I ddarllen y blog yn y Saesneg / To read the blog in English, click here

Fwy nag erioed, mae gan amaethyddiaeth ran hanfodol i chwarae er mwyn arbed natur.  Darganfu Adroddiad Cyflwr Natur fod ffermio dwys yn y DU wedi cael yr effaith negyddol fwyaf ar natur o bell ffordd, ar draws amrediad eang o gynefinoedd a rhywogaethau - sy’n newyddion drwg i natur yng Nghymru, lle mae dros 80% o’n tir yn cael ei ffermio.

Un o lawer o’r rhesymau yr ydym ni’n caru Cymru yw oherwydd bod ganddi dirweddau gwyllt – clogwyni serth, bryniau tonnog  a mynyddoedd geirwon.  Mae tirweddau’r ucheldir yn arbennig o bwysig ar gyfer dyfodol natur yng Nghymru oherwydd eu bod yn gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf gwerthfawr, fel y gylfinir, a chynefinoedd pwysig rhyngwladol fel gorgors a rhostir yr ucheldir.  Yn ogystal, maen nhw’n hanfodol i ddyfodol pobl, ac maen nhw’n cynnig rhai o’n tirweddau mwyaf clodfawr ac yn darparu buddion hanfodol fel storio carbon mewn priddoedd sy’n gyfoethog mewn mawn (gan liniaru newid yn yr hinsawdd), awyr a dŵr yfed glân, lleddfu llifogydd a chyfleoedd ar gyfer hamdden ac ymarfer.

Mae ffermio ar yr ucheldir yn chwarae rhan dyngedfennol wrth gynnal y tirweddau rhyfeddol hyn.  Gan fod y tirweddau hyn a’r cynefinoedd y maen nhw’n eu cynnwys mor bwysig i bobl a natur fel ei gilydd yng Nghymru, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o ffermwyr yr ucheldir er mwyn helpu adfer bywyd gwyllt a sicrhau bod natur yn ffynnu unwaith eto.  Un enghraifft yw ein prosiect adfer llinos y mynydd yn Eryri, lle rydym ni wedi bod yn cefnogi ffermwyr sy’n gweithio i reoli cynefinoedd mewn ffordd sydd o fudd i boblogaethau llinos y mynydd.  Mae’r pincod y mynydd bychain hyn wedi dirywio’n ddramatig, oherwydd newidiadau mewn arferion amaethyddol, ac rydym ni yn gweithio gyda ffermwyr er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu colli o Gymru.

Llinos y mynydd gan Andy Hay, rspb-images.com

Enghraifft arall yw ein gwaith diweddar gyda ffermwyr Tegwch i’r Ucheldir, sef grŵp annibynnol yn cynrychioli buddiannau ffermwyr yr ucheldir yng Nghymru. Ar 24ain Tachwedd, bu Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG) y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld â fferm yng Ngogledd Cymru, er mwyn deall mwy ynglŷn â ffermio ar yr ucheldir a’i fuddion ehangach fel rhan o’n hymholiad presennol i ‘ddyfodol polisi amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru’.    Gyda chynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Thegwch i’r Ucheldir, cyflwynwyd ein gweledigaeth gyffredin i Aelodau’r Cynulliad er  mwyn gwneud rheoli tir yng Nghymru yn dda i ffermwyr, yn dda i natur ac yn dda i bobl.

Gwaith pwysig arall oedd rhannu llwyfan yn ddiweddar gyda ffermwyr o Ysbyty Ifan yng Ngogledd Cymru yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth, sef grŵp trawsbleidiol yw grŵp anffurfiol o Aelodau’r Cynulliad o bob plaid yng Nghynulliad Cymru, sy’n dod ynghyd er mwyn trafod materion allweddol. Roedd hwn yn gyfle gwych arall i annog trafodaeth ar ddyfodol ffermio, rheoli tir yn gynaliadwy a phwysigrwydd ymdrin â dirywiad mewn bywyd gwyllt mewn unrhyw bolisi defnydd tir yn y dyfodol.  Fel rhan o’r digwyddiad, dangoswyd ffilm fer a oedd yn dangos pwysigrwydd mawndiroedd fel gorgors.  Dangoswyd y ffilm, sy’n cynnwys plant ysgol lleol yn rapio ynglŷn ag adfer gorgorsydd, hyd yn oed yng Nghonfensiwn Paris ar Newid yn yr Hinsawdd.  Gallwch wylio’r ffilm yma: https://www.youtube.com/watch?v=G5OGMaxZYM4

Er gwaethaf y gwaith ffantastig sy’n mynd ymlaen drwy’r DU i wella cyflwr natur, mae gadael yr UE yn golygu bod tynged ein tir amaethyddol, a’r bywyd gwyllt sy’n byw arno, yn aneglur.  Mae’n debygol y byddwn ni’n gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE, sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd ynglŷn â beth a fydd yn dod nesaf.  Mae’r cyfle hwn i ddylanwadu yn gadarnhaol ar bolisi amaethyddol a datblygu gwledig yn brin iawn a gallai fod yn gyfrwng i arbed natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.  Dyma pam y mae RSPB Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda  ffermwyr yr ucheldir er mwyn dylanwadu ar beth sy’n digwydd nesaf, sicrhau bod ein hamgylchedd prydferth, gwyllt yn cael ei warchod yn ei holl ogoniant.