To read this blog in English, please click here

Mae Gŵyl y Gelli yn adnabyddus am ddod â darllenwyr, ysgrifenwyr ac arweinwyr blaenllaw ynghyd i edrych ar y byd fel y mae a dychmygu sut y gellid ei wella. Mae’n gyfle i wyntyllu syniadau a chaiff pobl eu hannog i ddathlu eu safbwyntiau personol, gwleidyddol ac addysgol, a defnyddio hynny i drawsnewid eu ffordd o feddwl. Yma, mae hanesion yn cael eu hadrodd, syniadau'n cael eu rhannu a myfyrdodau blaengar yn dod i’r amlwg.

Ar 31 Mai, roedd RSPB Cymru’n awyddus i ymuno â’r ysgrifenwyr a’r arweinydd blaenllaw hyn wrth i ni gynnal digwyddiad arbennig a oedd yn canolbwyntio ar natur Brexit ac ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermio a bywyd gwyllt. Roedd y Gelli’n lleoliad perffaith i drafod ffermio sy’n ystyriol o fywyd gwyllt yng Nghymru, a’r potensial rhagorol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Hyd yn hyn, mae’r ffordd rydyn ni’n ffermio ac yn trin ein tir wedi bod yn cael ei lywodraethu gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewropeaidd. Yn anffodus, mae’r polisi hwn wedi methu amddiffyn ein byd natur a’n hamgylchedd, ac wedi methu datblygu amaethyddiaeth gadarn. Yn hytrach, mae wedi annog arferion ffermio aneconomaidd iawn sy’n anghynaladwy. O ganlyniad i hyn, rydyn ni wedi colli llawer o’n bywyd gwyllt rhyfeddol ac mae ein hardaloedd cefn gwlad wedi eu difrodi.

Ond, nawr ein bod ni am adael yr Undeb Ewropeaidd, mae gennym gyfle i greu polisi newydd sy’n fuddiol i natur, i bobl ac i ffermwyr. Mae’n amlwg fod gan ffermio botensial enfawr i wneud hyn, ond, mae angen i'r polisi a’r cymorth cywir fod ar waith er mwyn i ffermwyr a rheolwyr tir eraill allu cyflawni’r potensial hwn.

Felly, wrth i Ŵyl y Gelli ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, cynhaliodd RSPB Cymru ddigwyddiad i archwilio sut gallai'r 30 mlynedd nesaf edrych wrth wneud yr amgylchedd naturiol yn rhan ganolog o'r polisïau ffermio ar ôl Brexit. Ymhlith y gwesteion arbennig roedd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-jo Luxton; newyddiadurwr ac awdur Ethical Carnivore, Louise Gray; bardd geiriau llafarMartin Daws; ffermwr defaid Cymreig a chynrychiolydd o ‘Tegwch i’r Ucheldir’, Tony Davies; Aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies; Cadeirydd Amaeth Cymru, Kevin Roberts; a Cadeirydd RSPB, yr Athro Steve Ormerod.

Chwith i'r dde: Yr Athro Steve Ormerod, Huw Irranca-Davies, Katie-jo Luxton, Tony Davies, Louise Gray and Kevin Roberts.

Yn dilyn cyflwyniadau rhagorol gan Katie-jo Luxton, dechreuodd yr Athro Steve Ormerod ar y trafodaethau drwy bwysleisio effaith enfawr ffermio ar fyd natur. Yna, pwysleisiodd bwysigrwydd disodli polisi CAP gyda strwythur sy’n dda i fyd natur ac i bobl fel ei gilydd. Adleisiodd Kevin Roberts bod angen i ffermwyr Cymru barhau i gael cymorth ar ôl i’r DU adael yr UE. Pwysleisiodd pa mor bwysig yw cydbwyso busnesau ag anghenion amgylcheddol er mwyn i'r diwylliant ffermio allu goroesi.

Ar ôl egluro sut y gellid ysbrydoli ffermwyr i wneud mwy dros natur, aeth Tony Davies ymlaen i atgoffa’r gynulleidfa mai gwŷr busnes yw ffermwyr, a bod angen cymhelliad ariannol arnynt i warchod natur. Dywedodd bod stigma yn erbyn ffermwyr fel ef ei hun sy’n ystyriol o fyd natur, a bod angen cymhelliant o bosib i ennyn cefnogaeth ffermwyr eraill i helpu i greu dyfodol gwell.

Roedd Huw Irranca Davies, aelod o’r pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi rhoi sylw i argymhellion a wnaed yn adroddiad diweddar y pwyllgor ar ‘Ddyfodol Rheoli Tir yng Nghymru’. Roedd ei safbwyntiau'n adleisio bod angen i gymorth ariannol fod yn seiliedig ar nodau a chanlyniadau amgylcheddol, ac ar gyflawni targedau sydd wedi’u gosod. Yna roedd Louise Carnivore, awdur Ethical Carnivore, yn pwysleisio bod gan ddefnyddwyr rôl enfawr i’w chwarae o ran gwneud penderfyniadau bwyd da, a fydd maes o law yn arwain at newidiadau sy’n gallu achub natur.

Roedd sesiwn Holi ac Ateb i ddilyn, a byddai ein panel, ynghyd â’n cynulleidfa, wedi gallu trafod dyfodol ein tirweddau a’n bywyd gwyllt am oriau. Ond, erbyn diwedd y sesiwn, rydym yn gobeithio bod y gynulleidfa’n gallu dychmygu polisi rheoli tir newydd a fyddai’n dda i bobl, i ffermwyr ac i fyd natur. Byd lle mae heidiau o gornchwiglod yn dychwelyd i’n caeau, gylfiniriaid yn dychwelyd i’n hucheldiroedd, a chwtiaid aur yn rhedeg ar hyd ein mawnogydd unwaith yn rhagor. Gall syniadau gwych roi’r pŵer i ni drawsnewid ein ffordd o feddwl. Dychmygwch y posibiliadau.