Y tymor i roi yn ôl i fyd natur

English version available here

Mae adeg fwyaf bendigedig y flwyddyn ar y gorwel, lle bydd y rhai mwyaf lwcus yn ein plith yn deffro’n llawn cyffro i fwynhau diwrnod braf o agor anrhegion a gwledda. Ond, wrth gwrs, gobeithio y bydd modd i bob un ohonon ni gadw mewn cof fod y Nadolig hefyd yn gyfnod o roi, yn ogystal â derbyn.

Mae Covid-19 a’r cyfnodau clo wedi achosi pryder a phoen meddwl i nifer ohonon ni, yn ogystal â galar a cholled i rai – ac er nad yw byd natur yn cynnig ateb i holl broblemau bywyd, i lawer ohonon ni mae wedi bod yn gysur mawr yn ystod y dyddiau dyrys sydd ohoni. Pan oedden ni wedi ein cyfyngu i’n gerddi a’n mannau gwyrdd, ac yn cael ein hannog i beidio â chymysgu â phobl eraill, manteisiodd byd natur yn llwyr ar y tawelwch o’i chwmpas gan roi cip i nifer ohonon ni ar gampwaith i ryfeddu ato. Trwy ddangos sut all pethau fod ar ôl i’n bywydau prysur arafu a phan gaiff byd natur lonydd i ffynnu, fe glywon ni gôr y bore bach yn canu’n fwy croyw nag arfer ac fe welon ni adar yn crwydro’n ddilyffethair ac yn archwilio mannau newydd, a nhwythau fel arfer yn cael eu neilltuo i’w hamgylcheddau eu hunain. Yn wir, roedd hyn yn ymyl arian ar gyfnod enbyd – cyfnod sydd, rhaid cofio, yn dal i fod ar ein gwarthaf.

Wrth i ni gofio sut mae byd natur wedi ein helpu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe fydd nifer ohonon ni’n dymuno rhoi rhywbeth bach yn ôl – ac mae yna lu o wahanol ffyrdd y gallwn ni wneud hyn.

Un ffordd amlwg fyddai gwneud yn siŵr ein bod yn gadael dŵr a bwyd hanfodol allan i’n hadar a’n bywyd gwyllt arall. Ar yr adeg oer yma o’r flwyddyn, fe fydd adar yn dewis bwydydd llawn braster, fel cnau o bob math, hadau (hadau blodau haul, hadau nyjer) a siwet. Hefyd, mae digonedd o sborion i’w cael dros gyfnod y Nadolig, ac mae yna lu o weddillion bwyd y bydd ein cyfeillion pluog yn eu gwerthfawrogi. Fe fyddan nhw’n falch iawn o gael reis a thatw wedi’u coginio, tameidiau o deisennau a bisgedi, briwsion bara, toes heb ei goginio a cheirch. Peidiwch â rhoi halen yn y bwydydd yma, a pheidiwch â gadael i bentwr o fwyd heb ei fwyta hel – mae hi’n hanfodol i chi gadw’r mannau bwydo a’r teclynnau bwydo yn lân. Yn wahanol i bobl, dydy adar ddim yn poeni rhyw lawer ble y byddan nhw’n mynd i’r tŷ bach – cofiwch y gall baw adar ar arwynebau bwyta achosi salmonela angheuol. Hefyd, mae dŵr glân yn bwysig iawn yr adeg yma o’r flwyddyn, fel y bydd modd iddyn nhw olchi eu plu a thorri eu syched.

Ffordd arall o roi rhywbeth yn ôl i byd natur fyddai eich tretio chi eich hun neu aelod o’ch teulu i ymuno â theulu arall – sef teulu’r RSPB! Trwy ddod yn aelod, fe fyddwch chi’n cyfrannu at ein gwaith cadwraeth beunyddiol, gan sicrhau bod y byd natur sydd ar garreg ein drws yn cael cyfle teg yn y dyddiau ansicr sydd ohoni. Yn ystod tymor o gyfnewid anrhegion, ffordd arall o helpu fyddai prynu rhywbeth yn ein siop, sydd hefyd yn cefnogi cadwraeth byd natur – fe fyddai teclyn bwydo, neu rywfaint o fwyd adar fel y crybwyllwyd uchod, yn gwneud anrhegion gwych, gan gyflwyno’r sawl a fydd yn cael yr anrheg i’r byd natur bendigedig sydd o’n cwmpas am y tro cyntaf, o bosibl. Gall yr anrheg leiaf, hyd yn oed, wneud gwahaniaeth – mae ein bathodynnau’n boblogaidd drwy’r flwyddyn, a’r Nadolig yma fe fydd gennym ni fathodyn Robin ‘Rhoi Cartref i Fyd Natur’ i ddathlu ein gwaith o roi cartref i fyd natur mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled Cymru. Cofiwch rannu #ShareHowYouWear ar y cyfryngau cymdeithasol (@RSBPCymru) pan fyddwch chi’n pinio’r bathodyn ar eich côt ac yn mynd am dro i losgi rhywfaint o’ch cinio Nadolig!

Wrth gwrs, gall amser fod yr un mor werthfawr ag arian. Beth am ddechrau 2021 ar nodyn cadarnhaol, gan roi’n ôl i fyd natur trwy wirfoddoli gyda ni pan ddaw pethau’n ôl i drefn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud hyn, cysylltwch â’ch gwarchodfa leol neu eich prosiect ‘Rhoi Cartref i Fyd Natur’ lleol i weld sut allwch chi ein helpu. Rydyn ni’n eithriadol o falch o’n gwirfoddolwyr, sy’n neilltuo cymaint o’u hamser a’u hymdrechion i achub byd natur. Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i wneud yr un peth y flwyddyn nesaf, cofiwch gysylltu â ni.

Llond llaw o awgrymiadau’n unig sydd uchod ynglŷn â sut allwch chi roi’n ôl i fyd natur dros gyfnod y Nadolig. Ni waeth pa ffordd a ddewiswch chi, cofiwch aros yn ddiogel ac ymuno â ni eto yn 2021 wrth i ni barhau gyda’n gwaith i warchod byd natur a dod â phobl a byd natur yn nes at ei gilydd.

Nadolig Llawen i bawb.