English version available here.

Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i fwy na 2,500 o rywogaethau, ond gallai hyn yn fuan fod yn rhan o’r gorffennol os yw Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd i adeiladu ffordd liniaru’r M4 ddinistriol. Gydag adroddiad yr ymholiad yn awr yn nwylo’r Prif Weinidog, edrychwn ar rai o’r rhywogaethau rhyfeddol sydd o dan fygythiad gan y cynlluniau.

 

Llygoden bengron y dŵr rhyfeddol

Mae llygoden bengron y dŵr yn hynod o diriogaethol ac yn un o lawer o greaduriaid blewog sy’n byw yng Ngwastadeddau Gwent.  Cyn hyn, roedd i’w gweld yn gyffredin yn yr ardal hon, mae llygoden bengron y dŵr Ewropeaidd wedi dioddef dirywiad trychinebus yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd colli cynefin. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent wedi gwneud gwaith ffantastig o ailgyflwyno’r rhywogaeth i’r ardal ac mae arolygon sy’n mynd ymlaen yn dangos bod y boblogaeth yn gwneud yn dda – am y tro. Mae’r rhywogaeth yma’n cael ei hyrwyddo yn y Senedd gan Aelod Cynulliad Dwyrain Casnewydd, John Griffiths.

Ffaith ddiddorol: Mae llygod pengrwn y dŵr yn bwyta oddeutu 80% o bwysau eu cyrff bob dydd.

 

Henffych i’r chwilen blymio fwyaf

Yn ogystal ag adar prin a chreaduriaid del, mae’r ardal yn gartref hefyd i amrediad o bryfetach difyr. Un o chwilod mwyaf y DU, mae’r chwilen blymio fwyaf mor brin ag unrhyw un, gyda phoblogaeth Gwastadeddau Gwent yr unig un a wyddys amdani yng Nghymru. Mae chwilod prin eraill sydd o dan fygythiad gan yr M4 yn cynnwys y chwilen fwsg fetelaidd a’r chwilen ddŵr arian fawr – rhywogaeth arall sydd o dan fygythiad ar hyn o bryd.

Ffaith ddiddorol: Gwelwyd oddeutu deuddeg yn unig o’r chwilen blymio fwyaf yng Nghymru erioed.

 

 Garan gyffredin nad yw mor gyffredin

Er gwaethaf ei henw, anaml iawn y gwelir garan gyffredin yma yng Nghymru ac yn wir drwy’r DU gyfan. Gwastadeddau Gwent yw cartref y pâr cyntaf o aranod i fridio yng Nghymru mewn dros 400 mlynedd. Gwelwyd y pâr ddiwethaf ychydig o dan flwyddyn yn ôl, ond mae ofnau y gallai traffordd yr M4 weld difodiant lleol yr aderyn brodorol hwn unwaith eto.

Ffaith ddiddorol: Mae gan garan gyffredin ddefod garwriaeth ddramatig sy’n cynnwys dawnsio, sgrechian a thaflu llystyfiant i’r awyr!

 

Y dylluan wen brydferth

Mae’r dylluan wen a gerir gan lawer wedi cael ei gweld hefyd yn hedfan yn isel sawl gwaith dros Wastadeddau Gwent. Mae’r aderyn nodweddiadol hwn yn adnabyddus fel heliwr tawel ac mae’n plymio i lawr ar ei hysglyfaeth, sy’n cynnwys llygod a chwistlod. Mae tylluanod gwyn yn cael eu gwarchod yn arbennig yn y DU ac er gwaethaf eu bod yn niferus iawn unwaith, maen nhw wedi dirywio yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf oherwydd y defnydd o blaladdwyr a dwysâd amaethyddol.

Ffaith ddiddorol: Fel arfer, mae Tylluan Wen wyllt yn bwyta oddeutu pedwar o famaliaid bach bob nos – mae hynny yn 1,460 o famaliaid y flwyddyn!

 

Y Dyfrgi ardderchog

Gyda’u traed gweog a’u ffwr trwchus i’w cadw yn gynnes, mae dyfrgwn ymysg y nofwyr gorau ar Wastadeddau Gwent. Mae’r dyfrgi yn anifail prin, ond maent i’w gweld mewn ardal eang, ac maent wedi adfer mewn niferoedd ar ôl dirywiad trychinebus ym Mhrydain dros y 1950au a 60au. Mae’r dyfrgi yn brin ac mae’n cael ei ddosbarthu fel ‘Bron o dan Fygythiad’ gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Ffaith ddiddorol: Gall dyfrgwn gau eu clustiau a’u trwynau pan maen nhw o dan y dŵr ac maen nhw yn y dŵr erbyn yr amser pan maen nhw yn ddeg wythnos oed.

 

Y gardwenynen fain

Un o rywogaethau cacwn prinnaf y DU, pump o boblogaethau’r gardwenynen fain sydd ar ôl yn unig, gyda Gwastadeddau Gwent yn un o’r rhai cryfaf. Mae’n cael ei rhestru fel rhywogaeth â blaenoriaeth o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, dim ond y gacynen fyrflew bron ddiflanedig sy’n cael ei hystyried yn brinnach na hon.

Ffaith ddiddorol: Mae’r gardwenynen fain yn cael ei henw oherwydd y sŵn main, uchel y mae’r breninesau yn ei gynhyrchu.

 

Mae’n eglur gweld bod Gwastadeddau Gwent yn gartref i rai o rywogaethau gwirioneddol ryfeddol, a bydd bwrw ymlaen â’r M4 â chanlyniadau dinistriol ar gyfer eu dyfodol. Nid yw’n rhy hwyr i’w helpu nhw – ychwanegwch eich enw at y ddeiseb hon heddiw a pheidiwch ag anghofio edrych ar ein cyfrifon Facebook a Twitter ar gyfer mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi gefnogi ein hymgyrch.

 

Anonymous