To read this blog in English please click here

Roedd Sioe Frenhinol Cymru 2017 fel saffari ar gyfer ‘achub natur’ - roedd cyfle i beintio wynebau fel gloÿnnod byw, i chwilota am fywyd gwyllt mewn pyllau gyda’r teulu, i chwilio am fathodynnau mewn helfeydd trysor, ac i weld blodau gwyllt yn agor. Efallai eich bod wedi gweld gwleidyddion yn eistedd ar fêls gwair wrth fwynhau paned o de yn sgwrsio â ffermwyr a sgriblwyr nodiadau. Roedd ein pedwar diwrnod yn Sioe Frenhinol Cymru wedi eu llenwi â gweithgareddau a oedd yn dod â phobl at ei gilydd i ganfod, i werthfawrogi ac i warchod natur. Dyma grynodeb o’r hyn y buom yn ei wneud ac o'r etifeddiaeth mae hynny wedi’i gadael ar gyfer y dyfodol.

Ditectifs bywyd gwyllt

Roedd gweithgareddau ar gyfer teuluoedd yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos er mwyn dangos peth mor syfrdanol a diddorol yw natur. Cawsom hyd i fadfallod dŵr, larfau gwas y neidr, malwod dŵr croyw a jac y rhaca ymhlith pryfetach bychain eraill. Roedd gennym dditectifs bywyd gwyllt yn archwilio peledi tylluanod gwynion i ganfod pa fath o fwyd sydd ei angen ar y tylluanod i oroesi ar y fferm - roedd yn anhygoel cynifer o lygod a oedd mewn un peled! Hefyd, gwnaethom weision y neidr gan ddefnyddio glanhawyr pibelli a gleiniau, yn ogystal â lliwio a pheintio wynebau.

Gweithio gyda gwleidyddion i achub natur

Yn ystod cyfnod y sioe, cawsom gyfarfod â Ysgrifennydd Amgylcheddol Llywodraeth y DU, Michael Gove, Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Guto Bebb, ac AS newydd dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin. Buom yn trafod cyfreithiau’n ymwneud â natur ar ôl Brexit yn ogystal â thrafod sut bydd ffermwyr yn cael taliadau ar gyfer rheoli ein tir mewn modd cynaliadwy ar ôl i ni adael y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Er bod y cyfarfodydd hyn yn rhai cadarnhaol, mae llawer mwy i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau’r fargen orau ar gyfer natur.

Ddydd Llun, gwelsom Rhun ap Iorwerth AC, sy’n pencampwr rhywogaethau i’r frân groesgoch. Daeth draw gyda'i fab i chwilota rhywfaint yn y pyllau. Ddydd Mawrth, gwelsom y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) wrth iddynt lansio eu hadroddiad newydd ar goedwigaeth. Ddydd Mercher, cawsom gyfarfod â Jenny Rhathbone AC, sy’n pencampwr rhywogaethau i’r wennol ddu, a David Melding AC, sy’n pencampwr rhywogaethau i’r onnen. Roeddent yn lansiad ymgynghoriad ar raglen newydd Pwyllgor CCERA, ‘Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru’.

Gwnaethom gefnogi digwyddiad Cyswllt Amgylchedd Cymru wrth i’r rhwydwaith lansio ‘Gweledigaeth ar gyfer Rheoli Tir Cynaliadwy yng Nghymru’ (#GweledigaethiGymru), a wnaeth ddenu cynulleidfa o dros 100 o bobl. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn siarad â’r gynulleidfa ynglŷn â’r enghraifft wych hon o bartneriaeth sy'n gweithio i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer pobl a natur yng Nghymru. Mae Chris Baines yn awdur, yn gyflwynydd teledu ac yn amgylcheddwr blaenllaw, a rhoddodd grynodeb o’r weledigaeth mewn araith ysbrydoledig, cyn i ni gyd fynd am baned a chacen yn yr heulwen.

Gweithio gyda ffermwyr i achub natur

Cawsom gwrdd â ffermwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys aelodau o Fferm Ifan a Tegwch i’r Ucheldir, a chawsom siarad â ffermwyr ifanc sydd â diddordeb mewn ffermio sy’n cefnogi bywyd gwyllt. Cafodd Cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton, gyfle i eistedd ar banel NUF ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Natur ac undebau ffermio eraill, i siarad am ddyfodol ffermio a’r amgylchedd. Daeth Cyfarwyddwr Cadwraeth Fyd-eang RSPB, Martin Herper, i ymuno â ni yn y sioe, ac mae wedi cyhoeddi blog gwych yn sôn am ffermio ar ôl Brexit a sut y gall fformiwla Barnett effeithio ar Gymru.

Hefyd ddydd Llun, llofnododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a RSPB Cymru addewid i weithio gyda’i gilydd ar yr Ystad Ysbyty yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y ddwy elusen yn gweithio’n agos gyda ffermwyr yn yr ardal i ddarparu cadwraeth ar raddfa'r dirwedd, ac mae hyn yn gam mawr i natur yng Nghymru. Ar yr un diwrnod, bu i ni lofnodi ymgyrch CLA, sef Countryside Matters – enghraifft wych o sut y gall undebau ffermio a chadwraethwyr weithio tuag at yr un nodau ar gyfer ein planed.

Roedd Sioe Frenhinol Cymru yn llawn dop o bethau amrywiol i’w gwneud a’u gweld, ond yn bwysicach fyth, roedd pob diwrnod yn cynnwys camau sydd wedi helpu i achub natur yn y pen draw. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld hyd yn oed mwy o bobl y flwyddyn nesaf, a pharhau ar ein taith i ddod â hyd yn oed mwy o bobl yn agosach at natur a bywyd gwyllt.