Ymateb RSPB Cymru i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig

English version available here.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymgynghoriad terfynol ar ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, a does dim amheuaeth bod llawer iawn yn dibynnu ar y Cynllun hwn. Yn syml, rhaid i’r Cynllun ddefnyddio swm cyfyngedig o arian cyhoeddus i gefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru i ymateb i bwysau a heriau byd sy’n fwyfwy ansicr a chyfnewidiol, mewn ffyrdd sydd o fudd i ffermio a’r gymdeithas ehangach. 

Yn yr ugeinfed ganrif gofynnwyd i ffermwyr gynhyrchu mwy o fwyd, ac fe wnaethant hynny’n llwyddiannus. Gofynnir iddynt hefyd yn awr chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur. I wneud hyn, mae’r ffermwyr angen Cynllun sy’n rhoi’r adnoddau iddynt ar gyfer y gwaith a chynllun a fydd yn eu helpu i bontio i ddyfodol cynaliadwy.

Bydd adfer natur a’r ecosystemau y mae natur yn eu cynnal yn hanfodol i sicrhau’r dyfodol hwn. Felly dyma ein sylwadau ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer byd natur yn ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

I ddechrau, mae llawer i’w groesawu, yn enwedig y gofyniad i bob ffermwr sy’n ymuno â Haen Gyffredinol y Cynllun reoli o leiaf 10% o’r tir fel cynefinoedd ar gyfer natur.  Ar ôl colli cymaint o fyd natur ledled Cymru (e.e. mae 90% o ddolydd llawn blodau wedi mynd), mae’n hanfodol ein bod yn mabwysiadu’r ymateb cyffredinol hwn i atal mwy o ddirywiad ac adeiladu’r sylfaen ar gyfer adfer byd natur.  Mae’r gofynion i reoli gwrychoedd mewn ffordd sy’n ystyriol o natur a darparu pyllau fferm hefyd yn cael eu croesawu.

Mae hyn yn ddechrau da, ond os yw’r Cynllun yn mynd i helpu ffermwyr ledled Cymru i achub byd natur, mae angen cryfhau’r cynigion.  Dyma ein hargymhellion ar sut i wneud y canlynol:

  1. Rhaid gwella’r isafswm o 10% o gynefinoedd fel bod ffermwyr yn cael eu talu i reoli’r amrywiaeth cywir o gynefinoedd ledled Cymru i helpu byd natur i ffynnu unwaith eto. Dylai’r amrywiaeth hwn efelychu’r cynefinoedd hynny y byddai ffermio traddodiadol unwaith wedi’u darparu’n helaeth, gan gynnwys cynefinoedd llawn blodau a chnydau sy’n cynnal hadau, gwrychoedd trwchus, prysg ac ardaloedd â glaswellt garw. Rhaid rheoli’r mannau y mae angen cynefinoedd newydd mewn ffyrdd sydd o fudd i fyd natur. Nid yw’r cynigion presennol yn gwarantu hyn.
  2. Rhaid i’r Cynllun sicrhau bod ffermwyr sydd â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a/neu rywogaethau prin ac agored i niwed, fel y Gylfinir, yn derbyn cymorth i reoli eu tir yn briodol. Mae’r cynigion presennol yn brin o’r cymorth hyn a rhaid ei wella fel bod ffermwyr yn cael eu talu am gynnal eu SoDdGA yn ogystal â datblygu cynlluniau cyflawni ar gyfer safleoedd a rhywogaethau. Yna, dylid blaenoriaethu’r gwaith o gyflawni’r cynlluniau hyn a’u cymell yn briodol drwy haenau uwch y Cynllun.
  3. Rydym ni’n cefnogi mwy o goed ar ffermydd, sy’n gallu arwain at nifer o fanteision i ffermio, natur, yr hinsawdd a chymdeithas. Fodd bynnag, rydym yn bryderus bod y cynigion yn nodi cynefinoedd o ansawdd isel, a all fod yr ardaloedd sydd ar ôl a/neu’r ardaloedd mwyaf cyfoethog o ran natur ar rai ffermydd, fel y rhai mwyaf addas ar gyfer plannu coed. Er mwyn osgoi canlyniadau negyddol anfwriadol i fyd natur, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod plannu coed yn gydnaws â rheoli tir sy’n angenrheidiol i gynnal ac adfer natur, gan gynnwys ar raddfa ffermydd.
  4. Gyda llai na 12 mis i fynd cyn dechrau’r Cynllun, rhaid i ffermwyr yn awr gael gwybodaeth am gyfraddau talu er mwyn iddynt allu cynllunio. Rydym ni’n credu fod yn rhaid i’r taliadau hyn eu gwobrwyo’n deg am y gwaith y maent yn ei wneud ac yn adlewyrchu’r manteision amgylcheddol a sicrhawyd i gymdeithas. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd egluro sut bydd y gyllideb gyffredinol yn cael ei dyrannu i bob haen o’r Cynllun a beth fydd hyn yn ei gyflawni, gan gynnwys ar gyfer natur. Rydym ni’n credu hefyd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cyllideb realistig ar gyfer y Cynllun, sy’n gofyn i ffermwyr gyflawni mwy nag o’r blaen.  Canfu asesiad annibynnol fod angen £496 miliwn ar Gymru bob blwyddyn i gwrdd â blaenoriaethau rheoli tir amgylcheddol yn unig.
  5. Yn olaf, bydd sicrhau bod ffermwyr yn gallu cael mynediad at gyngor ac arweiniad priodol drwy gydol oes eu contractau yn hanfodol i helpu ffermio i bontio i ddyfodol cynaliadwy. Bydd darparu cyngor sy’n ymdrin â holl amcanion y cynllun yn allweddol i hyn. Os ydym am i ffermwyr Cymru ffermio dros fwyd, natur a hinsawdd, mae’n hanfodol eu bod yn cael cyngor cytbwys i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r dull integredig hwn. Bydd sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer SoDdGAau, creu coetiroedd a chydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol hefyd yn hanfodol er mwyn cyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus.

Drwy ofyn i’n ffermwyr gynhyrchu bwyd, mynd i’r afael â newid hinsawdd ac achub byd natur, rydym yn gosod her enfawr iddynt. Os ydynt am lwyddo, mae’n hanfodol bod ganddynt Gynllun effeithiol, gyda thaliadau teg a digon o gefnogaeth yn ôl yr angen.  Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw ein hunig gyfle i sicrhau fod hyn yn llwyddiannus.

Mae’n hanfodol bod gymaint o bobl ac yn bosib yn codi ei llais – dyma’n unig gyfle i gael hwn yn iawn Ymateb ar-lein | LLYW.CYMRU

Mae ffermwyr yng Nghymru sy’n ffermio dros natur wedi ysgrifennu llythyr agored i Lywodraeth Cymru ar y cynllun. Dangoswch eich cefnogaeth trwy ei arwyddo yma Cefnogi Ffermio Cymru