Nid oes amheuaeth bod natur Cymru angen yr holl gymorth y mae'n bosib cael gafael arno yn 2019. Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn un o galedi parhaol i nifer o'r adar sydd agosaf at ein calonnau. 'Rydym wedi gweld y dirywiad yn niferoedd ein hadar sy'n byw ar dir fferm yn dwysáu - adar fel y gylfinir, y llinos werdd, y drudwy, y bras melyn, y cudyll coch a'r ydfran. Gwelwyd dirywiad hefyd mewn niferoedd adar mudol, yn enwedig rheiny sy'n mudo i Affrica fel y wennol ddu a'r gog.
Dwi'n mawr obeithio mai Mark Drakeford, Prif Weinidog newydd Cymru, fydd y person sy'n arwain ar gyflawni'r newid sydd cymaint ei angen ar fyd natur. Yn ei faniffesto ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur cyhoeddodd mai adfer byd natur oedd un o'i brif flaenoriaethau polisi, a hynny oherwydd ei fod yn cydnabod nad yw ein hamgylchedd mewn cyflwr da; mae bywyd gwyllt yn dirywio ac nid yw ein hecosystemau yn wydn.
Mewn ymateb i'r heriau hyn, awgrymodd fod Cymru'n buddsoddi mwy mewn ardaloedd gwledig i wella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo diwydiannau sy'n diogelu, yn hytrach na difrodi, byd natur. Fel RSPB Cymru, mae'n cefnogi polisi ffermio yn y dyfodol sy'n talu ffermwyr i ddarparu nwyddau cyhoeddus fel awyr a dŵr glân, pridd mewn cyflwr da a storio carbon.
"Cyhoeddodd mai adfer byd natur oedd un o'i brif flaenoriaethau polisi, a hynny oherwydd ei fod yn cydnabod nad yw ein hamgylchedd mewn cyflwr da; mae bywyd gwyllt yn dirywio ac nid yw ein hecosystemau yn wydn..."
Mae'n frwd iawn dros osod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y Llywodraeth a defnyddiodd ddywediad gan Americanwyr Brodorol, 'Nid ydym yn etifeddu'r ddaear gan ein hynafiaid, rydym yn ei fenthyca gan ein plant' i ddisgrifio ei ddealltwriaeth o'r egwyddor. Un o'i benderfyniadau cynnar fydd a ddylid adeiladu ffordd liniaru'r M4 ai peidio. Fe fydd hwn yn brawf ar ei ymrwymiad i gynaliadwyedd. Byddai buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy o amgylch Casnewydd a de-ddwyrain Cymru yn amlwg yn ddewis cynaliadwy gwell.
Mae ei faniffesto'n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu Cynllun Twf Amgylcheddol i Gymru gyda'r nod o atal a gwrthdroi'r difrod a achoswyd yn barod i’n hamgylchedd naturiol. Os gall y Prif Weinidog newydd afael gydag arddeliad yn yr uchelgais hon yn ei rôl newydd, a sicrhau cefnogaeth ei Gabinet, yna fe fydd y dyfodol yn edrych yn fwy sicr i fyd natur.
Felly, dwi'n croesi 'mysedd, gan ei fod yn ymddangos bod byd natur yng Nghymru'n mynd i dderbyn rhodd o ewyllys da. Mae gan y Prif Weinidog newydd y potensial i gyflawni'r newid sydd ei angen yn ddybryd ar ein bywyd gwyllt ac i ddangos arweiniad amgylcheddol cryf ar draws y Llywodraeth. Felly, yma yn RSPB Cymru, hyd yn oed ar adeg mor heriol â hon, ry'n ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at 2019 gyda chymhelliant newydd i barhau i ymgyrchu am gyfreithiau a pholisïau gwell ar gyfer adfer byd natur yng Nghymru.
Llun: Mwyalchen y mynydd gan Andy Hay.