Y Lôn at Adferiad Gwyrdd

English version available here.

Dyma flog gwadd gan Dr Ludivine Petetin, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Bwyllgor Cynghori Brexit Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol. Yma, mae hi'n trafod pam mae diogelwch bwyd yn un o'r materion mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw.

Mae diogelwch bwyd yn un o'r materion pwysicaf sy'n ein hwynebu'r dyddiau hyn. Mae pandemig COVID-19 a'r diffyg cytuno rhwng y DU a'r UE ar gytundebau masnach y dyfodol wedi amlygu'r ffaith y dylen ni ail-feddwl am y ffordd rydym yn cynhyrchu ein bwyd.

Yma, yn y DU, nid ydym yn cynhyrchu ond 60% o’r bwyd rydym yn ei ddefnyddio, caiff y gweddill ei allforio ar draws y byd. Er enghraifft mae 40% o Gig Oen Cymru'n cael ei allforio gyda 92% ohono'n mynd i'r UE.

Gydag argyfwng bwyd byd-eang ar y gorwel, mae'r cymhellion i wella cynhyrchiant i 'fwydo'r byd' yn apelio'n fawr, ac mae'r risg o fynd yn ôl i weithio'n llai amgylcheddol yn fygythiad real. Yn hytrach na llithro'n ôl a gostwng safonau amgylcheddol, mae nawr yn gyfle i gynyddu'r angen am gynaliadwyedd, ecoleg amaeth ac ecoleg coedwigaeth ac i weithredu'n llawn Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Ddeddf Amgylchedd 2016.

Ail-ffurfio'r ffordd o gynhyrchu bwyd

Mae Brexit a COVID-19 wedi dangos pa mor bwysig yw hi i gael cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth gweithredol, a sut gallwn ni gynyddu'r elfen leol yn ein cadwyni cyflenwi bwyd.

Mae'n hanfodol bod dyfodol systemau bwyd-amaeth yn cael eu hail-gynllunio i fod yn deg a chyfiawn i bawb, bod penderfyniadau'n cael eu gwneud drwy'r systemau hyn a'u bod ar bob lefel yn arwain at y canlyniad hwn. Rwy'n trafod yr angen hwn yn fanylach o lawer mewn erthygl mewn erthygl agored a ysgrifennais yn Ebrill 2020 dan y teitl ’The COVID-19 Crisis: An Opportunity to Integrate Food Democracy into Post-Pandemic Food Systems’.

I adeiladu system bwyd-amaeth teg a chyfiawn sydd yn ddibynadwy ac yn gweithio â natur, sydd yn lleol ac yn wydn mewn Cymru ôl-bandemig, mae'n rhai edrych ar bedair nodwedd benodol:

  • Gwybodaeth ffeithiol, dewis dilys a chynnyrch amgen ar gael i gwsmeriaid
    Mae rhai ffermwyr lleol, cyflenwyr a siopau wedi dyfalbarhau wrth gyflenwi’r boblogaeth leol drwy gynyddu eu presenoldeb ar y we a datblygu gwasanaethau cludo i'r cartref - gan ddangos y gallu i arallgyfeirio’n sydyn a datblygu gwytnwch. Yn y cyfamser mae cynlluniau cyflenwyr llysiau a ffrwythau mewn bocs wedi ymateb yn ffafriol i'r angen lleol. Yn bwysicach na hynny, mae pobl wedi dangos diddordeb ac wedi cefnogi’r angen am fwyd lleol, iach (yn aml yn organig) a chynaliadwy o Gymru - sy'n dangos newid ym mhatrwm prynu bwyd.
  • Cynnydd yng nghyfraniad cynhyrchwyr bwyd lleol yn y broses o greu polisïau bwyd-amaeth gan gyfuno â dulliau o’r brig i lawr gan awdurdodau lleol a chenedlaethol.
  • Gwella amodau gwaith a chyflog ffermwyr a gweithwyr amaethyddol a'r cyfleoedd iddynt gynyddu mewnbwn y boblogaeth wrth gefnogi cynhyrchwyr lleol a chymryd rhan yn y broses o gynhyrchu eu hunain i wella gweddustra a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Adfer ffydd ac ymddiriedaeth yn y system fwyd a'i sefydliadau drwy adeiladu cadwyni cyflenwi bwyd tryloyw gyda rôl gryfach a thecach i'r ffermwr; a gwella'r cyswllt rhwng archfarchnadoedd a chynhyrchwyr lleol, gan rhoi mwy o rym i'r ffermwr wrth ffurfio cytundebau.

 Nid yw'r ddogfen ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ a gyhoeddwyd yn 2019 yn dda i ddim i fynd i'r afael â datrys y sialensiau sy'n wynebu'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ar ôl Covid-19. Ni all polisïau amaeth a bwyd gael eu cadw ar wahân bellach a dylid eu seilio ar ddulliau aml-lefel gyda mewnbwn hanfodol gan ffermwyr. Mae diffyg hefyd yn y cyswllt â masnach, iechyd (gan gynnwys diet) a mudo (i weithwyr amaethyddol).

Wrth symud ymlaen tuag ar adferiad gwyrdd, mae'n hanfodol cael gwell cyd-weithio rhwng gwahanol haenau o lywodraeth a llywodraethiant o fewn Cymru a gweddill y DU, yn ogystal â rhwng polisïau cyrff cyhoeddus, i wella dulliau unedig a chynaliadwy systemau bwyd-amaeth sy'n arwain at bolisïau bwyd-amaeth cyfannol a democrataidd sy'n cefnogi prif gynhyrchwyr a siopau lleol.