English version available here
Mae'r penderfyniad i ohirio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi dod fel siom enfawr o ystyried yr ymateb brys sydd ei angen i'r Argyfwng Natur a Hinsawdd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod os yw'r Cynllun am helpu ffermwyr ledled Cymru i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur, bod yn rhaid iddo fod yn boblogaidd ac yn effeithiol. Mae bellach yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r amser hwn i weithio'n agos gyda'r sector gwledig i ddatblygu Cynllun a fydd wir yn galluogi ffermwyr Cymru i ymateb i ystod o heriau cydgysylltiedig sy'n effeithio ar bob un ohonom.
Er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cefnogi ffermwyr i ofalu am natur, rydym wedi nodi'r pum cam allweddol canlynol y credwn y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd rhwng nawr a dechrau'r Cynllun yn 2026.
Mae sicrhau bod gan ffermwyr y cynllun priodol ar gyfer natur yn hanfodol i bob un ohonom, gan gynnwys Llywodraeth Cymru os yw am gyflawni ei hymrwymiadau o ran bioamrywiaeth yn 2030. Mae natur yn hanfodol i gynnal yr ecosystem yr ydym yn dibynnu arni, yn cynnwys ar gyfer priddoedd iach, yr aer rydyn ni'n ei anadlu a'r dŵr rydyn ni'n ei yfed. Gall natur helpu fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd e.e. drwy storio carbon o’r atmosffer mewn mawndiroedd a helpu ffermio i ddod yn fwy gwydn, gan gynnwys tywydd eithafol fel sychder, gwres mawr a llifogydd.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf fe wnaeth ffermwyr ymateb i'r her i gynhyrchu mwy o fwyd. Os yw ffermwyr am ymateb i heriau enfawr yr 21ain ganrif a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r cyfamser ychwanegol hwn i sicrhau bod ganddynt y cynllun priodol i wneud y swydd, sy’n eu gwobrwyo’n deg am y gwaith hanfodol hwn.