English version available here
Yn ein blog diwethaf ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) i Gymru, amlinellwyd y pum cam allweddol yr oeddem yn credu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd cyn i'r cynllun dechrau yn 2026. Mae'r cyhoeddiad Heddiw (25 Tachwedd) gan Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn gwneud rhywfaint o gynnydd ar y camau hyn ond mae gennym ffordd bell i fynd nes bod gennym gynllun a fydd wir yn cyflawni dros natur.
Rydym i gyd yn gwybod bod natur yn dirywio ledled Cymru, gydag un o bob chwech rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu'n genedlaethol. Rydym yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd. Rydym hefyd yn gwybod bod dros 80% o dir yng Nghymru yn cael ei ffermio - felly mae gan ffermwyr rôl ganolog i'w chwarae wrth achub natur. Mae nifer fawr o'r ffermwyr hyn yn ddibynnol ar gymorthdaliadau ffermio ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cael y fframwaith polisi ffermio a'r strwythur talu cymhorthdal yn iawn, fel y gall ein ffermwyr gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn ogystal â helpu i adfer natur a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Camau cadarnhaol ymlaen
Rydym yn falch o weld y bydd ffermwyr sy'n ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn cael eu talu am reoli lleiafswm o 10% o'u tir fel cynefinoedd ar gyfer natur. Rydym hefyd yn croesawu'r penderfyniad i ddarparu taliadau cynhaliaeth ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sydd ymhlith ein safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf. Mae'r rhain yn gamau pwysig o ran helpu ffermwyr ledled Cymru i atal colli natur a dechrau ei adferiad - rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano o'r cychwyn.
Ein pryderon
Dangoswyd dadansoddiad economaidd annibynnol diweddar, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, fod angen £594 miliwn bob blwyddyn yng Nghymru i ariannu rheoli tir amgylcheddol er mwyn gyrraedd targedau adfer natur a thargedau hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw'r cyhoeddiad heddiw yn taflu goleuni newydd ar faint o gyllid a ddyrannwyd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, na sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei rannu rhwng gwahanol haenau'r Cynllun. Mae hyn yn hanfodol gan y bydd swm y cyllid a sut y caiff hyn ei weithredu ar draws y gwahanol haenau, yn penderfynu pa mor effeithiol fydd y Cynllun o ran sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei thargedau bioamrywiaeth erbyn 2030. Rydym yn poeni nad yw'n ymddangos bod amcan clir ganddyn nhw ar sut y bydd y Cynllun yn gyffredinol yn cyfrannu at y targedau hyn. Mae hyn yn cynnwys diffyg manylion ynghylch rheoli SoDdGA yn effeithiol, a sut y bydd yn helpu i atal rhywogaethau dan fygythiad, fel y Gylfinir, rhag diflannu.
Erbyn tua 2035, mae’r sector bwyd a ffermio yng Nghymru ar y trywydd iawn i fod yn allyrrydd domestig mwyaf Cymru o nwyon tŷ gwydr. Un o brif amcanion yr CFfC yw helpu'r sector i gyrraedd targedau newid hinsawdd. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i'r Cynllun helpu amaethyddiaeth Cymru i fod yn fwy effeithlon a chynyddu storio carbon drwy dechnegau profedig. Mae creu coetiroedd yn un o’r technegau profedig hyn a chyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yw nad oes llwybr credadwy at gyflawni ‘Net Zero’ heb gynnydd mewn gorchudd coed.
Felly, mae'r penderfyniad i gael gwared a’r targed gorchudd coetir o 10% fel rhan o'r Cynllun, er ei fod o fudd i ffermwyr a natur, o bryder mawr ac mae'n cyflwyno Llywodraeth Cymru a'r sector amaeth gyda her wirioneddol o ran cyrraedd targedau hinsawdd. Ar ôl gwneud y penderfyniad hwn, mae bellach yn hanfodol bod y sector a Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun ‘Net Zero’ credadwy ar gyfer amaethyddiaeth Cymru ar frys.
Rydym yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o'r CFfC a'i egwyddor graidd o ddefnyddio arian cyhoeddus i dalu ffermwyr i ddarparu nwyddau cyhoeddus - buddion amgylcheddol i gymdeithas. Wrth edrych ymlaen, ac ystyried y cyfyngiadau ar bwrs y cyhoedd, bydd yn rhaid i amaethyddiaeth gystadlu â meysydd eraill o wariant y llywodraeth, fel iechyd ac addysg. Bydd angen cyfiawnhad cryf dros ddefnyddio arian trethdalwyr i gefnogi ffermio yng Nghymru, a chredwn fod Cynllun sy'n cyfrannu'n sylweddol tuag at yr argyfwng natur a hinsawdd yn gwneud hynny, yn ogystal â darparu dyfodol mwy diogel i'r sector amaethyddol.
Daeth adroddiad Diogelwch Bwyd diweddaraf Llywodraeth y DU i'r casgliad bod 'newid yn yr hinsawdd a cholled bioamrywiaeth ymhlith y risgiau canolig a hirdymor mwyaf i gynhyrchiad bwyd domestig yn y DU, ochr yn ochr â ffactorau eraill, gan gynnwys diraddio pridd ac ansawdd dŵr'. Bydd cyrraedd targedau ‘Net Zero’ domestig yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau cysylltiedig â'r hinsawdd ar y sector ffermio gan gynnwys y llifogydd a sychder diweddar.
Y camau nesaf
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r sector gwledig dros y misoedd nesaf i sicrhau bod y Cynllun mor effeithiol â phosibl i ffermwyr, i bobl ac i natur - gan sicrhau bod amaethyddiaeth Cymru'n trawsnewid i ddyfodol cynaliadwy mor effeithlon a llwyddiannus â phosibl.
Os hoffech i holl lywodraethau'r DU flaenoriaethu a buddsoddi mewn ffermio er lles natur, llofnodwch ein deiseb yma.