To read this blog in English please click here

Mae’r ymgyrch #DimM4Newydd yn tyfu ledled Cymru – dyma sut y gallwch chi gymryd rhan.

Mae’r ymgyrch wedi cychwyn - wrth arwain tuag at benderfyniad Llywodraeth Cymru ar yr M4, mae pobl ledled y wlad yn rhoi bwysau ar y Llywodraeth fel bod ein gwleidyddwyr yn ymwybodol fod y cyhoedd yn erbyn y Llwybr Du.Yn ogystal â’r 5,000 ohonoch sydd wedi codi eich lleisiau yn erbyn yr M4 hyd yma, mae enwogion hefyd wedi ymuno â’r ymgyrch drwy rannu straeon personol eu hunain - fel cerddor Super Furry Animals Cian Ciaran, seren Submarine Craig Roberts, ysgrifennwr gwleidyddiaeth a chynghorwr Jeremy Corbyn, Steve Howell, a’r cyfarwyddwr ffilm o Gasnewydd Darragh Mortell.

Yn awr hoffem eich help unwaith eto - ymunwch â’r ddadl a dechreuwch rannu eich straeon. Yn ein blog blaenorol, rhestrwyd yr holl ffyrdd y gallwch chi ymuno â’r ymgyrch. Dyma nhw unwaith eto i’ch atogffa chi:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi llofnodi’r ddeiseb [https://you.38degrees.org.uk/petitions/stop-the-proposed-m4/]
  • Rhannwch fideo’r ymgyrch (cliciwch yma)
  • Rhannwch luniau’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r rhai ynghlwm isod
  • Ysgrifennwch at neu trydarwch y Prif Weinidog (@fmwales)
  • Ysgrifennwch at eich papur newydd rhanbarthol
  • Dywedwch wrth eich rhwydweithiau i wneud yr un peth!

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ysgrifennu at eich papur newydd, at y Prif Weinidog, i rannu cynnwys neu i lofnodi’r ddeiseb, neu os oes gennych chi unrhyw syniadau eraill yr hoffech weithredu arnynt i ymgyrchu yn erbyn yr M4, mae croeso i chi gysylltu â ni ac fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i helpu. Cysylltwch â campaigns.wales@rspb.org.uk

Dyma fwy gan ein cefnogwyr…

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe: “Fel yr wyf eisoes wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru, nid wyf yn credu bod eu cynlluniau ar gyfer Ffordd Ddu’r M4 o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad amgen, cytbwys a chynaliadwy gan gadw cenedlaethau’r dyfodol mewn golwg.

Cerddor a chynhyrchydd yw Cian Ciarán, yn wreiddiol o Ogledd Cymru ac mae’n perfformio gyda Zefur Wolves, Super Furry Animals ac mae hefyd yn unawdydd. Ychwanegodd ef: “Mae gan Lafur yng Nghymru gyfle i neud y peth cywir yn dilyn rhai penderfyniadau diweddar a wnaed yn y Senedd - y bil ymadael, masnachfraint rheilffyrdd, y drwydded forol a ganiatawyd i Hinckley i ddympio mwd, toriadau i’r grant gwisg ysgol, y grant byw yn annibynnol, y grant gwella addysg a Chymunedau’n Gyntaf.

“Nid hoffwn i’r penderfyniad hwn ar gyfer yr M4 gael ei ychwanegu at restr o siomedigaethau sydd eisoes yn un hir. Mae yna gynlluniau cynaliadwy amgen a gwell cynlluniau amgylcheddol a fedrai fod o fudd i Gymru gyfan; felly, gadewch i ni obeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud dewis y gallwn fod yn falch ohono.”

Ychwanegodd Cadeirydd grŵp ymgyrchu lleol CALM, Rob Hepworth: “O ran economeg, dengys yr ystadegau y byddai unrhyw fudd ariannol yn cael ei deimlo’n mewn ardal fach iawn o Dde Ddwyrain Cymru a Gorllewin Lloegr yn unig. O ran problem trafnidiaeth, dengys ymchwil byd-eang bod adeiladu mwy o ffyrdd yn arwain at fwy o drafnidiaeth. Ni fydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn diolch i ni os wnawn ni adeiladu’r ffordd ddu. Dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at greu datrysiad blaengar i broblem trafnidiaeth, un sy’n rhatach, yn fwy cynaliadwy ac yn un y gall Cymru gyfan fod yn falch ohono.”

Dywedodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton: “Mae mannau hyfryd gwyllt Cymru’n denu pobl o bob rhan o’r byd, ond nid cartref i ni yn unig yw’r wlad hardd hon; mae hefyd yn gartref i lawer o fywyd gwyllt mwyaf prin y DU. Gwastadeddau Gwent yw un o’r gwarchodfeydd bywyd gwyllt mwyaf rhyfeddol a hardd, sy’n gartref i’r gardwenynen fain a’r garan cyffredin. Mae’r aderyn rhyfeddol hwn wedi dychwelyd i fridio ar Wastadeddau Gwent yn dilyn ymdrech gadwraeth enfawr a lwyddodd i’w dwyn yn ôl i Gymru, ar ôl absenoldeb o 400 mlynedd. Byddai gwyriad yr M4 nid yn unig yn dinistrio’r tirlun Cymreig gwerthfawr ac unigryw hyn, byddai hefyd yn defnyddio swm arwyddocaol o arian, y byddai’n well petai’n cael ei fuddsoddi er lles ein plant a’n hwyrion, mewn gwelliannau trafnidiaeth gwirioneddol gynaliadwy, a gwarchod ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd."