Cymru: faint sydd wedi cael ei gwarchod ar gyfer natur go iawn?

English version available here

Tra bod Llywodraethau’r DU yn honni eu bod yn arwain y ffordd, mae astudiaeth newydd yn awgrymu y gallai’r ffigurau swyddogol ynghylch yr ardaloedd o dir sydd wedi’u gwarchod yn y DU, fod yn uwch na’r gwir ffigurau.

Mae hyn oherwydd bod nifer o ardaloedd gwarchodedig yn methu diogelu’r bywyd gwyllt maen nhw wedi’u dynodi i’w warchod oherwydd diffyg cyllid, a hefyd oherwydd na roddir yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen ar y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), i drawsnewid eu tirweddau ac i adfer bywyd gwyllt.


Methu ȃ chyflawni

Gyda llywodraethau o amgylch y byd yn paratoi i lunio cynllun newydd i amddiffyn bioamrywiaeth, mae cefnogaeth wedi bod yn cynyddu ar gyfer targed byd-eang i amddiffyn 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030.

Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi’r nod hwn, gan wneud ei hymrwymiad ‘30x30’ ei hun. Credwn fod Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn, ond nid yw wedi gwneud datganiad swyddogol hyd yn hyn.

Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yr wythnos yma, fodd bynnag, wedi taflu goleuni newydd ar faint o dir sydd, mewn gwirionedd, wedi’i warchod ar gyfer natur ar draws y DU. Mae’n dangos mai, o’r 28% y mae Llywodraeth DU yn ei honni ar hyn o bryd, dim ond 11.4% sydd wedi’i warchod ar gyfer natur, ac mae’n bosibl mai cyn lleied ȃ 4.9% o arwynebedd tir y DU sydd wedi’i reoli’n effeithiol ar gyfer natur. Mae gwarchod effeithiol yn golygu bod y tir wedi’i reoli yn y ffordd gywir i warchod natur, a bod y bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal mewn cyflwr da.


Y sefyllfa yng Nghymru

Yng Nghymru, mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac ardaloedd eraill sydd wedi’u dynodi i warchod bywyd gwyllt a chynefinoedd arbennig yn gorchuddio 10.6% o arwynebedd y tir. Yn ddigon syfrdanol, nodir mai dim ond 20% o’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd y dynodwyd y safleoedd hyn ar eu cyfer, sydd mewn cyflwr da.

Yn wir, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw cyflwr oddeutu 50%, gan fod diffyg adnoddau yn golygu nad yw llawer o’r llefydd hyn sy’n bwysig i natur, wedi cael eu monitro. A gan mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd fod llawer o SoDdGA wedi’u rheoli’n effeithiol ar gyfer bywyd gwyllt – daw’n amlwg na chyrhaeddir y ffigur hwnnw o 10.6% wrth warchod bywyd gwyllt yn effeithiol yng Nghymru.

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r brif flaenoriaeth i fuddsoddi digon er mwyn adnewyddu, rheoli a monitro’r llefydd hyn; gan sicrhau ei bod yn wirioneddol warchod ein bywyd gwyllt mwyaf prin, a’n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.



Potensial i wneud rhagor

Mae’r ymchwil yn dangos hefyd bod y ffigur ynghylch ardaloedd gwarchodedig y mae Llywodraeth y DU yn cyfeirio ato, yn cynnwys Parciau Cenedlaethol y DU ac AHNE. Dengys canfyddiadau’r ymchwil nad yw’r tirweddau hyn, yn wahanol i’r ardaloedd gwarchodedig ar gyfer natur, wedi’u dynodi’n bennaf i warchod natur, ac ni ddylent, felly, gael eu cyfrif tuag at 30x30 yn eu ffurf bresennol.

Gan eu bod yn cynnwys trefi a phentrefi ac ardaloedd o dir sydd wedi’u rheoli’n ddwys, ni fyddai’n bosibl iddynt fyth gyfrif tuag y targed llawn o 30%, ond maent yn cynnwys llawer iawn o dir sydd yn, neu a allai fod, yn werthfawr i natur, ac fe ddylent gael eu gwarchod.

Yng Nghymru, mae’n Parciau Cenedlaethol ac AHNE yn gorchuddio chwarter y wlad, sy’n rhoi potensial enfawr iddynt fod yn fannau o bwys mawr ar gyfer adferiad natur. Yn 2018, dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai sicrhau nad yw bywyd gwyllt yn cael ei golli fod yn brif amcan ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac AHNE. Ond fe fethodd lunio newidiadau i’w cefnogi i wneud hyn. Mae’r Awdurdodau sy’n rheoli hefyd wedi mynegi uchelgeisiau mawr er mwyn cynnig mwy i fyd natur.

Mae’n angenrheidiol nawr, i Lywodraeth Cymru roi’r offer a’r cyllid angenrheidiol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i natur yn y llefydd arbennig hyn.

Bu i’r Senedd ddatgan argyfwng natur yn ddiweddar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i osod targedau er mwyn helpu natur i wella a dod yn ôl ati’i hun. Mae’r ffaith bod Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi profi’r edwino a’r colledion mwyaf ym myd natur, yn gwneud targedau uchelgeisiol yn hanfodol, ac rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau gweithio ar ddeddfwriaeth ar gyfer y targedau hyn mor fuan ȃ phosibl.

Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i darged adfywio natur 30x30 cryf ar gyfer Cymru, er mwyn i’n bywyd gwyllt – sy’n edwino, gael ei warchod yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl; mae arno angen hynny’n ddifrifol.

Ffotograffiau (top i waelod):

Nicholas Rodd (rspb-images.com) 
Gylfinir gan Ian Francis (rspb-images.com)