Methiant i warchod byd natur yn y rhan fwyaf o safleoedd arbennig

English version available here

Dylai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fod yn hafan i fywyd gwyllt Cymru – ond mae diffyg cyllid yn golygu nad ydym yn gwybod llawer am yr hyn sy’n digwydd ynddynt. Mae adroddiad newydd yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf ohonynt mewn cyflwr digon da i ofalu am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt prin y maent i fod i’w gwarchod. 

Y mis hwn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr adroddiad cyntaf mewn 15 mlynedd ar gyflwr Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru. Mae’r rhain yn safleoedd pwysig sy’n gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin.

Dangosodd yr adroddiad fod 60% o’r nodweddion (lle mae digon o ddata i allu barnu) mewn cyflwr “anffafriol”. Nid oes digon o wybodaeth ar gael am tua hanner y safleoedd i Cyfoeth Naturiol Cymru allu cloriannu eu cyflwr.  

Mae hyn yn destun pryder mawr gan y dylai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fod yn uwch gynghrair o lefydd ar gyfer byd natur yng Nghymru – ac ni all y bywyd gwyllt sy’n eu galw’n gartref oroesi a ffynnu os nad yw’r safleoedd mewn cyflwr da. Nid yw’r darlun ar gyfer ein moroedd yn fwy calonogol – dangosodd asesiad yn 2018 mai dim ond 46% o safleoedd morol gwarchodedig oedd mewn cyflwr ffafriol. 

Mae dros 1,000 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru. Mae’r rhain yn cwmpasu bron i 11% o’r tir a’r arfordir ac yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, dylent fod yn “gonglfeini cadwraeth”, ac yn brif flaenoriaeth ar gyfer gweithgarwch i adfer  byd natur. Mae gan lawer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig warchodaeth gyfreithiol ychwanegol hefyd, gan eu bod yn safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt prin sydd dan fygythiad, fel y gylfinir, a chynefinoedd gwerthfawr fel gorgorsydd. 

Syrthio ar ei hôl?

Er bod gan wledydd eraill y DU raglenni monitro cenedlaethol ar waith i asesu cyflwr eu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn rheolaidd, nid yw Cymru’n gwneud hynny – a dyma’r asesiad cenedlaethol cyntaf ers 2006. Mae’n destun pryder ei fod wedi bod yn ymarfer wrth ddesg - sy’n golygu nad ymwelwyd â’r rhan fwyaf o’r safleoedd unigol i weld yn uniongyrchol beth sy’n digwydd ar lawr gwlad cyn penderfynu ar eu cyflwr.  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn rheolaidd i weld beth yw eu cyflwr a chymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n dda ar gyfer byd natur. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi torri cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru mewn termau real o 35% rhwng 2013 a 2020, ac o ganlyniad, nid oes digon o arian i Gyfoeth Naturiol Cymru wneud y gwaith hwn yn iawn. Mae adroddiad heddiw yn dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru, heb adnoddau digonol gan Lywodraeth Cymru, yn methu â chyflawni gwelliannau y mae mawr angen amdanynt – ac mae byd natur yn dioddef o ganlyniad. Roedd adroddiad diweddar ar ba mor dda y mae cenhedloedd a thiriogaethau wedi cynnal eu bioamrywiaeth yn dangos mai Cymru yw’r unfed ar bymtheg o’r gwaelod mewn tabl cynghrair o 240 a aseswyd, ac mae’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol diweddaraf yn adrodd am ddirywiad difrifol parhaus.  

Beth sydd angen newid?  

Fis Hydref eleni, bydd Llywodraethau’r byd yn dod at ei gilydd yn Tsieina mewn uwchgynhadledd fawr i drafod byd natur. Bydd y Gynhadledd hon o Bartïon yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, a elwir yn CBD COP 15, yn gosod targedau byd-eang newydd gyda’r nod o atal dinistrio byd natur a gweld bywyd gwyllt yn dechrau gwella erbyn 2030. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ddiogelu 30% o dir a môr ar gyfer byd natur erbyn 2030, ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ffurfiol y bydd yn gosod uchelgais uwch i gyflawni’r newid sydd ei angen.  

Ond mae ar fyd natur angen mwy na geiriau cefnogol ac addewidion – mae angen yr adnoddau i wireddu’r addewidion hyn. 

Mae monitro yn hanfodol bwysig i bob ardal warchodedig, fel y mae blog diweddar ar gyfer Green Alliance yn ei nodi.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod o ddifrif ynghylch diogelu ac adfer byd natur drwy wrthdroi’r toriadau i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, gan osod targedau sy’n gyfreithiol rwymol a fydd yn gwneud monitro a rheoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn flaenoriaeth glir gyda’r cyllid i’w gefnogi.
 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n brwydro dros ddyfodol gwyrdd a chyfiawn i Gymru – a sut gallwch chi gymryd rhan – drwy ein hymgyrch Adfywio Ein Byd.