Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhai cwestiynau o bwys heb eu hateb.

English version available here

Mae'n fwyfwy amlwg bod angen help ar natur ar dir amaeth, bod yn rhaid i ni gynhyrchu bwyd yn fwy cynaliadwy, a bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â newid hinsawdd [1]. Mae hefyd yn amlwg bod yn rhaid i ni weithio mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r materion hyn neu gymryd y siawns y byddwn yn ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol lle mae polisïau amaeth anymarferol wedi arwain at arferion anghynaliadwy gan achosi niwed amgylcheddol. Mae hon yn her enfawr ac yn un y mae ffermwyr Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb iddi, ond dim ond os ydynt yn cael y cymorth cywir i wneud y gwaith

Bwriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd Cymru yw darparu'r cymorth hwn a sicrhau y gall ein ffermwyr fodloni rhwymedigaethau amgylcheddol ar gyfer natur a'r hinsawdd, a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.  Fodd bynnag, mae'r cynllun newydd i fod i ddechrau ymhen ychydig dros 12 mis, ac rydym yn pryderu bod cwestiynau o bwys heb eu hateb o hyd ynglŷn â sut y bydd yn darparu'r cymorth hwn y mae mawr ei angen.  Yn ddiweddarach eleni bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ei hymgynghoriad terfynol ar ei chynllun ac mae’n hanfodol ein bod yn dysgu sut y bydd y Cynllun hwn yn:

  • Atal colli natur ar dir fferm erbyn 2030 yn unol ag ymrwymiadau bioamrywiaeth?

  • Diogelu a chynnal ein hadnoddau naturiol hanfodol, gan gynnwys ar gyfer cynhyrchu bwyd?

  • Helpu amaethyddiaeth i ddatgarboneiddio fel bod Cymru'n cyrraedd ei thargedau newid hinsawdd Sero Net?

  • Sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfuniad cytbwys o gyngor busnes ac amgylcheddol?

  • Sicrwydd taliadau ar gyfer rheoli y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan y rheoliad?

  • Cael eu hariannu'n ddigonol ar draws pob elfen i gyflawni amcanion ac ymrwymiadau statudol?


Nid ydym yn diystyru maint yr her sy'n wynebu Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu ei chynllun newydd ac rydym wedi bod yn gefnogol iawn i gynigion hyd yma. Rydym hefyd wedi croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y dasg o lunio ei bwrpas a'i gynnwys. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym hefyd wedi gwneud argymhellion ac wedi darparu tystiolaeth i fynd i'r afael â nifer o'r materion a amlygwyd uchod.

O ran natur a'r amgylchedd ehangach rydym yn argymell bod yn rhaid i'r cynllun newydd alluogi pob ffermwr i reoli o leiaf 10% o'u tir fel cymysgedd o gynefinoedd ar gyfer natur erbyn 2030 i ddarparu sylfaen ar gyfer adferiad natur erbyn 2050 [2]. Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r cynllun i helpu Cymru i bontio i amaethecoleg (ffermio gyda natur) gan y bydd hyn yn gwella ansawdd yr amgylchedd ac yn helpu i wella proffidioldeb ffermydd fel yr amlygwyd yn Farming at the Sweet Spot [3]. Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar 165 o ffermydd ac yn nodi cynnydd cyfartalog mewn enillion masnachol rhwng 10 a 45% ar gyfer y rhai sy'n ffermio gyda natur. Mae ymchwil yr RSPB hefyd yn dangos y gallai cyfuniad o amaethecoleg ac atebion sy'n seiliedig ar natur (e.e. creu coetiroedd ac adfer mawndiroedd i gloi carbon) leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr net o'r sector tir o fwy na 99% erbyn 2050.

Os yw ffermwyr am gydbwyso canlyniadau cynhyrchu ac amgylcheddol, mae'n hanfodol eu bod yn derbyn cefnogaeth gan ffynonellau cymwys addas sy’n gallu darparu cyngor ac arweiniad cydgysylltiedig priodol. Hyd yma ychydig o wybodaeth sydd wedi bod ynglŷn â natur y cymorth hwn a phwy fydd yn ei ddarparu. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid ei egluro yn yr ymgynghoriad nesaf.  Maes arall y mae'n rhaid ei egluro hefyd yw sut y bydd y Llywodraeth yn sefydlu ac yn gweithredu’r drefn reoleiddio sylfaenol yn effeithiol er mwyn sicrhau safon ofynnol o gydymffurfiaeth amgylcheddol y bydd y cynllun yn seiliedig arni.

Yn olaf, disgwyliwn y bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill yn nodi maint y gyllideb sydd ei hangen i gyflawni gwahanol amcanion y cynllun, yn darparu manylion ynghylch cyfraddau taliadau (e.e. ar gyfer rheoli cynefinoedd) ac yn sefydlu sut y bydd arian yn cael ei ddyrannu ar draws yr haenau Cyffredinol, Dewisol a Chydweithredol i fodloni rhwymedigaethau statudol, gan gynnwys ar gyfer natur a'r hinsawdd. Yn 2023 canfu adroddiad gan yr RSPB, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Ymddiriedolaeth Natur bod angen £496 miliwn bob blwyddyn ar Gymru i gyflawni blaenoriaethau rheoli tir amgylcheddol y flwyddyn. Mae hwn yn swm sylweddol uwch na'r cyllid presennol a sefydlwyd gan y PAC ac, yn ein barn ni, dylai fod yn sail ar gyfer trafod gyda Thrysorlys EF wrth gytuno ar gyllidebau gwledig yn y dyfodol.


[1]
https://www.saveourwildisles.org.uk/business/food-and-farming

[2] Mae ein dull gweithredu yn seiliedig ar chwe cham gweithredu allweddol Farm Wildlife, sydd wedi'u cynllunio i sefydlu cymysgedd o gynefinoedd i sicrhau bod natur yn ffynnu.

[3] Farmion at the Sweet Spot – Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Natur a'r Ymddiriedolaeth Natur, 2023

Llun: Andy Hay (rspb-images.com)