To read this blog in English, please click here.
Mae’r Ymchwiliad Cyhoeddus i ddargyfeiriad yr M4 o amgylch Casnewydd nawr ar agor ers ychydig dros wythnos ac mae llais natur eisoes yn cael ei glywed. Ychydig o wythnosau yn ôl, efallai eich bod chi’n cofio’r blog yma gyda diweddariad o’r hyn oedd yn digwydd gyda’r dargyfeiriad M4. Hefyd wedi ei gynnwys oedd awgrymiadau o sut allwch chi gael eich llais wedi clywed a gwneud gwahaniaeth i’r bywyd gwyllt gwerthfawr sydd yn byw ar Wastadeddau’r Gwent.
Felly, roedd gennym ddiddordeb mawr yn ymateb dyst arbenigol ecoleg a chadwraeth natur Llywodraeth Cymru, Dr Keith Jones, a amlygodd yn ei dystiolaeth i'r gwrandawiad yr wythnos hon - fel yr adroddwyd gan BBC Cymru - bod y dargyfeiriad M4 yn bygwth difrod difrifol i gynefinoedd sy’n cynnal rhywogaethau a ddiogelir ar Wastadeddau Gwent.
Yn ei ddatganiad i'r gwrandawiad, dywedodd y byddai gweithrediad y briffordd newydd yn cael "effaith tymor hir sylweddol" ar ddyfrgwn ac ystlumod, a bydd afonydd, mhorfaoedd heli a gwelyau cors o bosib dan fygythiad yr adeiladwaith. Bydd y ffordd hefyd yn cael "effaith hirdymor sylweddol” ar gartref y garanod, sydd wedi nythu yno am y tro cyntaf yng Nghymru ers dros 400 mlynedd, y gardwenynen feinlais prin a thelor Cetti.
Dywedodd Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Chadwraeth RSPB Cymru, Sharon Thompson: "Mae'n galonogol i glywed nad ydi tyst arbenigol Llywodraeth Cymru yn gwingo rhag nodi'r goblygiadau caiff dargyfeiriad M4 ar fywyd gwyllt Gwastadeddau’r Gwent. Mae hyn hefyd yn cefnogi tystiolaeth ein hunain. Rydym yn gobeithio, o ganlyniad i'r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd Gwastadeddau Gwent a'r effaith caiff y llwybr arfaethedig ar natur, y daw’r ymchwiliad cyhoeddus i'r casgliad cywir."
I weld erthygl lawn y BBC, cliciwch yma.
David Wooton, rspb-images.com