Ydych chi’n teimlo’r gwres? Felly hefyd ein bywyd gwyllt yn yr ardd

English version available here.

Wrth i’r tymheredd godi ac wrth i ni fwynhau’r haul, meddyliwch am fywyd gwyllt yr ardd sy’n ei chael hi’n anodd i gadw’n oer. Yn union fel ni, mae angen i anifeiliaid gael digon o ddiod a chysgod rhag y tywydd poeth, ac mae ffyrdd syml y gallwch helpu.

Rhowch help llaw i’r adar

Mae angen dŵr ar adar i yfed ac ymolchi i gadw eu plu mewn cyflwr da. Does gan adar ddim chwarennau chwys fel ni, ond maen nhw’n colli llawer o ddŵr mewn gwres eithafol drwy resbiradaeth a thrwy eu baw. Mae angen i’r rhan fwyaf o adar bach yfed o leiaf ddwywaith y dydd i gymryd lle’r dŵr hwn sydd wedi’i golli, gan ei gwneud yn hollbwysig cael dŵr ffres. Gall y tywydd poeth olygu bod adar yn chwilio ym mhobman am ddŵr. Wrth i ffynonellau dŵr naturiol sychu ledled y wlad a newid hinsawdd yn parhau i achosi amodau eithafol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n rhoi help llaw.

 Mae sawl ffordd o ddarparu dŵr yn eich ardal awyr agored, ond y ffordd symlaf yw drwy wneud bath adar. Defnyddiwch fowlen neu gynhwysydd arall fel bath adar, gan wneud yn siŵr ei fod yn ddigon ysgafn i’w lanhau’n hawdd a’i ail-lenwi’n rheolaidd. Dim ond os ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel bydd adar yn defnyddio’r bath, felly gwnewch yn siŵr bod llwyni neu goed gerllaw a’u bod yn gweld yn glir o’r bath. Rhowch y teclynnau bwydo mewn mannau cysgodol yn ystod yr haf, er mwyn cadw adar yn oerach a chadw'r hadau rhag difetha mor sydyn.

Trowch eich gofod yn lloches i fywyd gwyllt

 Nid adar yw’r unig greaduriaid sydd angen dŵr yn ystod tywydd poeth. Gall cynnig dŵr ffres, yn ogystal â bwyd anifeiliaid anwes, achub bywydau draenogod. Mae brogaod a llyffantod hefyd yn elwa o ffynhonnell ddŵr o unrhyw fath i gadw’n oer ac yn llaith yn ystod yr haf. Gall creu pwll bach (neu bwll mawr!) droi unrhyw ofod awyr agored yn fan oer ar gyfer bywyd gwyllt. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw cynhwysydd i ddal dŵr, rhywfaint o raean a chreigiau a rhywfaint o blanhigion pyllau bach. Gwnewch yn siŵr bod gan eich pwll ffordd i famaliaid bach ddringo allan. Cliciwch yma i gael canllaw cam wrth gam.

Yn ogystal â dŵr, mae darparu lloches yn bwysig. Gall pentyrrau o greigiau, boncyffion a dail roi lloches gysgodol i greaduriaid rhag yr haul poeth. Mae hefyd yn annog creaduriaid di-asgwrn-cefn bod mamaliaid bach fel draenogod wrth eu bodd yn eu bwyta.

Os dewch o hyd i anifail mewn gofid

Os ydych chi’n dod o hyd i anifail sy’n cael trafferth yn y gwres, mae’n anodd gwybod beth i’w wneud. Ar gyfer y rhan fwyaf o adar sydd wedi’u hanafu, rhowch nhw’n ysgafn mewn bocs a’u cadw’n dawel, yn dywyll ac yn oer. Cynigiwch ddysgl/soser fas o ddŵr. Os yw’r anifail yn aderyn bach neu’n famal, y ffordd gyflymaf o gael help yw cysylltu â milfeddyg lleol neu ganolfan adsefydlu gan na fyddant fel arfer yn codi tâl am drin bywyd gwyllt. Os yw'r anifail yn fwy na chwningen, ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999.

Edrychwch ar Byd Natur ar Stepen Eich Drws i gael awgrymiadau i’ch helpu i droi eich gofod awyr agored yn hafan i fywyd gwyllt. Cliciwch yma i gael rhagor o syniadau am weithgareddau a thasgau i’ch cadw chi’n brysur yn yr ardd. Does dim ots faint o le sydd gennych chi; mae’r cyfan yn helpu i roi cartref i’n bywyd gwyllt!

Lluniau:

Aderyn- Ray Kennedy (rspb-images.com)

Woodpile- Andy Hay (rspb-images.com)