To read this blog in English please click here.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym ni wedi bod yn ymgyrchu am bolisïau rheoleth tir newydd yng Nghymru sy’n dda ar gyfer pobl, ffermwyr a natur. Darganfu adroddiad Sefyllfa Byd Natur (2016) mai ffermio dwys yn y DU sydd wedi cael yr effaith negyddol mwyaf ar fywyd gwyllt, a hyn ar draws amryw o gynefinoedd a rhywogaethau. Roedd hyn yn newyddion drwg i fyd natur yng Nghymru oherwydd bod 80% o’n tir yn cael ei ffermio (darllenwch y blog hwn am fwy o wybodaeth). Ond nid yn unig yw’r tir yma’n bwysig i fywyd gwyllt, mae’n bwysig yn ogystal i bobl. Mae’n rhoi’r aer yr ydym ni’n ei anadlu, y dŵr glân yr ydym ni’n ei yfed a hefyd yn helpu osgoi llifogydd. Oherwydd yr holl resymau hyn, rydym ni angen polisïau rheoli tir yng Nghymru sy’n llwyddo i ddarparu’r holl fuddion hyn ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Andy Hay, rspb-images.com

A dyna pam, ar ddydd Gwener 24 Mawrth, y gwnaethom ni groesawu’r adroddiad positif gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar “ddyfodol rheoli tir yng Nghymru” a oedd yn ganlyniad i’w hymchwiliad chwe mis. Dechreuodd yr adroddiad drwy ddatgan bod rhaid i bolisïau'r dyfodol gefnogi rheolwyr tir i gynhyrchu amryw o ganlyniadau er budd natur a’r gymdeithas; yn cynnwys cynhyrchu bwyd, gwarchod y cefn gwlad sy’n gyfoethog mewn natur, lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ac adeiladu cymunedau gwledig cadarn.

Yn ychwanegol, dywed yr adroddiad bod angen i gefnogaeth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn y dyfodol gyfrannu i gyflawni’r targedau, y dyheadau a’r nodau a osodwyd yng nghyfreithiau Cymru yn ddiweddar, gyda’r Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r rhain i gyd yn argymhellion ffantastig sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau am ddyfodol lle caiff tir ei reoli ochr yn ochr â natur, tra hefyd yn bod o fudd iddi.

Roedd hefyd yn obeithiol i weld yr adroddiad yn tynnu sylw at ymgyrch cefnogwyr RSPB Cymru ac rydym yn diolch i bob un ohonoch a ysgrifennodd i'r pwyllgor - gyda'r holl yn profi bod eich lleisiau gyda'r pŵer i achosi newid. Roedd derbyn eich holl e-byst (dros 400 yn y diwedd!) yn neges glir i’r pwyllgor fod pobl ledled Gymru eisiau ffermio a rheolaeth tir sy’n dda ar gyfer pobl, ffermwyr a natur. Mae’n dangos yn ogystal bod y pwyllgor wedi ymroi i wrando ar y cyhoedd yng Nghymru ac yn gweithredu ar yr hyn y maen nhw’n ei glywed.

Os caiff hyn ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, y peth cyffrous yw y gall yr argymhellion yn yr adroddiad gael effaith ddofn ar iechyd, llesiant a gwydnwch pobl a byd natur yng Nghymru fel ei gilydd. Credwn mai dyletswydd Llywodraeth Cymru yw gweithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd. Gall wneud hyn gan wrando ar adroddiad tra ystyriol y pwyllgor, sy’n edrych i’r dyfodol wrth benderfynu ar polisi rheolaeth tir yng Nghymru.

Gan newid ein hagwedd tuag at ffermio a rheoli tir, mae gan Gymru gyfle i chwyldroi’r ffordd yr ydym ni’n gweithio gyda byd natur er budd pawb. Felly gadewch inni obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y cyfle hwn ac yn llunio dyfodol disgleiriach ar gyfer pobl Cymru.