Cymryd rhan mewn sgwrs genedlaethol ar gyfer byd natur

English version available here.

Mae swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi lansio sgwrs genedlaethol, yn gofyn i bobl Cymru am yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw a beth maen nhw eisiau ei weld yn cael ei flaenoriaethu yn y dyfodol.

Nod y fenter yw rhoi cyfle i’r cyhoedd leisio eu barn am y materion sy’n bwysig iddyn nhw, cyn cyhoeddi Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol fis Mai nesaf.

Bydd cyhoeddi’r adroddiad hwn yn debygol o fod yn ddylanwadol o ran datblygu maniffesto pob plaid wleidyddol yn ystod y cyfnod cyn etholiad 2021 a bydd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo Llywodraeth nesaf Cymru. Yn ogystal ag amlinellu argymhellion ar gyfer y dyfodol, bydd yr adroddiad hefyd yn rhannu gwybodaeth am y cynnydd mae cyrff cyhoeddus wedi ei wneud ers 2017.

Er ein bod yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau yma yn RSPB Cymru, mae’r Comisiynydd yn gofyn i’r bobl sy’n cynrychioli dyfodol Cymru am eu safbwyntiau drwy eu llwyfan adrodd straeon ar-lein.

Mae natur a bioamrywiaeth wedi cael eu cynnwys fel dewisiadau ar Lwyfan y Bobl, gan roi cyfle ardderchog i’r rheini sy’n frwd dros natur rannu eu syniadau a’u profiadau. Os ydych chi eisiau gofyn am ddiogelwch gwell ar gyfer eich hoff rywogaeth neu os ydych chi eisiau awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â'r argyfwng ecolegol presennol, dyma eich cyfle i wneud hynny.

Drwy gyflwyno stori sy’n ymwneud â natur, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod bioamrywiaeth yn uchel ar agenda Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac agenda Llywodraeth Cymru. Os oes gennych chi stori, profiad neu awgrym yr hoffech eu rhannu â ni, ymunwch â sgwrs Cymru Ein Dyfodol yma