Y Gylfinir yng Nghymru: aderyn ar y dibyn

English version available here

gan Julian Hughes
Pennaeth Rhywogaethau, RSPB Cymru

Heddiw yw Diwrnod Gylfinir y Byd, y dyddiad a ddewiswyd gan Curlew Action oherwydd dyma ddiwrnod gwledd Sant Beuno, cenhadwr Cymreig o’r seithfed ganrif. Yn ôl y chwedl, wrth deithio ar gwch o Ben Llŷn i Ynys Môn, cwympodd ei lyfr o bregethau dros yr ochr ac i’r môr, cyn cael ei adfer gan aderyn brown â phig hir a chrwm. Gorchmynnodd Sant Beuno y byddai bob amser yn anodd dod o hyd i nythod y Gylfinir, ac y dylid eu gwarchod am byth.Gall pawb sy’n ymwneud â cheisio achub y Gylfinir gadarnhau bod hi’n anodd dod o hyd i’w nythod – er bod eu gwarchod yn galw am fwy nag ymyrraeth ddwyfol yn unig.


Pam mae’r Gylfinir mewn trafferth?

Mae’r sefyllfa yn argyfyngus i’r Gylfinir, sydd mewn perygl o ddiflannu fel aderyn bridio hyfyw o Gymru, o fewn y ddegawd nesaf. Yn y 25 mlynedd hyd at 2020, gostyngodd eu niferoedd 73%, heb unrhyw arwydd bod y gostyngiad yn debygol o arafu. Ni allaf ddychmygu ymweld â rhostiroedd gogledd Cymru a pheidio â chlywed cri hir neu delori iasoer y Gylfinir. Ond yn ystod y ddwy genhedlaeth ddiwethaf o bobl, mae’r synau hyn wedi diflannu o nifer o gadarnleoedd traddodiadol y Gylfinir.

Gwyddom i raddau helaeth beth sydd ei angen ar y Gylfinir i sicrhau bod pob pâr yn gallu magu un cyw bob dwy flynedd. Mae angen rhywle ar bob pâr i nythu, gyda chymysgedd o lystyfiant gwasgaredig a thal, a chaeau addas gerllaw i fwydo eu hunain a’u cywion. Mae hanes o ddraenio corsydd a chaeau, newidiadau mewn arferion pori da byw (cynnydd a gostyngiad o ran pori mewn mannau gwahanol), colli dolydd a chynnydd enfawr mewn silwair sy’n cael ei dyfu i fwydo da byw, a phlannu ardaloedd mawr o goed, wedi newid strwythur tirwedd Cymru. Mae hynny hefyd wedi gweithio o blaid ysglyfaethwyr fel Llwynogod a Brain Tyddyn, sydd â llawer mwy o fwyd yn awr, o gymharu â’r gorffennol. Ychwanegwch y newid yn yr hinsawdd at hynny, a gallwch werthfawrogi pam fod pethau mor heriol i’r Gylfinir.


Mae’n cymryd pentref i fagu Gylfinir

Diolch byth, mae gan y Gylfinir ffrindiau a chefnogwyr. Mae nifer o gynlluniau ar y gweill, wedi’u hysgogi gan bartneriaeth o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd fel gweithgor . Mae Cynllun Adfer Cymru, sydd wedi cael cefnogaeth pob plaid yn y Senedd, yn nodi 12 o Ardaloedd sy’n Bwysig i’r Gylfinir, a’r uchelgais yw gweithredu rhaglenni adfer penodol ym mhob un ohonynt. Ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig, mae prosiect Curlew Country yn weithredol ers sawl blwyddyn, ac rydym wedi bod yn cefnogi Ymddiriedolaeth Cwm Elan i warchod y Gylfinir yn yr Elennydd.

