English version available here
Fis diwethaf, fel rhan o'n hymgyrch Adfywio Ein Byd, fe wnaethom ni osod cerflun hardd o farcud coch y tu allan i Gastell Caerdydd. Roedd y cerflun yn symbol o sut y gall natur ffynnu unwaith eto wedi iddi wynebu difodiant, ac yn alwad am adferiad gwyrdd a chyfiawn o Covid-19.
Os wnawn ni flaenoriaethu a buddsoddi ym myd natur gall hynny helpu ein hadferiad wedi'r argyfwng Covid, a'n helpu hefyd i roi stop ar yr argyfyngau natur a hinsawdd. Fel rhan o Adfywio Ein Byd, anfonodd ein cefnogwyr filoedd o e-byst at ymgeiswyr etholiadol yn galw arnynt i godi eu llais dros fyd natur, a chafwyd rhai canlyniadau rhagorol. Hoffem ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran. Fe wnaethoch chi helpu i danio sgwrs ar adeg dyngedfennol i fyd natur yng Nghymru.
Be nesaf?
Pleidleisiodd pobl Cymru yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai. Llafur Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi; gyda 30 sedd yn y Senedd mae ganddyn nhw'r isafswm o aelodau sydd ei angen i lywodraethu heb orfod ffurfio clymblaid. Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn gwybod y bydd y Llywodraeth yn parhau i gael ei harwain gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS.
Roeddem yn falch iawn o glywed bod y llywodraeth newydd, yn un o'r datganiadau cyntaf a wnaed gan y Prif Weinidog, wedi ymrwymo i osod yr amgylchedd wrth wraidd pob un o'i phenderfyniadau. Rydyn ni'n obeithiol iawn felly am yr hyn y gallai'r Llywodraeth newydd hon ei chyflawni dros fyd natur dros y pum mlynedd hanfodol nesaf.
Un dasg bwysig fydd gan y Llywodraeth newydd ei chyflawni yw ysgrifennu ei ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae'r rhaglen hon yn nodi'r hyn y mae'r Llywodraeth am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf, felly mae'n hollbwysig bod gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd yn ganolog iddi.
Mae ein maniffesto pum cam at adferiad gwyrdd yn amlinellu'r hyn y credwn y dylai'r Llywodraeth ganolbwyntio ar ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Mae ein gofynion allweddol yn cynnwys;
Mae gan y llywodraeth newydd hon gymaint i'w wneud i adfer byd natur a bydd ein tîm polisi ac eiriolaeth yn gweithio'n galed i gynnig atebion a fydd yn arwain at well ddyfodol i fyd natur yng Nghymru. Os ydych chi am ddarganfod mwy am ein maniffesto pum cam at adferiad gwyrdd gallwch ddarllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd yma.
Dros y misoedd nesaf bydd gennym fwy o gyfleoedd cyffrous i chi helpu i wireddu'r gofynion hyn drwy gymryd rhan yn ymgyrch Adfywio Ein Byd. Darllenwch fwy am yr ymgyrch yma.