Cymru’n croesawu mewnfudwyr melodig

English version available here

Bob blwyddyn, bydd miloedd o adar yn cychwyn ar deithiau hir ac enbydus i Gymru i fagu neu i fwydo. Dyma gipolwg ar rai o’r adar fydd yn ymgartrefu yng Nghymru dros fisoedd y gwanwyn a’r haf.

Plymwyr y môr

Aderyn bach du a gwyn yw’r llurs, sy’n treulio’r rhan fwyaf o’i oes allan ar y cefnfor agored. Mae’n nofiwr campus ac yn blymiwr gwell fyth, ac weithiau’n cyrraedd dyfnder o fwy na 100 metr i ddal y pysgod bychain sy’n fwyd iddo. Yn gynnar yn y gwanwyn, bydd llursod yn mudo i’r arfordir i nythu a magu cywion, gan adeiladu’u nythod ar silffoedd cul ar wynebau clogwyni serth. Mae RSPB Ynys Lawd yn lle da i’w gweld; yma maen nhw’n cydfyw gyda channoedd o adar môr eraill fel palod a gwylogod. Wedi aros am fis neu ddau’n magu eu cywion, bydd y llursod yn ymadael oddeutu mis Gorffennaf i ddychwelyd i ddyfroedd agored Môr Iwerydd.

Telori yn yr hesg

Ymlaen â ni i RSPB Conwy lle cawn weld (neu glywed!) telor yr hesg. Telor bychan, crwn, â rhesen lydan amlwg lliw hufen uwchben ei lygad, a choesau llwydfrown. Bydd yn cyrraedd o Affrica oddeutu’r adeg yma, ac yn nythu yng nghaeau Conwy tan fis Awst. Tua diwedd yr haf, gyda thelor y coed a thelor y cyrs, bydd yn ein gadael eto am wres y gwledydd i’r de o Anialwch y Sahara.



Huganod yng Ngwales

Draw yn RSPB Ynys Gwales, daw’r hugan yn ôl i’w chadarnle. Wedi treulio’r gaeaf yn bwydo oddi ar arfordir gorllewinol Affrica, daw yn ôl i fagu ar yr ynys fach greigiog i’r gorllewin o RSPB Ynys Dewi. Er mai darn o graig cymharol fach yw’r ynys, mae’n croesawu 36,000 o barau o huganod i nythu yma bob blwyddyn. Golygfa hynod hefyd yw gwylio’r aderyn gosgeiddig hwn yn pysgota, ei gorff yn fawr, ei wddw a’i big yn hir, a’i ben yn felyn. Wrth blymio o uchder o 30m, gall daro’r dŵr ar gyflymder o hyd at 60 milltir yr awr, ac mae rhwydwaith helaeth o godennau aer rhwng ei gyhyrau a’i groen i glustogi’r ardrawiad.

Britho’r coed

Aderyn du a gwyn yw’r gwybedog brith hefyd, ond welwch chi mo hwn yn nythu ar wyneb clogwyn. Mae’n well ganddo gysgod y coed, a bydd yn cyrraedd coetiroedd Cymru o gwmpas mis Ebrill. O orllewin Affrica y daw, lle bydd wedi treulio misoedd y gaeaf yn bwydo. Bob blwyddyn, aiff ar daith anturus i Gymru, lle bydd yn nythu mewn coedydd aeddfed a dyffrynnoedd coediog. Fel yr awgryma ei enw, pryfed yw bwyd y gwybedog brith. Mi wnaiff fwyta trychfilod o bob math – yn bryfed cop, gwenyn, gwybed, morgrug a lindys. Mae RSPB Llyn Efyrnwy, Ynys-hir a Charngafallt yn llefydd da i weld y teithiwr talog hwn – beth am fynd i chwilio!


 
Un wennol ni wna wanwyn

Bydd y wennol ddu yn cwblhau taith epig 6,000 o filltiroedd o Affrica yn gynnar ym mis Mai. Mae arni angen tywydd cynnes i sicrhau cyflenwad cyson o bryfed hedegog, felly dim ond am rhyw dri mis bob haf y bydd hi’n aros yng Nghymru, cyn symud ymlaen eto i Affrica gan alw yn Ffrainc a Sbaen ar y ffordd. Teithiwr o fri! Os ewch i lawr i Fae Caerdydd yn yr ychydig wythnosau nesaf, hwyrach y byddwch yn ddigon ffodus i weld rhai o’r ymwelwyr hyfryd hyn yn y tŵr gwenoliaid. Codwyd y tŵr ddwy flynedd yn ôl ar y cyd gyda Chymdeithas Adar Morgannwg, ac rydym yn falch o allu cynnig hafan i’r gwenoliaid. Ers 1995, gwelwyd cwymp enbyd o 69% yn niferoedd y wennol ddu yng Nghymru, yn bennaf oherwydd colli cynefin. Mewn dinasoedd fel Caerdydd, mae llai o ailddatblygu hen adeiladau – tueddir i’w dymchwel a datblygu adeiladau newydd modern, sydd ddim yn cynnig yr un cyfleon nythu i’r adar hynod hyn. Os daliwn ar y trywydd hwn, gallem yn hawdd golli’r wennol ddu o Gymru yn gyfan gwbl o fewn ugain mlynedd.



Cysylltwch â ni i roi gwybod am yr ymwelwyr a welwch y gwanwyn hwn – ar Twitter, Instagram neu Facebook.