Ar Ynys Môn, mae RSPB Cymru yn gweithio gyda ffermwyr yn Nyffryn Cefni i warchod nythod y Gylfinir yn well, ac yng Nghonwy uchaf, mae gennym brosiect adfer yn Hiraethog ac Ysbyty Ifan, sy’n un o bum prosiect tirwedd yn y DU. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn ar wefan Curlew LIFE, am sut rydym ni’n gweithio gyda ffermwyr, perchnogion ystadau, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill i helpu’r adar. Dros y tri gaeaf diwethaf, mae tîm y prosiect a phartneriaid wedi gwneud ymdrech enfawr i adfer mawndiroedd a rheoli caeau, i godi ffensys newydd er mwyn cadw mamaliaid mawr allan, a rheoli Llwynogod a Brain Tyddyn. Y gwanwyn hwn, byddwn yn defnyddio ffensys trydanol dros dro i ddiogelu nythod, ac yn gosod tagiau radio ar gywion i ddeall mwy am sut maen nhw’n defnyddio’r dirwedd a beth sy’n effeithio ar eu goroesiad. Mae ein tîm o 30 o wirfoddolwyr, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn byw neu’n gweithio yn ardal y prosiect, eisoes wedi bod yn cynnal arolygon, gan nodi tiriogaethau fel y gallwn ddiogelu eu nythod. Rydym ni wedi dysgu llawer yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ac rydym ni’n symud i’r cyfeiriad cywir o ran sicrhau bod pob pâr yn llwyddo i fagu un cyw bob dwy flynedd.

Rydym yn gobeithio’n arw y bydd cyllid yn galluogi i’r ymdrech adfer gael ei ddwysáu mewn mwy o Ardaloedd sy’n Bwysig i'r Gylfinir yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac ymyriadau brys bydda rhain. Maent yn hanfodol o ran achub yr adar, ond nid ydynt yn ddatrysiadau cynaliadwy, tymor hir. Mae Cynllun Adfer Gylfinir Cymru yn nodi polisïau defnydd tir mawr, gan gynnwys Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a chynlluniau plannu coetiroedd y mae’n rhaid eu gwneud yn addas ar gyfer y Gylfinir. Credwn y dylai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy annog ffermwyr i weithredu ar y cyd, gyda chymorth ariannol a thrwy gyfnewid gwybodaeth, er mwyn darparu ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer y Gylfinir. Yn ogystal, rhaid iddo sicrhau na ofynnir i ffermwyr gymryd camau sy’n niweidiol i’r Gylfinir, gan gynnwys hyblygrwydd o ran y gofyniad arfaethedig am 10% o orchudd coed mewn Ardaloedd sy’n Bwysig i'r Gylfinir.

Fodd bynnag, nid yw’r geiriau cadarnhaol hyn wedi troi’n newidiadau neu’n welliannau ar lawr gwlad eto, ac ni all y Gylfinir fforddio aros i’r penderfyniadau mawr gael eu gwneud. Roedd neges ddiweddar ar Twitter gan yr awdur, Mary Colwell, sy’n gefnogwr brwd o’r Gylfinir, yn tynnu sylw at un o’r newidiadau yn ein hucheldiroedd sy’n golygu bod y Gylfinir, ac adar hirgoes eraill, ar eu colled. Mae perygl y gallai’r rhuthr i blannu coed er mwyn cyrraedd Sero Net, o dan Gynlluniau Creu Coetiroedd newydd Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, fod yn niweidiol i’r cynefin agored sydd ei angen ar adar hirgoes i nythu a bridio.


Sut gallwch chi helpu

Os gwelwch y Gylfinir mewn ardaloedd mewndirol rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, nodwch y manylion yn . Gall partneriaid Gylfinir Cymru ddefnyddio’r wybodaeth i ffocysu eu hymdrechion yn y mannau lle mae’r Gylfinir yn byw. Os ydych chi’n defnyddio BirdTrack neu eBird fel mater o drefn, gofynnwn i chi gynnwys codau tystiolaeth bridio oherwydd gallwn ni eu defnyddio nhw hefyd.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n rhannu eich cymuned â Gylfinirod sy’n bridio, ar Ddiwrnod Gylfinir y Byd eleni, gofynnwn i chi godi llwncdestun i’r arwyr ledled Cymru sy’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau dyfodol i’r adar hirgoes hyn. Mae angen i ni gyd ofalu am y Gylfinir, felly dymunwn bob lwc i’r adar a holl fendithion Sant Beuno.

(Llun: Andy Hay)