English version available here
Ar wythnos gwirfoddoli, dyma ni'n sgwrsio gydag un o'n gwirfoddolwyr ifanc, Parichat (Pari) Cooke, am ei rôl gyda ni.
1) Soniwch amdanoch eich hun - beth yw eich diddordeb a'r hyn a'ch ysbrydolodd gyntaf i wirfoddoli dros RSPB Cymru?
Ers astudio Daearyddiaeth ar gyfer TGAU, rwyf wedi datblygu diddordeb yn yr amgylchedd. Rwyf hefyd yn frwd dros archwilio'r ecosystemau trofannol a deall yr effeithiau yr ydym yn eu cael ar fywyd gwyllt yn ogystal â'r camau a gymerwyd tuag at ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl, lliniaru yn erbyn peryglon naturiol, a diogelu ein hadnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn 2019, enillais radd MSc mewn Bioleg Amgylcheddol ac ar hyn o bryd, rwy'n gweithio tuag at ddilyn gyrfa ym maes cadwraeth. Gyda fy angerdd dros ddiogelu bywyd gwyllt, penderfynais wirfoddoli gyda'r RSPB i wneud fy nghyfraniad a chael profiad o weithio fel rhan o sefydliad cadwraeth lwyddiannus.
2) Beth mae eich rôl yn ei olygu a beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli?
Rwy'n gwirfoddoli fel Gwirfoddolwr Cynorthwyol Grwpiau Lleol yng Nghymru, mae'r rôl hon yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, gwneud ymholiadau ar ran fy Rheolwr Llinell, mynychu cyfarfodydd tîm, a sicrhau lefel effeithlon o gyfathrebu rhwng grwpiau a staff ledled Cymru. Rwyf wedi mwynhau fy rôl yn ystod y gwaith o gynllunio a datblygu cylchlythyrau, casglu a rhannu straeon i'w hyrwyddo, a bod yn rhan o’r ymgyrch recriwtio gwirfoddolwyr. Mae grwpiau gwirfoddolwyr lleol yn gefnogwyr craidd ac mae ganddynt gysylltiadau gwerthfawr yn eu cymunedau. Byddwn yn argymell darganfod a oes grŵp lleol yn eich ardal chi drwy glicio ar y ddolen hon a rhoi eich cod post.
3) Beth fu eich uchafbwynt hyd yn hyn?
Ym mhob sesiwn wirfoddoli, rwy'n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiadau newydd, er enghraifft, rwyf wrthi'n dysgu sut i ddefnyddio eu cronfa ddata gwirfoddolwyr, sef y 'System Rheoli Gwirfoddolwyr'. Trwy ddatblygu'r sgìl newydd hwn, rwyf wedi gallu mewnbynnu a diweddaru manylion gwirfoddolwyr yn ogystal â chefnogi rhai grwpiau gydag anghenion recriwtio eu gwirfoddolwyr. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r cyrsiau hyfforddi a'r sgiliau trosglwyddadwy y mae’r RSPB yn eu darparu. Yn eu sgil, rwyf wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o GDPR, diogelu, rhagfarn ddiarwybod yn ogystal â phwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.
4) Fyddech chi'n argymell gwirfoddoli i eraill a pham? Beth yw pwysigrwydd gwirfoddoli?
Byddwn yn argymell gwirfoddoli gyda'r RSPB i unrhyw un sy’n frwd dros natur, y rhai sy'n dilyn gyrfa ym maes cadwraeth amgylcheddol ac yn enwedig myfyrwyr sy'n chwilio am brofiad gwaith. I mi, pwysigrwydd gwirfoddoli yw gallu gwneud fy nghyfraniad i'r tîm yn ogystal â dysgu rhai o'r nodau a'r amcanion niferus y mae'r sefydliad yn anelu at eu cyflawni er mwyn diogelu a gwarchod rhywogaethau sydd mewn perygl a'u cynefinoedd.
5) Beth yw eich barn am y dyfodol - sut mae gwaith natur yn y gymuned a gwirfoddoli yn cyd-fynd â'r darlun mawr i helpu Cymru i fynd i'r afael ag argyfyngau byd natur a hinsawdd?
Credaf y bydd gwell dyfodol. Mae'n bwysig addysgu pobl ifanc am yr amgylchedd a hyrwyddo byw'n gynaliadwy gan ei fod yn allweddol i leihau ein hôl troed carbon. Gallwn ddiogelu'r blaned drwy leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr drwy wneud newidiadau bach i'n ffordd o fyw e.e. defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau ein defnydd o ddŵr ac ynni ac ailgylchu cymaint â phosibl.