Oeddech chi’n gwybod bod gwybodaeth newydd wedi cael ei hychwanegu at y cais cynllunio a’r drwydded forol ar gyfer prosiect Morlais? Mae Gwybodaeth Amgylcheddol bellach ar gyfer cais y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio yma. Mae Menter Môn hefyd wedi cyflwyno'r un wybodaeth ar gyfer y cais am drwydded forol ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru yma. 

Rydyn ni wrthi’n adolygu’r wybodaeth newydd ein hunain a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein canfyddiadau diweddaraf. Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth newydd hon wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd heb wneud hynny o’r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer dweud eich dweud am y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd ar hyn o bryd yw 13 Mai. Nid yw’r dyddiad cau ar gyfer y drwydded forol wedi cael ei gyhoeddi eto. 

Beth allwch chi ei wneud? 

Gall unrhyw un wrthwynebu/cefnogi a rhoi sylwadau ar y ddau gais. Mae’r wybodaeth gyswllt ar gyfer y ddau i'w gweld isod: 

Mae modd gweld copi o'r cais am y Gorchymyn, a'r holl gynlluniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef, yn www.morlaisenergy.com/cy/ Mae modd cael copïau o’r wybodaeth honno gan Menter Môn drwy anfon e-bost at info@morlaisenergy.com neu ffonio 01248 725 722. Efallai y codir tâl am hyn. 

 Y Ddeddf Gweithfeydd Traffig:  

Dylai unrhyw wrthwynebiad, neu sylw arall, ynghylch y cynigion yn y cais gael ei anfon at Arolygiaeth Gynllunio Cymru, naill ai drwy anfon e-bost neu drwy'r post:  

E-bost: TWA.Morlaistidalarray@planninginspectorate.gov.uk 

Post: Yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3N  

Cyfeirnod: 3234121 - Y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd  

RHAID i wrthwynebiad neu unrhyw sylw arall (i) ddod i law Gweinidogion Cymru ar 13 Mai 2020 neu cyn hynny, (ii) fod yn ysgrifenedig (p’un ai a yw’n cael ei anfon drwy e-bost neu'r post), (iii) nodi sail y gwrthwynebiad neu’r sylw, (iv) nodi pwy sy’n gwrthwynebu neu’n gwneud y sylw, a (v) rhoi cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth gysylltiedig â'r gwrthwynebiad neu'r sylw iddo. (Os ydych chi’n anfon eich gwrthwynebiad neu’ch sylw drwy e-bost, a fyddech cystal â darparu cyfeiriad post.)  

Trwydded Forol: Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau am y cais a’r datganiad amgylcheddol wneud hynny drwy ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru yma: Y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP neu drwy anfon e-bost at marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk 

  1. Dylid nodi’r dyddiad ar y sylwadau a dylid nodi enw’r sawl sy’n gwneud y sylw yn glir (mewn prif lythrennau) yn ogystal â’i gyfeiriad post neu e-bost llawn.
  2. Dyfynnwch y cyfeirnod ORML1938 ym mhob gohebiaeth.

Yn ein blog blaenorol, aethom ati i drafod beth yw'r prosiect a pham rydyn ni’n bryderus yn ei gylch. Rydyn ni’n croesawu’r wybodaeth newydd gan Menter Môn ac rydyn ni wedi bod yn cyfathrebu â nhw drwy gydol y broses. 

Mae’r datblygwr, Menter Môn, wedi gwneud cais am Drwydded Forol gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu prosiect ynni morol adnewyddadwy – Parth Arddangos Llanw Gorllewin Môn – mewn ecosystem sensitif oddi ar arfordir Ynys Môn. 

Mae’r blaned yn wynebu argyfwng hinsawdd ac mae bioamrywiaeth mewn perygl o gwympo, felly mae’n rhaid mynd i'r afael â’r ddau argyfwng yma gyda’i gilydd. Mae cael rhagor o ynni adnewyddadwy yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond mae angen lleoli a chynllunio datblygiadau mewn ffyrdd sy’n osgoi cyfrannu at yr argyfwng natur. 

Y cynnig 

Mae’r prosiect yn cynnig Parth Arddangos Morol ar gyfer ynni ffrwd lanw – byddai hwn yn cynnwys tyrbinau sy’n defnyddio cerrynt y llanw. Pe bai’n cael ei ddatblygu’n llawn, gallai arwain at adeiladu hyd at 620 o ddyfeisiau dros 35 cilometr sgwâr yn y môr i gynhyrchu tua 240MW o drydan adnewyddadwy. Byddai rhai o’r tyrbinau yn cael eu gosod ar wely'r môr, a byddai eraill yn arnofio ar yr wyneb.    

Mae’r Parth Arddangos Morol wedi'i leoli oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, yn agos i warchodfa RSPB ar Ynys Lawd a safleoedd natur pwysig eraill – ardal lle mae modd gweld rhywogaethau, gan gynnwys palod, gwylogod, gwylanod coesddu a llursod, bob haf. Mae dros 180,000 o bobl yn dod i’r ardal hon, lle gallant weld dros 10,000 o wylogod a 1,300 o lursod yn nythu ar glogwyni'r môr.  

Mae’r dechnoleg hon yn newydd ac mae’n anodd mesur ei heffeithiau ar fywyd morol. Mae gwaith modelu yn dangos bod amrywiaeth o sgil-effeithiau posibl – mae un amcan (nid y sefyllfa waethaf bosib) yn rhagfynegi y gallai tua 60% o'r gwylogod a 98% o’r llursod yng ngwarchodfa’r RSPB ar Ynys Lawd gael eu colli oherwydd y byddant yn taro yn erbyn y tyrbinau.  

Felly, mae’n ansicr pa lefel o ddatblygiad ffrwd lanw allai osgoi effeithiau niweidiol ar boblogaethau adar môr yng ngwarchodfa'r RSPB ar Ynys Lawd. Rydyn ni’n bryderus ynghylch graddfa’r caniatâd y gwneir cais amdano. Yn ein barn ni, nid yw’r cais wedi mynd i'r afael â’r risgiau i adar môr yn ddigonol, nac ystyried y gallai gael effeithiau annerbyniol ar natur. Am y rheswm hwn, rydyn ni wedi gwrthwynebu'r cais am y Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd y mae ei angen, yn ogystal â Thrwydded Forol.  

Rydyn ni eisiau gweld agwedd at ddatblygu sy’n diogelu ein hadar môr – mae hyn yn golygu rhoi cyfyngiad ar ddatblygiadau i’r graddau y mae modd dangos eu bod yn ddiogel i natur, ac ymchwilio i effeithiau technolegau newydd er mwyn gwella dealltwriaeth wyddonol. 

RSBP South Stack