Sut gall eich angerdd dros fywyd gwyllt chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd

English version available here.

Weithiau gallwn deimlo nad yw ein hymdrechion ni fel unigolion yn mynd i gael unrhyw effaith ar fyd natur a’r argyfwng hinsawdd. Ond mae’ch dewisiadau chi yn bwysig a gallent fod yn sbardun i adfer bywyd gwyllt gwych Cymru, yn ogystal ag adar, planhigion ac anifeiliaid llai cyfarwydd.

Yng nghanol prysurdeb ein bywydau, mae’n hawdd weithiau i ni gymryd ein bywyd gwyllt yn ganiataol. Fodd bynnag, mae ein bywyd gwyllt yn werthfawr i ni mewn sawl ffordd. O adar môr enigmatig, i’r pry genwair diniwed, mae bywyd gwyllt yn cael effaith ar ein hiechyd a’n lles mewn ffyrdd nad ydym yn eu hystyried, o ddarparu sicrwydd bwyd, sefydlogrwydd ecolegol a lles cymdeithasol ac economaidd. Amcangyfrifir bod gwerth ariannol coetiroedd, tir amaeth a chynefinoedd dŵr croyw yn unig oddeutu £178 biliwn.

Rhyfeddodau bywyd gwyllt

 Mae gan fywyd gwyllt lawer o fanteision, o’n gallu i’w fwynhau a mynd i’r afael â newid hinsawdd.  Dengys astudiaethau fel Wellbeing through Wildlife bod cael mynediad amgylcheddau sy’n gyfoethog o fywyd gwyllt o fudd i’n hiechyd corfforol a meddyliol.  Mae’n bwysig gadael i fywyd gwyllt ffynnu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae cynefinoedd sy’n storio carbon megis corsydd mawn a morfeydd hallt yn cynnig atebion hanfodol trwy gefnogi a gwella amrywiaeth bywyd gwyllt ochr yn ochr â sicrhau cyd-fanteisio ar gyfer addasu newid yn yr hinsawdd, iechyd a rheoli dŵr.  Yn y pendraw, mae cyflwr ein bywyd gwyllt yn ddangosydd allweddol o iechyd ein hamgylchedd. 

Bywyd Gwyllt a newid hinsawdd

 Fodd bynnag, mae’r argyfwng hinsawdd yn cael effaith niweidiol ddramatig ar ein bywyd gwyllt. Nododd adroddiad Cyflwr Byd Natur 2019 fod un o bob chwe rhywogaeth o fywyd gwyllt, planhigion a ffyngau mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Mae newid hinsawdd eisoes yn newid patrymau adar mudol fel gwenoliaid, ac mae mwy o blâu ac afiechydon, a newid yn eu cynefin ac argaeledd bwyd i ystod o rywogaethau. Mae gwenoliaid yn cyrraedd Cymru 15 niwrnod ynghynt, ac yn magu 11 niwrnod ynghynt nag oeddynt yn yr 1960au. Mae aderyn y pâl yn nodweddiadol o ynysoedd arfordirol Cymru, ond bu gostyngiad enfawr mewn niferoedd gyda phrinder o gyflenwad bwyd o ganlyniad i newid hinsawdd gael ei ystyried yn un o’r prif resymau am hynny. Yng Ngwarchodfa Ynys-hir yr RSPB, yn aber Afon Dyfi, mae colli cynefinoedd cors halen ar y safle wedi achosi problemau i’r bywyd gwyllt. Mae’r tîm wedi sylwi ar nifer o newidiadau o ganlyniad i newid hinsawdd, gyda niferoedd y rhywogaethau preswyl fel y grugiar ddu a’r cwtiad aur yn disgyn.

Mae camau cadarnhaol wedi eu cymryd yng Nghymru gyda phrotestiadau newid hinsawdd diweddar a pholisïau yn codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad. Fodd bynnag, os na fydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, bydd newid hinsawdd â’r colledion yn sgil hynny yn parhau ymhlith bywyd gwyllt.

Beth allwch chi ei wneud?

Er bod yr heriau sy’n wynebu bywyd gwyllt o ganlyniad i newid hinsawdd ymddangos yn enfawr, mae modd i chi wneud eich rhan. O ddefnyddio’ch angerdd am fywyd gwyllt, mae llawer y gallwch chi fel unigolyn ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynorthwyo gydag adferiad bywyd gwyllt anhygoel Cymru. 

Dyma rai syniadau ar sut y gallwch chi gefnogi eich bywyd gwyllt yn lleol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd:

  • Addysgu eich hun ac eraill - lledaenwch y neges ar bwysigrwydd bywyd gwyllt yn eich ardal, gan gysylltu pobl â byd natur.
  • Gweithredu’n wleidyddol - ymunwch a phrotestiadau, arwyddwch ddeisebau a chysylltwch â’r gwleidyddion. Trwy ymgysylltu gyda’ch gwleidyddion lleol a’u cynrychiolwyr, byddwch yn sicrhau eu bod yn gwybod am y materion cadwraeth ac yn gwneud y dewisiadau cywir mewn perthynas â bywyd gwyllt.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol- Mae’r RSPB a sefydliadau eraill yn dysgu grwpiau lleol, digwyddiadau ymestyn a chyfleoedd i bobl o bob oed a gallu i wirfoddoli. Ewch i edrych ar ffyrdd i gymryd rhan yng Nghymru.
  • Anogwch fywyd gwyllt yn eich gardd- waeth pa mor fawr neu fach yw eich gardd, gwnewch o yn hafan i fywyd gwyllt. Er enghraifft trwy fwydo draenogod sy’n cael trafferth i ddod o hyd i’w bwyd naturiol o bryfaid a phryfaid genwair, a pheidio torri’r gwair mor aml yn hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Cefnogi sefydliadau amgylcheddol - ymaelodwch neu gyfrannwch os gallwch!

Pum ffordd allweddol i gymryd rhan dros fywyd gwyllt yng Nghymru, cymrwch olwg ar yr ymgyrch Adfywio Ein Byd.

Lluniau:

Cynefin morfa heli - David Wootton (rspb-images.com)

Pâl - Katie Nethercoat (rspb-images.com)