Yn ateb y cwestiynau mawr...

English version available here

Mae’n anodd credu bod dros dair wythnos wedi pasio ers gŵyl agoriadol Adferiad Gwyrdd Cymru – gŵyl pedwar diwrnod rhithwir sy’n canolbwyntio ar ffermio a rheoli tir, systemau bwyd cynaliadwy, adfer bywyd gwyllt a gweithio tuag at ddyfodol gwyrddach ar gyfer Cymru.

Un o lawer o uchafbwyntiau’r wythnos oedd y drafodaeth panel byw, Hawl i Holi: Y Ffordd Ymlaen ar gyfer Cymru, lle’r oedd pleidiau gwleidyddol Cymru yn trafod beth fydd yn sicrhau adferiad gwyrdd sy’n cyflawni dros natur, pobl a’r economi.

Isod, gwelir crynodeb o’r hyn a ddywedodd gwleidyddion o’r pum blaid wleidyddol ynglŷn â sicrhau adferiad gwyrdd.

Huw Irranca-Davies: Llafur

  • Dadleuodd Huw y dylai bob plaid wleidyddol yng Nghymru gael ymrwymiad pendant i atal a gwrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth ac ymdrin â newid yn yr hinsawdd – ac yna caniatáu i’r ymrwymiad hwnnw flaenoriaethu’r ffordd y mae llywodraeth yn gwneud penderfyniadau unigol.

  • Rydym ni angen ffordd gydgysylltiedig ynglŷn â sut yr ydym yn symud buddsoddiad ar draws llywodraeth er mwyn cyflawni adferiad gwyrdd (teimlad a gafodd ei atseinio gan bob plaid wleidyddol). Nid yw’n fater o ddyrannu canran arbennig o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer yr amgylchedd.

  • Mae Huw yn credu y dylid canoli Bil Amaeth, Bwyd a Rheoli Tir yn y dyfodol ar arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus sy’n cyflawni canlyniadau amgylcheddol fel ansawdd dŵr, mynediad cyhoeddus, dal a storio carbon a gwelliannau bioamrywiaeth.

  • Gall plannu coed helpu i wrthdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth ac atal newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, rydym ni angen y goeden iawn yn y lle iawn

Llŷr Gruffydd: Plaid Cymru

  • Byddai Plaid Cymru hefyd yn datblygu cynllun nwyddau cyhoeddus sy’n talu ffermwyr i gyflawni buddion amgylcheddol. Yn ogystal, byddai Plaid yn dymuno cynnal elfen o gymorth incwm uniongyrchol ar gyfer ffermwyr.  Fodd bynnag, byddai angen iddo gynrychioli gwerth am arian a chyflawni yn erbyn llu o ganlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

  • Mae gan Blaid ddiddordeb mawr yng nghanfyddiadau’r adroddiad Less is More sy’n tynnu sylw at y buddion economaidd o ffermio mewn cytgord â natur.  Yng ngeiriau Llŷr ei hun - “Mae’n rhaid inni beidio â chloddio’r tir, ond yn hytrach gweithio gydag ef.”

  • Pe bai mewn llywodraeth, byddai Llŷr yn cynnal trafodaethau gyda’r diwydiant amaeth ynglŷn â’r dyheadau ar gyfer gwrthdroi argyfwng natur.

  • Roedd Plaid Cymru yn cilio’n ôl ychdyig ynglŷn â gosod targedau natur, oherwydd bod perygl o fod yn hunanfoddhaus unwaith eu bod yn cael eu cwrdd. Fodd bynnag, cydnabu Llŷr fod gosod targedau yn gallu helpu i newid cyfeiriad meddyliau a’ch sbarduno chi tuag at nod.  Yn yr achosion hyn, bydd angen i dargedau fod yn uchelgeisiol.

Andrew RT Davies: Ceidwadwyr

  • Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno cyflwyno Deddf Aer Glân, fel bod yr aer yn lân lle bynnag yr ydych chi’n byw yng Nghymru.

