English version available here.
Daw’r adroddiad â thystiolaeth ynghyd ar bolisiau ffermio yn yr ucheldiroedd a’i effaith ar yr amgylchedd, ac mae’n ystyried tueddiadau amaethyddol, amgylcheddol ac economaidd. Hefyd, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddibyniaeth amaethyddiaeth ar y cymorthdaliadau sydd o dan fygythiad ar hyn o bryd oherwydd Brexit. Fel y mae pethau ar y funud, daw mwy na 80% o incwm ffermio yng Nghymru o gyllid yr UE ac mae ffermwyr Cymru yn derbyn oddeutu £300 miliwn o arian y trethdalwyr y flwyddyn.
Dengys yr adroddiad nad yw’r gefnogaeth bresennol yn cadw busnesau fferm yn hyfyw ac mae nifer cynyddol o ffermwyr yn gorfod dod o hyd i waith arall, gyda ffermio yn awr yn dod yn ffynhonnell incwm rhan-amser i lawer.
Tra bod yr adroddiad yn nodi bod llawer o ffermwyr yn brwydro i wneud bywoliaeth o gynhyrchu bwyd yn unig, mae’r amgylchedd y maen nhw’n helpu ei reoli, yn werth amcangyfrif o oddeutu £9 biliwn y flwyddyn. Mae’n dadlau hefyd y byddai amgylchedd adferedig yn werth llawer iawn mwy – datganiad sy’n seiliedig ar y ffaith bod yr amgylchedd a’i adnoddau naturiol cysylltiedig mewn cyflwr gwael.
Mae adroddiad Sefyllfa Adar yng Nghymru 2018 yn dangos bod adar fferm ymysg y mwyaf bregus yng Nghymru ac maen nhw’n dioddef dirywiad parhaus. Mae hyn yn cynnwys llawer o rywogaethau’r ucheldiroedd fel gylfinirod, cwtiaid aur, grugieir du, grugieir coch a mwyalchod y mynydd.
Er gwaethaf y pryderon presennol, dywedir bod gan ucheldiroedd Cymru botensial mawr iawn ar gyfer darpariaethau amgylcheddol, gweithgareddau cadwraeth natur a chynhyrchu amaethyddol yn y dyfodol, os gweithredir systemau pori a rheoli addas i amodau lleol.
Gwnaethom gomisiynu’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan ymgynghorydd annibynnol, Jane Ricketts Hein o Cynidr Consulting, er mwyn cefnogi’r datblygiad o Fil Rheoli Tir ar ôl Brexit ar gyfer Cymru er mwyn disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin presennol.
Yn ôl yr adroddiad, dylai’r system gefnogaeth annog ymarferion ffermio sy’n addas i botensial cynaliadwy’r tir. Mae hyn yn cynnwys lefelau stocio addas ac adfer a chynnal cynefinoedd ar gyfer adar a rhywogaethau eraill.
Yn y gorffennol, roedd y PAC yn talu ffermwyr am y nifer o anifeiliaid yr oedden nhw yn ei gadw, a oedd yn arwain at gynnydd mewn niferoedd stoc, e.e. cynyddodd defaid o 5 i 10 miliwn o 1960au cynnar at y 1980au. Gall lefelau stocio cyn cyfnod y PAC ddarparu arwydd ynglŷn â beth y gall amaethyddiaeth gynaliadwy ymdebygu iddo yng Nghymru.
Yn ogystal ag amlinellu’r heriau sydd yn wynebu ffermio a’r amgylchedd yng Nghymru, mae’r adroddiad yn tanlinellu fod system newydd o gefnogaeth yn gyfle i adnabod a gwobrwyo cyfraniad ffermwyr a pherchnogion tir i’r amgylchedd naturiol, economaidd a chymdeithasol.
Mae hyn yn cefnogi’n safbwynt fod Cymru angen dull newydd i reoli tir mewn ffordd sy’n fuddiol i ffermwyr a’r amgylchedd; fod gwariant cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n helpu ffermwyr i warchod ag adfer natur a chynhyrchu bwyd o ansawdd uchel mor effeithiol ac sy’n bosib.
I ddarllen crynodeb dwy dudalen o’r adroddiad, cliciwch yma.