rwy’n gredwr mawr ‘na allwch fod yr hyn na allwch ei weld’! Pan ymunais ag RSPB Cymru yn 2016, cefais fy ysbrydoli’n fawr gan y ffaith fy mod yn gallu gweld menywod mewn amrywiaeth o rolau rheoli ac arweinio ar draws yr RSPB.

Fel menyw cis-rhyw, lesbiaidd, dosbarth canol, gwyn, rwyf wedi dal llawer o fraint yn fy nhaith yrfaol, ac mae fy mhrofiadau yn y sector cadwraeth wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan - rwyf yn bendant wedi elwa o'r menywod anhygoel hynny sydd eisoes wedi torri ffordd trwy rwystrau a gadael y 'drysau ar agor' i'r rhai sy'n dilyn! Fodd bynnag, mae llawer iawn y mae'n rhaid i ni ei wneud o hyd i wneud yr RSPB yn sefydliad gwirioneddol gyfartal, amrywiol a chynhwysol. Er enghraifft, y proffesiwn amgylcheddol yw'r ail broffesiwn amrywiol o ran hil yn y DU ar ôl ffermio.

Rydw i wir wedi fy ysbrydoli gan thema 'Dewis Herio' Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 - rydw i eisiau ymrwymo i dynnu sylw a herio rhagfarn ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau lle dwi'n ei weld a chymryd camau diriaethol i ddatgymalu'r rhagfarnau presennol â gwahaniaethu systemig tuag at grwpiau ymylol, i sicrhau fod pob person yng Nghymru yn cael yr un cyfleoedd i gael mynediad at fyd natur a chysylltu â hi.

 

Siân Stacey, Swyddog Datblygu Prosiect O’r Mynydd i’r Môr

Ar hyn o bryd, fi yw'r Swyddog Datblygu Prosiect ar gyfer O’r Mynydd i’r Môr yng nghanolbarth Cymru. Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn sy'n cyd-ddylunio dyfodol lle mae byd natur a phobl yn ffynnu yn yr ardal. Trwy ddefnyddio egwyddorion cyd-ddylunio, rydyn ni'n mynd y tu hwnt i ymgynghori traddodiadol trwy adeiladu a dyfnhau cydweithredu cyfartal rhwng pobl sy'n cael eu heffeithio gan, neu'n ceisio datrys her, fel yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae'n gyfle gwych i weithio gydag ystod eang o bobl sy'n angerddol am ein dyfodol.

Rwyf wedi cael gyrfa eithaf amrywiol hyd yn hyn sydd wedi bod ar gyrion y sector amgylcheddol a chadwraeth nes i mi ddechrau'r swydd hon flwyddyn a hanner yn ôl. Fi oedd y Warden ar Ynys Enlli, i Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, am dair blynedd. Yn flaenorol, fel rheol, roedd y swydd hen yn cael ei wneud gan ddynion neu gyplau. Roedd y swydd yn ymwneud â chynnal a chadw adeiladau a seilwaith yr ynys, ynghyd â chroesawu gwesteion i'r ynys bob wythnos yn ystod y tymor. Roeddwn i wrth fy modd â'r cyfle i ddysgu sgiliau newydd fel trwsio llechi ar doeau, ail-osod ffenestri, rheoli toiledau compost, neu osod tanciau dŵr newydd. Mi wnes i’n sicr synnu ambell berson wnaeth fy ngweld i’n cario dril/lefel neu plunger rhwng tasgau gwahanol ar yr ynys.

Rwy'n credu, yn hanesyddol, na fu digon o fodelau rôl sy'n ein hysbrydoli ac sy'n adlewyrchu ein hunain fel menywod. Ond mae'n teimlo fel bod y llanw'n troi ac rwy'n cael fy ysbrydoli'n gyson gan rai menywod anhygoel yn y byd ffermio a chadwraeth fel Teleri Fielden (Bugail Eryri), Katie Hastings (sy'n ymwneud â Sofraniaeth Hadau a Mach Maethlon), a Ffion Storer-Jones. Ond mae angen i ni wella ein hamrywiaeth a'n cynhwysiant, felly mae angen wynebau arnom, dynion, menywod a rhai nad ydynt yn ddeuaidd, ynghyd â'r ystod gyfan o ethnigrwydd sy'n adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol yn gywir. Rydym angen adeiladu rhwydweithiau i gefnogi ein gilydd wrth inni ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â heriau mwyaf ein cenedlaethau ni, a chenedlaethau'r dyfodol!

 

Tabea Wilkes, Swyddog Polisi Byd Natur RSPB Cymru

Ar hyn o bryd rydw i'n arwain ar ein gwaith ar Adferiad Gwyrdd yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth a Senedd Cymru i sicrhau y bydd eu hymateb i'r pandemig hefyd yn ddechrau ar fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a byd natur o ddifrif.

Rwyf wastad wedi edmygu gwaith Wangarĩ Maathai a sefydlodd y Mudiad Belt Gwyrdd yn Kenya. Roedd hwn yn gyrff anllywodraethol amgylcheddol a oedd yn canolbwyntio ar gadwraeth amgylcheddol a hawliau menywod, a ddaeth yn eithaf dylanwadol ledled y byd. Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddi yn 2004 am ei gwaith ar ddatblygu cynaliadwy, a hi oedd y fenyw gyntaf o Affrica i ennill y wobr.

Ar un llaw, mae'r sector cadwraeth yn gwneud yn dda iawn wrth gefnogi gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, sy'n helpu i wneud y sector yn fwy cynhwysol i fenywod. Rwy'n credu mewn gwirionedd y gallai llawer o sectorau eraill ddysgu llawer gan y sector cadwraeth. Ond yn bendant, mae’n bosib gweld rhaniad rhyw o fewn y sector hefyd. Yn draddodiadol, mae cadwraeth yn y maes wedi cael ei ddominyddu'n gan ddynion ac mae'n ymddangos bod llawer o'n harbenigedd mewn rheoli tir a rhywogaethau yn cael ei ddal gan ddynion yn unig, o hyd. Felly rydyn ni'n bendant yn dechrau chwalu rhwystrau, ac rydyn ni hyd yn oed yn dechrau gweld hyn mewn swyddi arweinyddiaeth. Ond mae angen i ni sicrhau bod hyn yn parhau i ddigwydd ar draws yr holl feysydd rydyn ni'n gweithio ynddynt.

Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #ChooseToChallenge. Gall pob un ohonom ddewis herio a galw rhagfarn ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gall pob un ohonom ddewis chwilio am gyflawniadau menywod a'u dathlu. Gyda'n gilydd, gallwn ni i gyd helpu i greu byd cynhwysol. Am wybodaeth bellach cliciwch yma.

I glywed gan fwy am waith merched sy’n gweithio hefo’r RSPB ar draws y DU, gwyliwch y bennod arbennig hon o Notes on Nature TV a gafodd ei ddarlledu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.