  • Tynnodd Andrew sylw at bwysigrwydd cynlluniau amaeth-amgylcheddol fel enghraifft ynglŷn â sut mae ffermio yn gallu helpu i adfer natur. Dadleuodd fod Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewrop wedi gwaethygu’r colledion bioamrywiaeth, ac rydym ni angen polisi amaeth newydd er mwyn helpu i wrthdroi dirywiad mewn natur. 

  • Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn mynd â’r cyhoedd yng Nghymru gyda nhw ar siwrnai adfer werdd, a’u bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Gellir gwneud hyn drwy Gynulliad y Bobl.

  • Ar ôl gwrthwynebu yn flaenorol i adeiladu ffordd liniaru’r M4 dros Wastadeddau Gwent, a fyddai’n difrodi sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGAau), un achos i bryderu amdano i RSPB Cymru oedd y farn fod adeiladu’r ffordd hon yn gytûn ag adferiad gwyrdd, a’i bod yn gydnaws â nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru”.

Anthony Slaughter: Y Blaid Werdd

  • Nododd Anthony fod angen buddsoddiad yn awr er mwyn gwrthdroi’r dirywiad mewn natur a’r amgylchedd. Mae’r amgylchedd yn treiddio ar draws holl agweddau’r llywodraeth, ac rydym ni felly angen dull trawslywodraethol tuag at gyflawni adferiad gwyrdd.

  • Mae pawb angen bod ynghlwm â’r sgwrs ynghylch adferiad gwyrdd, ac mae’n rhaid i drafodaethau fod yn gynhwysol ac adlewyrchu’r gymdeithas ehangach.

  • Byddai’r Blaid Werdd yn ailgyfeirio cymorthdaliadau amaethyddol i gyflawni canlyniadau amgylcheddol. Yn ogystal, byddan nhw’n ymrwymo i sefydlu systemau ac economïau bwyd mwy lleol, yn y Gymru wledig a’r Gymru drefol.

  • Mae Anthony yn cytuno â galwad Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton ynglŷn â Thasglu Gwyrdd ar gyfer pobl ifanc a fyddai’n cynnig swyddi ar brosiectau a fyddai’n hybu’r amgylchedd.

 William Powell: Y Democratiaid Rhyddfrydol

  • Tynnodd William sylw at y pwysigrwydd o ffermio ar gyfer cyflawni buddion natur, gan gyfeirio at y sesiwn Gwrychoedd ac Ymylon yn Adferiad Gwyrdd Cymru a gwaith yr YG yn Rhosili.

  • Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal y lefelau presennol o gyllid amaethyddol ac yn ailgyfeirio’r arian tuag at hwyluso ffermio sy’n gyfeillgar i natur. Bydden nhw’n cyflwyno Incwm Sylfaenol Cynhwysol i ffermwyr ar gyfer cyfnewid cadarn o nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol.

  • Yn ogystal, bydden nhw’n sicrhau bod safonau amgylchedd, lles anifeiliaid a diogelwch bwyd uchel yn cael eu cynnal. Roedd William yn cynnig sefydlu Comisiwn ar gyfer Bwyd a Ffermio, gyda chomisiynydd annibynnol er mwyn i wneuthurwyr penderfyniadau fod yn atebol.

Roedd yn galonogol clywed ymrwymiadau cryf i sicrhau adferiad gwyrdd, yn arbennig felly cytundeb trawsbleidiol ynglŷn â sicrhau polisïau amaethyddol sy’n helpu i adfer a gwella natur; yr angen i fuddsoddi mewn adferiad gwyrdd ar draws y llywodraeth; mwy o swyddi gwyrdd a chynaliadwy; a mwy o addysg ynghylch natur, hinsawdd, bwyd a ffermio.

Mae tystiolaeth eglur os ydym ni’n gwneud y penderfyniadau cywir yn awr, gallwn ni adfer ac adeiladu’r Gymru iach, cyfoethog mewn natur, gyda hinsawdd ddiogel a theg yr ydym ni oll yn ei dymuno a’i hangen.  Fodd bynnag, bydd hyn yn digwydd yn unig os yw’r rhai hynny sydd mewn grym yn ymrwymo yn gyfan gwbl i gyflawni adferiad gwyrdd; bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi hwyluso hyn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ond am y tro, gallwch chi wylio y sesiwn lawn yma.