I ddarlen y blog yma yn y Saesneg, cliciwch yma.

Gallech chi fod yn teithio mwy na thair milltir i gyrraedd eich gwaith, i fynd â’r plant i’r ysgol neu i fynd i'r gampfa. Serch hynny, dyna yw’r pellter byr y mae cig oen a chig carw RSPB Ynys Dewi yn ei deithio er mwyn cael ei werthu yn St Davids Kitchen, bwyty yn Sir Benfro, fel rhan o’r ethos ‘fferm i'r fforc’ sydd wedi’i fabwysiadu.

Mae'r project o'r ‘fferm i'r fforc’ rhwng RSPB Ynys Dewi a St Davids Kitchen yn Sir Benfro yn amlygu elfennau positif ffermio mewn ffyrdd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Gwerthodd RSPB Ynys Dewi bob un o’i 66 o ŵyn i St Davids Kitchen eleni, yn ogystal ag wyth carw coch.  Ar ôl teithio'r tair milltir fer i’w cartref newydd, bu'r ŵyn yn pori o dan fryn Pen Beri ym Mhenrhyn Tyddewi nes eu bod yn barod ar gyfer y bwyty.

Mae defaid mynydd Cymreig yn pori caeau’r ynys drwy gydol y flwyddyn. Mae’r dull traddodiadol hwn o reoli yn hanfodol ar gyfer gwarchod llawer o rywogaethau â blaenoriaeth uchel, fel yr wyth pâr o’r frân goesgoch - rhywogaeth brain mwyaf prin y DU - sy'n magu yno, ac mae Cymru’n gartref i dros 50% o boblogaeth y DU, sy’n llai na 400. Mae’r frân goesgoch yn dibynnu ar laswellt byr er mwyn bwydo ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn y pridd, ac mae’r defaid yn ‘beiriannau torri glaswellt’ naturiol drwy reoli’r cynefin glaswelltir asid, tra bydd tail hefyd yn hanfodol i'r chwilod y mae’r frân goesgoch yn bwydo arnynt.

Mae angen mwy o bori ar RSPB Ynys Dewi yn ystod yr haf nag yn ystod y gaeaf, ac oherwydd bod symud defaid i’r ynys ac oddi arni bob blwyddyn yn gamp heriol o ran logisteg, cychwynnodd staff RSPB Ynys Dewi wyna wyth mlynedd yn ôl.

Prynodd ac hyfforddwyd y tîm gi defaid bach, a dysgwyd holl sgiliau wyna gan ffermwr cyfagos. Ar ddiwedd bob haf, mae’r ynys yn gwerthu’r ŵyn hyrddod ac yn cadw'r mamogiaid ifanc i gymryd lle unrhyw ddefaid hŷn yn y praidd. Mae nifer y defaid wedyn yn gostwng o tua 250 i 150 ar gyfer y gaeaf.

Roedd y ceirw coch, ar y llaw arall, ar yr ynys amser maith cyn iddi fod yn berchen i’r RSPB. Pan brynodd y RSPB yr ynys yn 1992, roedd praidd bach yno eisoes ar ôl cael eu cyflwyno yn 1976 gan berchnogion preifat. Penderfynodd y RSPB gadw praidd bach a monitro ei effaith ar yr ynys, a gwelon nhw cyn hir ei fod yn fuddiol i’r planhigion dŵr sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, ac yn darparu mannau pori i’r frân goesgoch.

Serch hynny, mae pori ar ynys fach yn gofyn am gydbwysedd manwl. Os bydd nifer y ceirw coch yn codi’n rhy uchel, caiff niwed ei achosi i blanhigion a blodau brodorol ac i gynefin poblogaeth aderyn drycin Manaw, sy’n cynyddu’n gyflym. Mae cadw’r nifer cywir o geirw iach hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn goroesi gaeaf caled yr ynys.

O ganlyniad i’r rhesymau hyn, rhaid difa ceirw yn gyfnodol, gan ddefnyddio llech-helwyr trwyddedig i gynnal poblogaeth iach o tua 10 i 15 anifail. Mae RSPB Cymru yn cefnogi gweld cig oen ac cig carw Ynys Dewi ar werth yn St Davids, gan ein bod yn gefnogol o ethos y bwyty ac o’r cyn lleied o deithio mae’n rhaid i’n hanifeiliaid ei wneud.

Mae bwydlen Nadolig y bwyty yn dweud y cyfan, gan nodi bod yr holl gynnyrch yn dod gan wyth cyflenwr lleol, gyda saith o’r rheini o fewn tair milltir i Dyddewi.

Mae St Davids Kitchen, sydd dan berchnogaeth Neil a Ruth Walsh, yn ceisio sicrhau bod y gymuned wrth galon popeth sy’n cael ei werthu yn y bwyty. Mae bod yn deulu lleol wedi caniatáu i nhw greu cysylltiadau er mwyn cael y cynnyrch lleol gorau posib.

Dangosodd Neil Walsh ei hapusrwydd gyda'r partneriaeth ag RSPB Ynys Dewi gan esbonio: "Mae cael cig oen RSPB Ynys Dewi a chynnyrch unigryw fel cig carw yn ardderchog. Rydw i wir yn credu bod y cynnyrch rydyn ni wedi ei gael o Ynys Dewi gan y RSPB a chynhyrchwyr eraill, pob un o fewn tair milltir, gystal ag unrhyw fwyty arall yn y wlad. Mae’n fraint wirioneddol ei roi ar blatiau ein cwsmeriaid - a fy un i!”

Maent yn falch iawn o’r cynnyrch lleol maen nhw’n ei ddefnyddio, a hynny i’r fath raddau bod ganddyn nhw fap cynfas o Benrhyn Tyddewi ar wal y bwyty, gan ddangos tarddiad pob un cynhwysyn.

Bydd RSPB Ynys Dewi wrth ei fodd yn gweld ei enw yn cael ei ychwanegu at y map.