Nid yn unig mae'r project Rhoi Cartref i Fyd Natur yn dod a TAPE draw i Barc Bute, Caerdydd, ond mae hefyd cyfres o ddigwyddiadau bach hwyliog i'r teulu oll, yn digwydd wrth ei yml drwy gydol mis Awst!


 

Dyma'r rhaglen; mae rhywbeth yma at ddant pawb.  Mwynhewch! 

English programme available here

 

TAPE!

Dydd Sadwrn 1 - Dydd Llun 31 Awst | 8am - 8pm | Parc Bute, Caerdydd | Am ddim

Dyma wahoddiad i deuluoedd gwyllt ddod i ddringo i mewn i TAPE! Profiad cwbl unigryw o natur, o safbwynt hollol newydd - bron fel bod yn bry cop neu'n wyfyn!

Yn ymestyn rhwng boncyff y coed fel cocŵn amhosib, mae TAPE yn rhwydwaith cyffrous o dwneli wedi eu nythu yn y coed er mwyn i deuluoedd eu harchwilio - esgus gwych i fynd yn wyllt yn y ddinas a threulio diwrnod bythgofiadwy ym Mharc Bute yr haf hwn.

Ynghyd â dringo i mewn i TAPE am brofiad hudol yn y coed, mae gan TAPE llawer mwy i'w gynnig i deuluoedd....

*****

Llwybr Dail i'r Teulu

Dydd Sadwrn 1 - Dydd Llun 10 Awst | 8am - 8pm | Am ddim
Mwynhewch ein Llwybr Dail i ddod i wybod mwy am y cewr deiliog sy'n sefyll uwchlaw TAPE, a dod o hyd i Goeden Benigamp ar hyd y ffordd. Mae Parc Bute yn gartref i dros 3000 o goed, ac mae mwy o Goed Penigamp yno nag yn unrhyw fan arall yn y DU! Y Coed Penigamp yw'r mwyaf o'u rhywogaethau yn y DU, felly byddwch yn barod i gwrdd â rhai enfawr!

*****

Diwrnod Dweud Sreaeon

Dydd Iau 6 Awst | 10am - 5pm | Am ddim
Ymunwch â ni i glywed straeon cyffrous dan y coed ger TAPE.  Mwynhewch straeon am natur ac anturiaethau yn y coed, wedi eu cyflwyno gan Lyfrgell Ystum Taf. Dewch o hyd i le ar ein blancedi ac ar fonion y coed, a darllen neu wrando am faint bynnag o amser ag y mynnwch. Addas i blant rhwng 5 a 10 oed.

*****

Diwrnod Ditectif Natur

Dydd Mawrth 11 - Dydd Iau 20 Awst | 8am - 8pm | Am ddim
Dewch yn dditectif natur enwog ac ymuno â'n gweithgaredd natur Tape ymysg y coed. Chwiliwch ym mhob twll a chornel am bob trysor naturiol y gallwch ddod o hyd iddo, o'r ddeilen fwyaf crensiog i'r moch coed a fyddai'n ddigon da i Frenin, a'u gludo nhw i'ch cerdyn casglu. 

*****

Diwrnod Dweud Sreaeon

Dydd Iau 13 a Dydd Iau 20 Awst | 10am - 5pm | Am ddim
Ymunwch â ni i glywed straeon cyffrous dan y coed ger TAPE.  Mwynhewch straeon am natur ac anturiaethau yn y coed, wedi eu cyflwyno gan Lyfrgell Ystum Taf. Dewch o hyd i le ar ein blancedi ac ar fonion y coed, a darllen neu wrando am faint bynnag o amser ag y mynnwch. Addas i blant rhwng 5 a 10 oed.

*****

Hela Trychfilod 

Dydd Iau 20 Awst | 10am - 5pm | Am ddim
Chwilio am chwilod, sbesimenau pry cop, a llwybrau o weoedd a lindys! Dewch i gwrdd â'r anifeiliaid a fyddai'n gallu adeiladu TAPE eu hunain. Byddwch yn cael gwybod sut maen nhw'n mynd ati, eu harchwilio'n fanwl a mynd ar helfa chwilod mawr gyda'n Gwyddonydd Cymunedol OPAL, Barbara Brown.

 

*****

Saffari Lliwgar

Dydd Gwener 21 - Dydd Llun 31 Awst | 8am - 8pm | Am ddim
Chwiliwch am enfys! Mwynhewch ein Saffari Lliwgar teuluol ym morderi blodau enwog Parc Bute - rhain oedd yr hiraf yng Nghymru ar un pryd! Maen nhw'n llawn o flodau amryliw sy’n ddeniadol i wenyn a gloÿnnod - cyfrwch faint o liwiau y gallwch ddod o hyd iddynt, a'u cyfateb i'ch cerdyn saffari.

*****

Diwrnod Dweud Sreaeon

Dydd Iau 27 Awst | 10am - 5pm | Am ddim
Ymunwch â ni i glywed straeon cyffrous dan y coed ger TAPE.  Mwynhewch straeon am natur ac anturiaethau yn y coed, wedi eu cyflwyno gan Lyfrgell Ystum Taf. Dewch o hyd i le ar ein blancedi ac ar fonion y coed, a darllen neu wrando am faint bynnag o amser ag y mynnwch. Addas i blant rhwng 5 a 10 oed.

Mwy am hanes TAPE yma