English version available here Ysgrifennwyd gan Clive a Hilary Westwood o Eglwys St Catherine yn Nhreganna Saif St Catherine mewn erw o dir, filltir o ganol y ddinas, wedi’i hamgylchynu â mur, ffens ac adeiladau o Oes Fictoria. Erbyn hyn mae’r eglwys “fflat-pac” wreiddiol wedi’i throi’n neuadd yr eglwys, a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau a grwpiau cymdeithasol megis tai chi, hyfforddi cŵn bach, Brownies ac Ysgol Sul! Gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer yr Eglwys ym 1883 a chwblhawyd y gwaith ym 1893. Crëwyd lawnt ar y tir gyda llwyni ar hyd y ffiniau o flaen y ffordd. Plannwyd coed ym 1893 ac fe ychwanegwyd atynt yn ystod y 1920au. Mae ambell goeden yn dal i sefyll ac maent, fel rhan fwyaf o'r coed eraill, yn rhai rhestredig.
Roedd llawer o'r tir o amgylch y perimedr heb ei gyffwrdd ac roedd yr isdyfiant wedi tyfu’n wyllt. Oddeutu saith mlynedd yn ôl penderfynodd grŵp bychan ddatblygu, gwella ac arallgyfeirio’r tir. Crëwyd gwelyau blodau newydd, datblygwyd rhandir tu ôl i’r neuadd a chodwyd tŷ gwydr. Yna cynigodd rywun goeden eirin a choeden afalau inni, felly wrth gwrs, roedd yn rhaid inni fynd ati a chreu gardd ffrwythau! Yna daeth gwrychoedd eirinen Mair a chwrens duon, riwbob, mwy o goed afalau a choeden ffigys. Plannwyd perlysiau ymhlith y coed ffrwythau ac mae ein jam a'n siytni’n boblogaidd iawn. Mae caffi lleol yn cymryd y ffrwythau a’r llysiau sydd dros ben.
Mae'r gwaith wedi cael cryn gefnogaeth gan fyfyrwyr a staff o Ysgol Uwchradd Woodlands, sy'n gwirfoddoli gyda ni yn ystod y tymor fel rhan o raglen Gwobr Dug Caeredin.
Mae llawer o adar yn ymgartrefu yn ein coed: yr aderyn du, y fronfraith, y titŵ tomos las, y robin goch a sgrech y coed yn ogystal â nifer o golomennod, drudwennod, adar y to a brain. Y llynedd, fe wnaethom osod dau flwch nythu, yn y gobaith y byddant yn cael eu defnyddio eto yn y gwanwyn. Mae gwiwerod yn gwibio heibio’n aml a nhw, fwy na thebyg, sy’n gyfrifol am y coed derw bychain sy’n blaguro mewn mannau od.
Daeth y cyffro mwyaf dair blynedd yn ôl pan ddaeth llwynog i fagu tri o lwynogod bach y tu ôl i lwyni’r mwyar duon. Roedd y plant wrth eu boddau’n gweld dau lwynog bach yn chwarae ar y gwair un fore Sul. Rydym yn gobeithio y daw hi’n ei hôl. Dim ond un draenog sydd wedi’i weld, a hynny, mae'n debyg, oherwydd bod waliau’r perimedr yn eu rhwystro rhag dod i mewn.
Dechreuodd ein cysylltiad â RSPB a Buglife dair blynedd yn ôl a chaiff rhai ardaloedd eu gadael yn wyllt i ddenu adar a phryfed. Rydym hefyd wedi ehangu'r amrywiaeth o blanhigion sy'n denu pryfed peillio, gan gyflwyno perlysiau fel penrhudd a theim yn ogystal â rhosmari a lafant.
Rydym wedi cynnal dau Ddiwrnod Darganfod lle mae plant yn rhoi cynnig ar blannu gwrychyn sy’n ystyriol o adar, adeiladu tai ar gyfer pryfed a chael cyfle i fynd ar helfa pryfed gyda Liam. Y diwrnod nesaf fydd ddydd Sadwrn 16 Mai. Yn dilyn y Diwrnodau Darganfod rydym nawr yn gwybod ein bod yn cynnig cartref i 16 math gwahanol o wenyn, gan gynnwys y wenynen â phen mawr, sef y cyntaf a gofnodwyd yng Nghaerdydd. Gwneuthom gofnodi 21 infertebratau, gan gynnwys y pry cragen y ddraenen wen, neidr filtroed a’r pry copyn sebra.
Mae St Catherine wedi’i hymrwymo i warchod bywyd gwyllt trefol. Rydym wedi mwynhau’n arw ac wedi dysgu llawer iawn. Diolch yn fawr, RSPB a Buglife!