I helpu i baratoi ar gyfer Gwylio Adar yr Ardd, mae digonedd o ddigwyddiadau yn digwydd ar draws gwarchodfeydd natur yr RSPB Cymru - o ddarganfod sut i wneud bwydwyr adar i adnabod y creaduriaid sy’n rhannu eich cartref.
Ewch draw i RSPB Conwy ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Ionawr, 1-3yh i wneud pwdinau blasus ar gyfer adar; dylunio mwgwd adar a dysgu sut i adnabod adar yr ardd a'r hyn maen nhw'n hoffi ei fwyta ar ein llwybr Gwylio Adar yr Ardd Fawr. Bydd cynigion arbennig hefyd yn y siop, gyda chyngor a gwybodaeth ddefnyddiol gan ein staff a’n gwirfoddolwyr. Galwch heibio, does dim angen archebu lle o flaen llaw.
Gallwch hefyd ymuno yn yr hwyl yn y sioe rhyngweithiol ‘adar sy’n torri record’ sy'n wych ar gyfer teuluoedd. Mae’r sioe ymlaen yn ystod yr un penwythnos am 2yh (3-10 oed). Darganfyddwch pa aderyn yw'r lleiaf a pha un sy'n gallu hedfan yn gyflymaf. £1 y pen. Nid oes angen archebu lle. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01492 581025. rspb.org.uk/Conwy
Yn RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd cewch fynd ar daith gwylio adar i ddechreuwyr ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr, 9.30yb-11.30yp. Dyma'r cyfle perffaith i wella eich sgiliau gwylio adar a chael ychydig o ymarfer cyn yr arolwg bywyd gwyllt mwyaf o'r flwyddyn. Taith dywys: £4.40 aelodau RSPB / £5.50 os nad yn aelod. Archebu lle yn hanfodol. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01633 636363. rspb.org.uk/newportwetlands
Neu beth am ymuno â’r tîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, staff addysg Parc Bute a Cheidwaid Cyngor Caerdydd am brynhawn o hwyl i'r teulu am ddim yng Nghanolfan Addysg Parc Bute, Caerdydd ddydd Sadwrn 26 Ionawr, 12-3yh. Darganfyddwch adar anhygoel ar y daith gerdded adar teuluol o amgylch Parc Bute (12.30yh a 1.30yh) a gwyliwch adar yr ardd trwy ffenestr yr ystafell ddosbarth wrth iddynt fwyta oddi ar y bwydwyr. Gallwch hefyd ddarganfod sut y gall eich teulu gwblhau Arolwg Gwylio Adar yr Ardd fel rhan o #sialenswyllt a chael dipyn o amser creadigol gyda celfyddydau a chrefft dan do. Am ragor o wybodaeth am y ddau ddigwyddiad ffoniwch 02920 353000 neu ebostiwch jessie.longstaff@rspb.org.uk