Mae digwyddiad RSPB blynyddol Gwylio Adar yn yr Ardd (Big Garden Birdwatch) yn ôl dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Ionawr 2015, yn rhoi cyfle i bobl ar draws Cymru i fod yn rhan o arolwg bywyd gwyllt fwyaf y byd. Bu i tua hanner miliwn o bobl ar draws Prydain gymryd rhan yn 2014 – gyda dros 22,500 o bobl Cymru yn cymryd rhan. Mae RSPB Cymru yn annog mwy o bobl Cymru i ymuno yn y cyfrif y flwyddyn hon, i wneud arolwg eleni'r gorau eto!
Mae’r arolwg bywyd gwyllt yma, sydd yn ei 36ain flwyddyn, yn darparu RSPB gyda ciplun o wybodaeth am boblogaethau adar yr ardd yn y gaeaf ac wedi helpu i dynnu sylw cadwraethwyr i’r rhywogaethau hynny sy’n dirywio dros y tri degawd diwethaf. Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae RSPB yn gofyn i’r rheini sy’n cymryd rhan i nodi lawr bywyd gwyllt eraill sy’n cael eu gweld yn eu gofod tu allan, er mwyn galluogi’r elusen i greu darlun o bwysigrwydd gerddi yn rhoi cartref i fyd natur.
Cafodd dros 418,000 aderyn eu cyfrif yn yr arolwg llynedd (Ionawr 2014) yng Nghymru (bron i 7.5 miliwn ar draws Prydain) gyda'r canlyniadau yn dangos fod gostyngiad y llinos werdd a’r drudwy (llun isod) yn parhau. Am yr ail flwyddyn yn olynol, gwelwyd y gnocell fraith fwyaf yn yr 25 uchaf a'r nico yn saethu i mewn i rif saith.
Yma yng Nghymru rydym wedi gweld ffigyrau adar y to (llun isod) yn codi, sydd wedi cyrraedd brig y siart ar draws Prydain. Serch hynny, mae ffigyrau'r aderyn cyffredin hwn yn gostwng ar draws Lloegr. Daeth y titw tomos las yn ail, ac i’w weld mewn tri chwarter o’r gerddi a arolygwyd. Daeth y drudwy i mewn yn drydydd, ac er iddo gael ei weld mewn traean o erddi, mae’r ffigyrau yma wedi gostwng yn ddramatig.
I gymryd rhan, gofynnir i bobl dreulio dim ond un awr ar unrhyw adeg yn ystod y penwythnos gwylio adar, gan nodi'r nifer uchaf o bob aderyn a welir yn eu gerddi neu mewn mannau awyr agored lleol. Rhaid iddynt wedyn gyflwyno eu canlyniadau i'r RSPB cyn 13 Chwefror, naill ai arlein - www.rspb.org.uk/birdwatch <http://www.rspb.org.uk/birdwatch> neu yn y post.
Mae'r arolwg yn rhan o ymgyrch Rhoi Cartref i Fyd Natur y RSPB, gyda'r nod o fynd i'r afael â'r argyfwng cartrefu sy'n bygwth bywyd gwyllt y DU. Mae'r elusen yn gofyn i bobl ddarparu llecyn ar gyfer bywyd gwyllt yn eu gerddi a mannau awyr agored - un ai trwy blannu planhigion sy’n gyfoeth o baill er mwyn denu gwenyn a gloÿnnod byw, gosod blwch nythu ar gyfer aderyn y to, neu trwy greu pwll a fydd yn cynnal nifer o wahanol rywogaethau. Am wybodaeth ar sut y gallwch chi roi cartref i fyd natur lle rydych chi’n byw, ewch i www.rspb.org.uk/homes
Er mwyn cymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd 2015, cofrestrwch yma www.rspb.org.uk/birdwatch