Sut y gall byd natur ein helpu i addasu i effeithiau newid hinsawdd

English version available here

Yr wythnos hon (23 Tachwedd) rydym yn cymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru. Byddwn yn cyflwyno canfyddiadau adroddiad newydd RSPB a WWF ar y ffyrdd y gall Atebion ar Sail Byd Natur (ASN) helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Mae'r adroddiad, Nature-based Solutions in Climate Adaptation Policy, wedi'i gynhyrchu gan y Fenter Atebion ar Sail Byd Natur (Nature-based Solutions Initiative) ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae'n tynnu sylw at enghreifftiau o'n cwmpas o sut mae byd natur yn ein hamddiffyn rhag cynnydd yn lefelau'r môr, llifogydd, tywydd poeth a mathau eraill o dywydd eithafol sy'n cael eu hachosi gan newid hinsawdd. Er enghraifft:

  • Mae coetiroedd, gwrychoedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd lled-naturiol yn dal dŵr glaw yn ôl ac yn atal erydiad pridd ac yn lleihau'r risg o lifogydd i gymunedau ac isadeiledd ymhellach i lawr yr afon.

  • Mae adfer afonydd, gorlifdiroedd a gwlyptiroedd i'w galluogi i wneud yr hyn maen nhw i fod i'w wneud yn naturiol yn arafu llifddwr llifogydd ac yn helpu i ail-lenwi storfeydd dŵr angenrheidiol.

  • Mae dulliau ffermio ecolegol (ffermio gyda natur) yn adfer priddoedd sydd wedi'u diraddio, ac felly'n diogelu'r cyflenwad bwyd a bywoliaethau gwledig.

  • Mae amaeth-goedwigaeth (coed ar dir fferm) yn helpu i amddiffyn ac ail-ffrwythloni priddoedd ac i ddarparu cysgod a lloches i gnydau a da byw ar yr un pryd.

  • Mewn ardaloedd trefol mae coed, parciau, toeau a waliau gwyrdd, a systemau draenio cynaliadwy yn helpu i oeri dinasoedd yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, ac yn lleihau llifogydd trefol a dŵr ffo yn ystod stormydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Atebion ar Sail Byd Natur yn aml iawn yn rhatach i'w gweithredu a'u cynnal nag opsiynau ymaddasu i newid hinsawdd eraill fel amddiffynfeydd caled rhag llifogydd (e.e. carthu gwely afon, argloddiau artiffisial, llifgloddiau) a, phan ystyrir eu holl fanteision, fel rheol mae ganddynt gymarebau cost a budd uwch.

Yng Nghymru mae Atebion ar Sail Byd Natur yn cael eu hystyried fwyfwy fel ffordd bwysig o helpu i liniaru neu leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru trwy ddefnydd tir, yn enwedig trwy blannu coed. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod llai o lawer o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i rôl Atebion ar Sail Byd Natur wrth ymaddasu i newid yn yr hinsawdd. Mae'r adroddiad newydd hwn yn ymateb i hyn drwy wneud argymhellion ar sut y mae modd defnyddio Atebion ar Sail Byd Natur i gyfrannu at wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, nodau sero net ac adfer byd natur wrth gryfhau ein heconomi, creu swyddi gwyrdd, gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldeb cymdeithasol ar yr un pryd.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'n glir bod angen i Atebion ar Sail Byd Natur gael eu cynllunio'n dda a'u rheoli ar raddfa'r dirwedd gan bartneriaethau o randdeiliaid sy'n cynnwys cymunedau lleol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ymyriadau cywir yn cael eu defnyddio yn y lle iawn i warchod, adfer, cysylltu â gwella ein hasedau naturiol a, thrwy wneud hynny, yn darparu buddion i bobl ac i fyd natur.