Ar Awst yn cyntaf, am fis cyfan, mae gosodiad artistig sydd wedi gafael yn nychymyg cynulleidfaoedd mewn dinasoedd mawr ar draws y byd yn dod i’r DU am y tro cyntaf , yn wir i Gaerdydd, gan roi cyfle i bobl Cymru fynd yn wyllt a chael profiad unigryw gyda natur yng nghanol ein prifddinas.
Mae Tape yn syniad gan Numen / For Use, sef cydweithfa Groataidd sy’n gweithio ym maes celf cysyniadol, sînograffi a dyluniad gofodol. Bydd y gosodiad yn weindio tâp o amgylch 12 coeden ym Mharc ysblennydd Bute i greu strwythur llifol, rhyngweithiol sydd rhwng gwe pry cop a chacwn.
Cyflwynir y project drwy bartneriaeth project blaenllaw Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd RSPB Cymru, mudiad celfyddydol Migrations a Chyngor Dinas Caerdydd. Ariennir y project gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chwsmeriaid Tesco drwy lefi bagiau plastig yng Nghymru.
Dywedodd Rheolwr Project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, Carolyn Robertson: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â’r darn o waith unigryw hwn i Gaerdydd. Nod project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yw ailafael yn y cysylltiadau â natur y mae llawer o bobl wedi’u colli. Bydd gallu cropian y tu mewn i Tape yn rhoi cyfle i bobl gael safbwynt gwbl wahanol ymhlith y coed a gobeithiwn y byddwn yn eu hysbrydoli i feddwl yn wahanol am fyd natur.”
Dywedodd y Cynghorydd Bob Derbyshire, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae fersiynau o Tape wedi ymddangos mewn rhai o ddinasoedd mwyaf cyffrous y byd felly mae’n wych gallu ei groesawu i Gaerdydd. Mae prifddinas Cymru yn ffodus iawn o gael parciau a mannau gwyrdd gwych a bywyd gwyllt anhygoel ond mae’n hawdd byw mewn dinas heb feddwl am y byd natur o’n cwmpas. Mae project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn helpu i wneud natur yn rhan o blentyndod eto a dylai Tape ddatblygu’r ymdeimlad o ryfeddod y mae’r byd natur yn ei greu ac ymgysylltu plant, teuluoedd, a phobl sy’n frwd am gelf a natur â bywyd gwyllt y ddinas.”
Dywedodd Karine Décorne, Curadur Migrations: “Ni allwn aros i gyflwyno artistiaid rhyngwladol o fri i Gymru. Mae’r darn sy’n benodol i safle yn gyfle unigryw i bobl brofi celf gyfoes ar ei gorau. Mae'r holl waith rydym yn ei ddangos yn broffil uchel, yn gyfoes ond eto’n hael ac yn chwareus. Ar yr achlysur arbennig hwn, mae’n bleser gennym weithio gyda’r RSPB a chyflwyno rhywbeth a fydd yn herio canfyddiadau pobl ac yn eu helpu i ailafael yn y byd natur o’u cwmpas.”
Dywedodd Sven Jonke of Numen / For Use: “I ni, Tape Caerdydd yw un o’r cyfleoedd prin hynny i weithio yn yr awyr agored h.y. y tu allan i gyfyngiadau oriel, a dyma’r gosodiad Tape cyntaf erioed i gael ei osod ymhlith coed mewn parc cyhoeddus. Mae’n bosib gweld cymeriad parasitig, biomorffig y gwrthrych orau pan fydd yn treiddio'r amgylchedd natur a dyna pam ein bod o blaid cyd-destunau o'r fath. Rydym yn edrych ymlaen at waith ysbrydoledig a chanlyniadau diddorol.”
Ochr yn ochr â’r gosodiad bydd y tîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn cynnal llu o weithgareddau hwyl i’r teulu cyfan ar y thema natur gan gynnwys sesiynau bio-blitso a helfa fygiau i annog pobl i feddwl am sut y gallant helpu i ddiogelu ein bywyd gwyllt trefol a rhoi cartref i fyd natur yn y fan a’r lle.
Ond nid dyna’r diwedd...unwaith y bydd y gosodiad yn cael ei ddatgymalu, bydd deunyddiau Tape yn cael eu hailgylchu a’u gwneud yn botiau blodau gwyllt a fydd yn parhau i roi cartref i fyd natur am flynyddoedd i ddod.
Cewch fwynhau Tape am ddim o 1 Awst - 31 Awst 8am – 8pm, Parc Bute, Caerdydd.
www.migrations.uk
http://www.numen.eu