English version available here.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cerdded trwy giatiau Rhandiroedd Ystum Taf yn meddwl am ‘arddio’, ond rydw i’n meddwl am ‘fywyd gwyllt’. Mae gennym ni dros 200 o randiroedd garddwrol, ond mae tair ardal yn anaddas ar gyfer tyfu ac mae’r rhain wedi cael eu neilltuo ar gyfer gwella bioamrywiaeth. Wrth ymyl y fynedfa, mae pwll mawr yn gyforiog o fywyd, yn y dŵr a thu allan i’r dŵr. Mae Norman y crëyr yn sefyll yn llonydd fel cerflun, yn disgwyl llowcio brecwast o frogaod, mae gweision y neidr prydferth yn hedfan yn isel dros wyneb y dŵr ac yn hela penbyliaid yn y dyfnderoedd llwyd … lle gwych i gael picnic.
Dros y llwybr o’r pwll y mae prosiect newydd, sy’n profi yn waith caled braidd i’w ddatblygu. Mae’n le distaw, cornel gysgodol lle mae llawer o adar cyffredin yr ardd eisoes yn ymweld. Felly, gwnaethom ni benderfynu ei wneud hyd yn oed yn fwy cyfeillgar i adar. Dros y flwyddyn a hanner olaf, gwnaethom blannu cloddiau cymysg (diolch i brosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd) a gosododd Mac, ein cadeirydd, flychau nythu yn y coed. O fewn diwrnod, roedden nhw yn gartref i ditẅod tomos las! Gobeithiwn adeiladu cuddfan mewn un cornel y flwyddyn nesaf, fel bod pobl yn gallu gwylio adar yn mynd a dod. Ar wahân i adar cyffredin, rydym yn gweld mudwyr fel socanod eira a chochion dan adain a nifer fawr o nicos, ji-bincod ac ambell i linos werdd.
Mae niferoedd uchel yr adar bach a’r mamaliaid yn denu rheibwyr mwy; rydym wedi gweld gwalch glas yn plymio i lawr i gipio ysglyfaeth sy’n amau dim ac mae rhai pobl wedi gweld cipolwg o garlymod – rheibwyr bychain, ffyrnig. Mae fy nghamera nos wedi sylwi ar lwynogod yn prowla o gwmpas y safle ac yn y gwanwyn, cofnodais bedwar o genawon yn chwarae yn ein trydedd ardal fywyd gwyllt, yng nghornel bellaf y safle, wrth ymyl y llinell reilffordd. Mae’r darn eithaf mawr hwn o dir wedi cael ei ddatblygu ar gyfer bywyd gwyllt yn y gorffennol, gyda phwll, sawl coeden ifanc wedi cael ei phlannu a thomenni coed a gwestai ar gyfer bygiau wedi cael eu hadeiladu o dan y coed. Yn anffodus, roedd yr ardal laswelltir yn y canol wedi cael ei gorchuddio â mieri ac felly penderfynasom greu dôl o flodau gwyllt yno dair blynedd yn ôl ar gyfer pryfed sy’n peillio a daethom ynghlwm â Buzz Trefol, prosiect a gychwynnwyd yn y lle cyntaf gan Buglife Cymru, sy’n awr yn cael ei redeg gan bartneriaeth Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd. Cafodd y tir ei baratoi gan grŵp o wirfoddolwyr ar ôl inni dderbyn 250 o blygiau blodau gwyllt, a ddewiswyd ar gyfer y pridd a’r blodau presennol, a phedwar gwesty gwych ar gyfer gwenyn y gwnaethom eu rhoi yn y ddôl. Yr haf hwn, roedd y blodau yn llythrennol yn gyforiog o fywyd. Cyrhaeddodd llawer o ieir bach tramor egsotig ac roedden nhw’n tueddu i hoffi blodau’r ysgallen. Yn ogystal, roedd yn wych gweld y cardwenyn llwydfrown anghyffredin a’r heriades truncorum prin. Erbyn mis Medi, roedd y gwestai gwenyn yn llawn a thorrodd Mac lwybr drwy’r ddôl fel y gallai rhieni fynd â’u plant o gwmpas y safle. Yn ogystal, rhoddwyd hysbysfwrdd yno er mwyn cofnodi canfyddiadau cyffrous eraill.
Mae gennym ni rhai bodau dynol eithaf arbennig yma hefyd a diolch i brosiect Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd, cynhaliwyd Diwrnod Darganfod ym mis Mehefin ar gyfer pawb. Er gwaetha’r glaw, mwynhaodd rhieni ac egin-arddwyr hela am fygiau, archwilio pyllau ac edrych am nadroedd defaid. Nid llysiau a ffrwythau yn unig yr ydym yn ei dyfu ar ein rhandir – rydym yn datblygu pobl sy’n hoff o natur hefyd.