Welsh wildlife under threat from UK Government’s Attack on Nature

I ddarllen y fersiwn Gymraeg, sgroliwch i lawr / To read the Welsh version, please scroll down.

Welsh wildlife under threat from UK Government’s Attack on Nature

What is the UK Government planning?  

Last week the UK Government set out details of a new Bill which threatens to amend or scrap crucial environmental laws. These laws protect some of our most vulnerable wildlife and green places. They also defend our clean water, clean air, clean beaches and rivers.  

The UK Government announced further plans to create ‘Investment Zones’ which could trash planning rules – meaning housing and commercial developments could be incentivised to damage nature with little or no restriction.  

On top of this, there are rumours that the UK Government may scrap a new scheme that would have supported farmers and landowners in England to do more for nature.   

Why do we need to worry in Wales?                      

Nature in Wales is in crisis, and last year the Senedd declared a nature emergency. The Welsh Government recognises the need to step up action to halt and reverse the loss of nature, but the UK Government’s plans are a threat to this.  

Losing vital laws   

The Welsh Government is deeply concerned about the new Bill. Mick Antoniw, Counsel General and Minister for the Constitution, has written to the UK Government warning that the Bill “risks the reduction of standards in important areas including employment, health and the environment.”  

The new Bill will require Ministers in Westminster and in Wales to repeal or replace all retained EU law by 31st December 2023. If Ministers do not specifically save pieces of law, then they will simply stop applying after this date. With over 2,400 pieces of retained EU law on the books, there is a real risk of a legislative logjam at Westminster and in the Senedd – and of vital environmental protections being lost as a result.  

Damaging developments  

The protections that are under threat from the new Bill underpin UK Government decision making about big infrastructure projects in Wales. Removing them could make it easier for these projects to go ahead in places that may damage wildlife.  

The planned ‘Investment Zones’ are deeply worrying as the UK Government has said these will be rolled out in Wales, Scotland and Northern Ireland as well as in England. Within these zones development will be accelerated, and planning policy will be relaxed, giving the green light to projects that could damage and destroy nature.  

What about farming?  

Thankfully, concerns about the new farming scheme only apply in England. Wales now has its own Agriculture Bill with potential to deliver a better deal for the environment and reward farmers for delivering benefits for nature.  

How do we stop this Attack on Nature?  

A Nature Positive Wales is possible, but not if vital laws are scrapped. We want you to tell your MP how you feel.  

Take action with us and contact your MP with our letter, letting them know that you support nature’s protection in Wales and that this attack on nature will not be carried out in your name. 

***

Bywyd gwyllt Cymru dan fygythiad gan Ymosodiad ar Natur Llywodraeth y DU  

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei gynllunio?  

Yr wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU fanylion Bil newydd sy’n bygwth diwygio neu ddileu cyfreithiau amgylcheddol hollbwysig. Mae'r cyfreithiau hyn yn amddiffyn rhai o'n bywyd gwyllt a'n mannau gwyrdd sydd dan fwyaf o fygythiad. Maent hefyd yn amddiffyn ein dŵr glân, aer glân, traethau glân ac afonydd.  

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau pellach i greu ‘Parthau Buddsoddi’ a allai chwalu rheolau cynllunio – sy’n golygu y gallai datblygiadau tai a masnachol gael eu cymell i niweidio byd natur heb fawr o gyfyngiad, os o gwbl.  

Ar ben hyn, mae sibrydion y gallai Llywodraeth y DU gael gwared ar gynllun newydd a fyddai wedi cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr yn Lloegr i wneud mwy dros fyd natur.  

Pam fod angen i ni boeni yng Nghymru?  

Mae byd natur yng Nghymru mewn argyfwng, a’r llynedd datganodd y Senedd argyfwng natur. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i gymryd camau i atal a gwrthdroi colled byd natur, ond mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn fygythiad i hyn.  

Colli deddfau hanfodol  

Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn am y Bil newydd. Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn rhybuddio bod y Bil “mewn perygl o ostwng safonau mewn meysydd pwysig gan gynnwys cyflogaeth, iechyd a’r amgylchedd.”  

Bydd y Bil newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion yn San Steffan ac yng Nghymru ddiddymu neu ddisodli holl gyfraith yr UE a ddargedwir erbyn 31 Rhagfyr 2023. Os na fydd Gweinidogion yn arbed darnau o gyfraith yn benodol, yna byddant yn peidio â bod yn gymwys ar ôl y dyddiad hwn. Gyda dros 2,400 o ddarnau o gyfraith yr UE wedi’u cadw ar y llyfrau, mae perygl gwirioneddol y bydd tagfa ddeddfwriaethol yn San Steffan ac yn y Senedd – ac y bydd amddiffyniadau amgylcheddol hanfodol yn cael eu colli o ganlyniad.  

Datblygiadau niweidiol  

Mae’r amddiffyniadau sydd dan fygythiad gan y Bil newydd yn sail i benderfyniadau Llywodraeth y DU am brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru. Gallai cael gwared arnynt ei gwneud yn haws i'r prosiectau hyn fynd rhagddynt mewn mannau a allai niweidio bywyd gwyllt.  

Mae’r ‘Parthau Buddsoddi’ arfaethedig yn peri cryn bryder gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal ag yn Lloegr. O fewn y parthau hyn bydd datblygiad yn cael ei gyflymu, a bydd polisi cynllunio yn cael ei lacio, gan roi'r golau gwyrdd i brosiectau a allai niweidio a dinistrio byd natur.  

Beth am ffermio?  

Diolch byth, dim ond yn Lloegr y mae pryderon am y cynllun ffermio newydd yn berthnasol. Bellach mae gan Gymru ei Bil Amaethyddiaeth ei hun gyda’r potensial i sicrhau gwell bargen i’r amgylchedd a gwobrwyo ffermwyr am sicrhau buddion i fyd natur.  

Sut mae atal yr Ymosodiad hwn ar Natur? 

Mae Cymru Natur Bositif yn bosibl, ond nid os caiff deddfau hanfodol eu dileu. Rydyn ni eisiau i chi ddweud wrth eich AS sut rydych chi'n teimlo.  

Gweithredwch gyda ni a chysylltwch â’ch AS gyda’n llythyr, gan roi gwybod iddynt eich bod yn cefnogi gwarchodaeth byd natur yng Nghymru ac na fydd yr ymosodiad hwn ar natur yn cael ei gyflawni yn eich enw chi.