Wythnos dda i fyd natur yng Nghymru!

English version available here.

Gydag un o sêr Game of Thrones a newyddion da yn gyffredinol, bydd Wythnos Natur Cymru yn un i'w chofio am flynyddoedd i ddod. Yn ogystal â’r ffaith fod ffordd liniaru ddinistriol yr M4 wedi cael ei gwrthod ar sail amgylcheddol, roedd digonedd o resymau eraill i ddathlu yma yn RSPB Cymru.

Cafwyd newyddion cadarnhaol am ddyfodol amaethu yng Nghymru

Ddydd Mawrth (4 Mehefin), daeth dau gyhoeddiad pwysig am yr amgylchedd gan Lywodraeth Cymru. A’r M4 yn cael ei gwrthod yn swyddogol, roedd yn bryd i ni droi ein sylw at ddyfodol amaethu yng Nghymru. Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, y bydd y cynlluniau taliadau presennol yn dod i ben ac yn dod yn eu lle bydd cynllun sy’n sicrhau bod byd natur a’r amgylchedd yn ganolog. 

Bydd y cynllun newydd yn defnyddio arian cyhoeddus i dalu ffermwyr a rheolwyr tir am ddarparu manteision amgylcheddol (nwyddau cyhoeddus), a bydd hefyd yn helpu ffermwyr i wneud eu busnes yn fwy proffidiol a chynaliadwy.

Dyma newyddion ardderchog i fyd natur yng Nghymru, a hoffem ddiolch i’r 1,400 a mwy ohonoch a ymatebodd i'r ymgynghoriad diwethaf yn galw am gynllun sy’n gwobrwyo ffermwyr am gyfrannu i'r amgylchedd. Rydym wrthi'n paratoi i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses, felly cadwch eich llygaid ar agor am ffyrdd o helpu.

 Diwrnod Amgylchedd y Byd yn meddiannu'r Senedd

Aethom draw i'r Senedd gydag WWF Cymru i ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin) ac i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy'n bygwth bywyd gwyllt yn lleol ac yn rhyngwladol. Cafwyd areithiau gan un o sêr Game of Thrones, Iwan Rheon, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, a daeth nifer o gynrychiolwyr o wahanol sefydliadau ynghyd i nodi'r achlysur.

Cafwyd areithiau ysbrydoledig hefyd gan Gyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr WWF Cymru, Anne Meikle, a chynhyrchydd Our Planet, Dan Huertas, a ddangosodd bytiau arbennig o’r gyfres oddi ar Netflix.

Daeth mwy nag 20 o aelodau o'r Cynulliad i'r digwyddiad, a chymerodd lawer ohonynt ran yn ein cenhadaeth i lenwi Cymru â bywyd gwyllt drwy ddefnyddio ein map o rywogaethau sydd dan fygythiad. Gan fod Cymru yn un o'r gwledydd sydd wedi colli’r mwyaf o fyd natur, rydym wedi creu delwedd o ddirywiad natur a sut gellid gwrthdroi hynny.

Diolch yn fawr i John Griffiths, AC (uchod), hyrwyddwr rhywogaeth llygoden y dŵr ac eiriolwr dros fyd natur yn y Senedd, a fu'n garedig yn noddi'r digwyddiad.

Gweinidog Tai Cymru yn siarad yn erbyn gosod rhwydi rhag adar

Yn dilyn llawer o bryderon gan aelodau o'r cyhoedd, mae Gweinidog Tai Cymru, Julie James AC, wedi siarad yn erbyn gosod rhwydi plastig ar goed a llwyni fel mater o drefn.

Mae gosod rhwydi i atal adar rhag nythu yn dangos “anghydbwysedd ym mherthynas cymdeithas â byd natur” meddai'r gweinidog tai. Galwodd hefyd ar ddefnyddio rhwydi mewn “amgylchiadau cyfyngedig iawn” yn unig, a dywedodd ei bod wedi cysylltu â llawer o gynghorau Cymru am y mater.

Mae’n galonogol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y cyhoedd pan fyddant yn codi pryderon am fyd natur, a’i bod yn anfon neges glir fod rhaid i ddatblygwyr weithredu i gynnal byd natur ac i wrthdroi dirywiad bywyd gwyllt.

Dros 1,000 ohonoch yn galw am ddulliau diogelu gwell i fywyd gwyllt yng Nghymru

I gloi, hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb a gwblhaodd yr e-weithred ddiweddaraf yn galw am ddulliau diogelu gwell i fyd natur pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar Egwyddorion a Threfniadau Llywodraethu Amgylcheddol, fe wnaeth mwy na 1,000 ohonoch chi ofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ein safonau amgylcheddol presennol yn parhau ac yn cael eu gwella.

Mae canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn hollbwysig i’r ffordd y bydd ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael eu diogelu ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, a dim ond y cam cyntaf yw hwn.

Fel bob amser, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi sut i gymryd rhan yng ngham nesaf ein hymgyrch, ac os nad ydych chi wedi rhoi eich enw eisoes i fod yn un o hyrwyddwyr yr ymgyrch, gallwch chi wneud hynny yn y fan yma.