English version available here
Wrth i chi ddeffro i 2019, bydd boreau oer y gaeaf yn gafael ynddoch chi; fe fydd Sioni Rhew 'di galw gan orchuddio'r ddaear a barrug sy'n crensian dan eich traed; fe fydd y coed yn noeth ac, uwchben cwyn y rhewynt oer, fe fydd y Robin Goch yn canu'n dawel i amddiffyn ei diriogaeth. I'ch helpu chi i baratoi ar gyfer Gwylio Adar yn yr Ardd 2019 sydd ar ddod yn fuan, mae gennym ddigon o ddigwyddiadau ar draws ein gwarchodfeydd natur.
Dewch draw i RSPB Conwy ar ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Ionawr, 1-3yp i ddarganfod sut y gallwch chi greu pwdinau blasus ar gyfer adar, sut i ddylunio masgiau adar ac adnabod adar yr ardd a'r hyn maen nhw'n hoffi ei fwyta ar ein llwybr Gwylio Adar yn yr Ardd. Bydd cynigion arbennig hefyd yn y siop, gyda chyngor a gwybodaeth ddefnyddiol gan ein staff. Galwch heibio, does dim angen archebu lle o flaen llaw.
Gallwch hefyd ymuno â'r staff a'r gwirfoddolwyr yn y guddfan a mwynhau'r 'Sioe Adar Mwyaf Anhygoel', sioe ryngweithiol a theuluol, am 2yp yn ystod yr un penwythnos (3-10 oed). Darganfyddwch pa aderyn yw'r lleiaf a pha un yw'r cyflymaf. £1 y pen. Nid oes angen archebu lle o flaen llaw. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01492 581025 neu ewch i rspb.org.uk/Conwy
Ymunwch â ni yn RSPB Llyn Efyrnwy ar ddydd Sul 20 Ionawr o 11yb-2yp. Gallwch wneud cyfraniad pwysig i wyddoniaeth trwy rannu gyda ni’r hyn a welwch chi yn eich gardd. Mae'r wybodaeth hanfodol hon yn ein helpu i weld pa adar sy'n ffynnu a pha rai sydd angen ein help. Er mwyn sicrhau eich bod yn barod am y penwythnos mawr, dewch draw i hogi eich sgiliau adnabod adar. Fe awn ni i'n cuddfan adar brysuraf lle byddwn ni'n eich helpu i adnabod popeth sy'n ymddangos ar ein bwydwyr. Byddwn hefyd yn creu bwydwyr a bwyd adar y gallwch chi fynd adref â chi a'u gosod yn yr ardd yn barod ar gyfer penwythnos y cyfrif. £4 aelodau RSPB / £5 i'r rheiny sydd ddim yn aelodau - £2 yr oedolyn sy'n hebrwng. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01691 870278 neu ewch i rspb.org.uk/lake-vyrnwy.
Yn RSPB Ynys-hir ar ddydd Sul 20 Ionawr rhwng 11yb-3yp gallwch greu eich cacen adar eich hun. Byddwn hefyd ar gael i'ch helpu i adnabod yr adar ar ein bwydwyr. £2 yr un. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01654 700222 neu ewch i rspb.org.uk/ynys-hir.
Ymunwch â ni yn RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd ar gyfer ein taith gerdded gwylio adar i ddechreuwyr ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr, 9.30-11.30yb.
Dyma'r cyfle perffaith i wella'ch sgiliau gwylio adar a'u hymarfer cyn arolwg bywyd gwyllt mwya'r flwyddyn. Taith dywys: aelodau'r RSPB £4.40 / £5.50 i'r rheiny sydd ddim yn aelodau. Mae archebu lle o flaen llaw yn hanfodol. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01633 636363 neu ewch i rspb.org.uk/newportwetlands.
Neu os ydych chi i yn y brifddinas, mae gennym amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n rhan o'n project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, sy'n cael eu cynnal mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd. Ymunwch â'n digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd rhad ac am ddim yn llyfrgell yr Eglwys Newydd, Ffordd y Parc, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 19 Ionawr, 10 yb-3yp. Digwyddiad teuluol yw hwn mewn llyfrgell hardd wedi'i lleoli o fewn parc sy'n llawn natur, wedi'i hamgylchynu gan wrychoedd a choed derw mawr lle rydych chi'n sicr o weld rhai o'ch hoff adar. Gall plant ac oedolion fanteisio ar ddefnyddio binociwlars yr RSPB i chwilio am adar ac i ymarfer cyn penwythnos Gwylio Adar yn yr Ardd. Fe fydd cyfle i chi greu bwydydd adar i fynd adref â chi, casglu eich taflenni arolwg a bydd digon o lyfrau ar fywyd gwyllt yn y llyfrgell i'w benthyca hefyd. I ychwanegu at yr hwyl, bydd gan y llyfrgell de, coffi a chacennau a llawer o weithgareddau dan do i bawb, a bydd ein tîm aelodaeth ar gael os ydych chi'n ystyried ymuno â ni neu ychwanegu at eich casgliad o fathodynnau pin.
Ac os nad yw hynny'n ddigon, beth am ymuno â RSPB Cymru, staff addysg Parc Biwt a Cheidwaid Cyngor Caerdydd am brynhawn rhad ac am ddim o hwyl i'r teulu yng Nghanolfan Addysg Parc Biwt, Caerdydd ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr, 12-3yp. Dowch o hyd i adar anhygoel ar ein taith gerdded i’r teulu o amgylch Parc Biwt (12:30yp a 1:30yp) a gwyliwch adar yr ardd trwy ffenestr yr ystafell ddosbarth wrth iddynt gasglu ar ein bwydwyr. Gallwch hefyd ddarganfod sut y gall eich teulu gwblhau Arolwg Gwylio Adar yn yr Ardd fel rhan o #SialensWyllt ac i fod yn greadigol gyda'n sesiynau crefft dan do. Am ragor o wybodaeth am y ddau ddigwyddiad ffoniwch 02920 353000 neu e-bostiwch jessie.longstaff@rspb.org.uk.
Os ydych chi'n gallu mynychu digwyddiad ai peidio, cofiwch gymryd rhan yn Gwylio Adar yn yr Ardd 26-28 Ionawr a gallwch gael gafael ar eich pecyn RHAD AC AM DDIM nawr.